Heddiw (21 Mai) yw Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang.
O fewn Taith y Myfyriwr, mae gennym Dîm Hygyrchedd a Lles sy’n gweithio gyda myfyrwyr trwy gydol y flwyddyn. Mae’r Tîm yn cynnwys dros 50 o staff cynorthwyol anfeddygol sy’n darparu cymorth mentora neu sgiliau astudio 1:1 i fyfyrwyr ag anabledd neu wahaniaeth dysgu.
Y llynedd fe wnaethant gefnogi dros 800 o’n myfyrwyr – mae nifer y myfyrwyr y maent yn eu cefnogi wedi cynyddu 34% yn y pum mlynedd diwethaf.
Dyma beth mae ein myfyrwyr wedi bod yn ei ddweud am y tîm eleni:
… hynod o werthfawr, gan ganiatáu i mi… aros yn y brifysgol trwy gydol yr heriau niferus sydd wedi codi yn ystod fy nghwrs.
… wir wedi gwerthfawrogi … [cael]… cefnogaeth barhaus trwy gydol ein gradd gyfan gan yr un bobl (yn hytrach na staff gwahanol bob blwyddyn). Rwy’n awtistig ac mae hynny’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i mi.
[Y gweithiwr cymorth] oedd yr unigolyn pwysicaf yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol… heb y gwasanaethau byddwn yn cael llai o drefn a diddordeb gan eraill, sef y ddwy elfen fwyaf hanfodol yn fy llwyddiant yn y brifysgol.
Credwn fod y myfyriwr hwn yn crynhoi’r gwasanaeth yn berffaith: “Anhygoel… Hollol wych… Ffantastig… Rhyfeddol… Amhrisiadwy… o’r radd flaenaf”
Ond nid y staff hyn yn unig sy’n gwneud yn siŵr bod yr hyn a wnawn mor hygyrch â phosibl. Dyma rai o’r pethau y mae ein timau eraill yn eu gwneud.
Cynnwys Blackboard
Mae Blackboard Ally ar gael i bob myfyriwr a staff yn y brifysgol. Eleni mae 59,541 o ddogfennau wedi’u lawrlwytho mewn fformat amgen gan 3,894 o ddefnyddwyr. Y fformat mwyaf cyffredin yw’r PDF wedi’i dagio.
Mae staff wedi gwneud 3,417 o atgyweiriadau i’r cynnwys – dyna 3,417 o newidiadau sy’n gwneud deunyddiau addysgu yn fwy hygyrch i’w defnyddio.
Sgôr cwrs cyfartalog Ally ar gyfer cyrsiau 2025-26 yn Blackboard yw 72%.
Ym mis Tachwedd 2025, cymerodd PA ran yn Niwrnod Trwsio’ch Cynnwys Blackboard a daethant yn 3ydd yn y DU am nifer yr atgyweiriadau i gynnwys Blackboard a wnaed.

Llyfrau ac erthyglau mewn cyfnodolion
Mae’r holl sganiau o benodau o lyfrau ac erthyglau mewn cyfnodolion y mae ein gwasanaeth digido yn eu paratoi ar gyfer rhestrau darllen mewn fformat hygyrch. Maent yn defnyddio sganio OCR (Adnabod Nodau Gweledol), sy’n golygu bod sganiau wedi’u huwchlwytho o benodau o lyfrau ac erthyglau mewn cyfnodolion mewn rhestrau darllen yn gwbl ddarllenadwy, chwiliadwy a hygyrch. Yn ogystal â chydymffurfio â deddfwriaeth, mae’r sganiau hyn yn hygyrch i bob dysgwr. Mae dogfennau OCR wedi’u sganio yn gydnaws â thechnolegau cynorthwyol megis darllenwyr sgrin, ac mae ganddynt gyfleusterau llywio testun hefyd.
Yn ogystal â sganio eitemau ar gyfer rhestrau darllen, gall y tîm hefyd greu copïau hygyrch ar gyfer llyfrau i fyfyrwyr sydd wedi datgan anabledd i’r brifysgol. Mae gennym drwydded sy’n galluogi i ni wneud neu ddod o hyd i gopïau hygyrch o lyfrau os nad oes fersiwn hygyrch addas ar gael i’w brynu. Os nad yw testun wedi’i gynnwys gan y drwydded ond ein bod yn berchen ar gopi gwreiddiol, efallai y byddwn yn dal i gynhyrchu copi hygyrch ar gyfer astudiaeth bersonol neu ymchwil.
Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr cymwys a gellir ei ddefnyddio drwy e-bostio digideiddio@aber.ac.uk.
Eitemau synhwyraidd ar gyfer sesiynau lles
Cyflwynodd y staff yn ein Gwasanaeth Lles focsys o eitemau synhwyraidd y gellir eu cynnig i fyfyrwyr mewn sesiynau Lles i’w helpu i reoli’r angen am hunan-ysgogi (stimio). Dyma enghraifft o’r eitemau sydd ar gael:

Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial
Mae ein llyfrgell ysgogiadau DA newydd sydd ar gael i bawb yn cynnwys gwybodaeth am ddefnyddio DA i ddefnyddwyr sydd â gofynion hygyrchedd. Gallwch weld rhai enghreifftiau o hyn mewn rhai enghreifftiau o’r llyfrgell ysgogiadau
- Ailysgrifennu mewn Iaith Eglur
“Ailysgrifennwch y testun canlynol mewn iaith eglur, hawdd ei deall gan gadw’r ystyr gwreiddiol. Torrwch frawddegau cymhleth yn gamau byrrach a thynnwch unrhyw jargon diangen. Tynnwch sylw at unrhyw dermau a allai fod angen esboniad o hyd.”
- Canllaw Cam wrth Gam Niwroamrywiaeth-Gyfeillgar
“Trowch y dasg hon yn ganllaw cam wrth gam sy’n addas ar gyfer dysgwyr niwrowahanol. Cofiwch gynnwys camau byr, clir, delweddau neu drosiadau dewisol, a chrynodeb o bwyntiau allweddol. Osgowch fanylder llethol iawn. Peidiwch ag ychwanegu cynnwys nad yw’n gysylltiedig â’r dasg.”
Dod o hyd i’ch ffordd o amgylch y llyfrgell.
Mae AccessAble yn adnodd gwych sy’n helpu i hwyluso’r broses o gynllunio ar gyfer, a llywio’r Campws yma yn Aberystwyth. Mae’n darparu gwybodaeth i bobl am bethau megis lle parcio hygyrch, mynediad ramp, ble mae’r dolenni clyw a ble y gallant ddod o hyd i doiledau hygyrch. Gall hyn fod yn wirioneddol galonogol i bobl wrth iddynt gynllunio i fynychu rhywle sy’n newydd a/neu’n anghyfarwydd.


