Efallai eich bod chi, fel finnau, yn llawenhau o glywed fod archif y BBC o raglennu radio a theledu hanesyddol erbyn hyn ar gael trwy Box of Broadcasts.
O’m rhan i, rwy’n ysu am gael gwylio hwyl a sbri ôl-apocalyptaidd Z for Zachariah (a ddarlledwyd yn 1984 fel rhan o’r gyfres Play for Today). Os nad yw hwn at eich dant, beth am Allen Ginsberg a William Burroughs yn siarad am Jack Kerouac ar Arena yn 1988? Na, ddim i chi? Beth am bennod, efallai, o Horizon o’r flwyddyn 1980 sy’n edrych ar sut mae prosesyddion geiriau sy’n cael eu rheoli â llais yn mynd i chwyldroi bywyd y swyddfa? Neu beth am daith bersonol o gwmpas Stratford upon Avon yng nghwmni’r dramodydd Huw Lloyd Edwards yn y rhaglen Arall Fyd o’r flwyddyn 1972?
Wrth gwrs, y BBC yw hon, ac felly mae cymaint mwy i’w gael: uchafbwyntiau diwylliannol (Shakespeare ar Deledu’r BBC); adloniant ysgafn arloesol (Multi-Coloured Swap Shop – dyna fy mhlentyndod i!). Mae rhaglenni newyddion blaenllaw (Newsnight) ac adroddiadau hanesyddol o ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol o bwys (Yesterday’s Witness). Dyma gasgliad o adnoddau sy’n unigryw o ran ansawdd a dyfnder.
Mae Box of Broadcasts wedi paratoi gwybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i ddod o hyd i’r cynnwys hanesyddol yn yr archif, ond os cewch anhawster gydag unrhyw beth, cofiwch gysylltu â’ch llyfrgellydd pwnc am gymorth.
Dyma ambell ddolen ddefnyddiol arall i’ch helpu i ymgyfarwyddo â Box of Broadcasts.
- Sut ydw i’n cofrestru ar gyfer Box of Broadcasts?
- Sut mae recordio rhaglenni yn BoB?
- Sut ydw i’n chwilio yn Box of Broadcasts? (Saes yn unig)
- Pam na allaf gyrchu cynnwys Box of Broadcasts pan fyddaf dramor? (Saes yn unig)
A rhai dolenni defnyddiol ar gyfer staff sy’n addysgu: