Maeâr rhan fwyaf o systemau Deallusrwydd Artiffisial (DA) wediâu hyfforddi i fod yn gymwynasgar, cwrtais a dymunol, doed a ddelo. Mae hynnyân wych pan fyddwch chiân gofyn am rysĂĄit hawdd am lasagna neuân chwilio am âbawen lawenâ rithiol ar Ă´l i chi redeg 5K yn nannedd y gwynt aâr glaw. Bydd bob amser âDa iawn!â yn aros amdanoch yn y blwch sgwrsio. Maeân rhyw fath o sticer seren aur ddigidol ar eich cerdyn adroddiad oedolyn, yn cadarnhauâch bod chiân hollol anhygoel am yr holl âfod-yn-oedolynâ beth.
Ond fe ddaw adeg pan ddechreuwch deimlo bod y DA wedi mynd yn rhyw fath o ffan eithafol ohonoch chi. Mae pob un oâch cwestiynauân âardderchog,â pob un sylw yn âddeallus,â aâch dewisiadauân âberffaithâ (er, rhaid cyfaddef, nad oedd y streipiau llorweddol ar fy ffigwr braidd yn âarwrolâ yn hollol berffaith, mewn gwirionedd. Beth yn y byd ddaeth dros dy ben, DA?!).

Maeâr seboni syân dod o Ddeallusrwydd Artiffisial yn gallu bod yn rhyfeddol o swynol. Mae clywed âNa, rwyt tiân wychâ yn gallu rhoi dogn o serotonin i chi, aâr hwb roedd ei wir angen arnoch. Ond y tu Ă´l iâr cadarnhad cyfeillgar hwnnw, maeân bosib bod rhywbeth mwy tywyll yn llechu; pan fo peiriannau wediâu cynllunio iân plesio, fe allwn yn hawdd gamgymryd y cytuno hwnnw am gywirdeb.
A dyna le mae pethauân mynd yn draed moch. Os aiff pethau o sgwrsio am siwmperi (neu am gathod fel arglwyddi newydd arnom) i bethau sydd angen eu cymryd o ddifri, boed hynnyân wleidyddiaeth, iechyd neuâr newyddion, maeâr un awydd i gytuno yn gallu arwain at ledaenu camwybodaeth. Nid yw DA wediâi lunio i ddadlau; mae wediâi lunio iân cadw niân hapus. Nid y gwirionedd moâi nod, ond bodlonrwydd. Ac rydyn ni, bodau dynol, wrth ein bodd pan gytunir â ni, yn enwedig gan beiriannau syân ein canmol ni fel ffrindiau gor-frwd.
Aâr canlyniad? Siambr atseinio gyfeillgar fach syân ein gwenieithu nes ein bod niân teimloân fwyfwy clyfar wrth iân galluoedd meddwl yn feirniadol ar yr un pryd fynd yn wannach. Os yw popeth a wnawn yn hollol wych, efallai y dechreuwn ddrysu rhwng cadarnhad a dealltwriaeth, boed hynnyân perthyn i ni neuâr Deallusrwydd Artiffisial.
Rwyân deall, maeân braf cael eich clodfori. Ond maeân rhaid gwthio heibio iddo weithiau a chraffuân fanwl ar yr hyn maeâr DA yn ei gynnig i ni. Meddyliwch amdani fel coginioâr lasagna hwnnw gyda ffrind cwrtais a chymwynasgar iawn syân dweud, âPerffaith!â drwyâr amser. Weithiau, mae angen i chi ei flasuâch hunan er mwyn cael gwybod a ydywân dda mewn gwirionedd.



