DA a’r Llyfrgell – Wythnos dau. Adolygiad Offeryn: ChatGPT

Y dyddiau hyn mae’n teimlo fel na all munud basio heb i rywun sôn am Ddeallusrwydd Artiffisial. Mae fel pe bai wedi bod yn rhan o’n bywydau bob dydd erioed! Ond credwch neu beidio, dim ond ers tua 18 mis y mae ChatGPT OpenAI wedi ymddangos a chychwyn y chwyldro DA (neu’r holl chwiw DA, gan ddibynnu ar eich safbwynt!)

Pa bynnag derm sydd orau gennych, ni fydd DA yn diflannu yn fuan, felly yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn yn ystyried rhai o’r offer DA cynhyrchiol mwyaf poblogaidd. Byddwn yn adolygu rhai o’u nodweddion, yn trafod eu cyfyngiadau, ac yn darparu ychydig o awgrymiadau cyflym ar sut i’w defnyddio’n effeithiol.

Gan mai ChatGPT oedd yr offer DA cynhyrchiol cyntaf i ddal dychymyg pobl, beth am edrych yn agosach ar yr hyn y gall ei wneud, a sut y gallwch chi fanteisio i’r eithaf arno.

Fel y mae’r enw’n awgrymu, mae ChatGPT (yn yr un modd â nifer o’r offer DA y byddwn yn edrych arnynt yn y gyfres hon) wedi’i gynllunio ar gyfer sgwrsio. Mae ei ryngwyneb syml yn galluogi defnyddwyr i ryngweithio ag offer DA sydd wedi’i hyfforddi ar lawer iawn o ddata. Mae’r hyfforddiant hwn yn caniatáu iddo gynhyrchu ymatebion tebyg i ymatebion pobl i ysgogiadau (gall ysgogiad fod yn gwestiwn, yn ddatganiad, neu’n orchymyn sy’n llywio’r DA i gynhyrchu ymateb.) Am fwy o wybodaeth, ewch i’n Canllaw DA.

Dyma edrych yn agosach ar yr hyn y gall ChatGPT (ac offer DA eraill) ei wneud:

  • Ateb cwestiynau: Gall ChatGPT ddarparu gwybodaeth ac esboniadau ar amrywiaeth o bynciau, gan ei wneud yn adnodd defnyddiol ar gyfer dysgu.
  • Cynhyrchu Cynnwys Ysgrifenedig: Mae ChatGPT yn wych ar gyfer goresgyn rhwystrau awdur (writer’s block) ac ar gyfer gwirio eich ysgrifennu o ran gramadeg, sillafu, eglurder, ac arddull.
  • Crynhoi Gwybodaeth: Gall gymryd testunau hir a’u cyddwyso i grynodebau byrrach, gan eich helpu i amgyffred y prif bwyntiau’n gyflym.
  • Cyfieithu Ieithoedd: Gall ChatGPT gyfieithu testun o un iaith i’r llall, gan ei gwneud hi’n haws i bobl gyfathrebu a deall ei gilydd.
  • Cymryd rhan mewn sgyrsiau: Gall yr offer efelychu sgyrsiau, gan ei gwneud hi’n ffordd hwyliog o ymarfer sgiliau iaith, paratoi ar gyfer cyfweliad swydd, neu gael sgwrs gyfeillgar.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gall offer DA megis ChatGPT ei wneud, ewch i’n Canllaw DA.

Gall defnyddio ChatGPT fod yn ddefnyddiol (ac yn hwyl!) ond cofiwch fod yna anfanteision i’w ddefnyddio hefyd.

Er enghraifft:

  • Gwybodaeth gamarweiniol: Gall ChatGPT weithiau ddarparu atebion anghywir, hen neu ragfarnllyd, a allai effeithio ar ansawdd eich gwaith neu eich dealltwriaeth.
  • Gor-ddibyniaeth ar dechnoleg: Gall dibynnu gormod ar ChatGPT lesteirio meddwl beirniadol a chreadigrwydd, gan y gallai defnyddwyr ddibynnu arno am atebion yn hytrach na datblygu eu syniadau eu hunain.
  • Risgiau Llên-ladrad: Gall myfyrwyr ddefnyddio DA i gynhyrchu cynnwys nad yw’n eiddo iddynt hwy, gan arwain at broblemau llên-ladrad.

I gael rhagor o wybodaeth am anfanteision defnyddio offer DA megis ChatGPT, ewch i’n Canllaw DA.

 

Awgrymiadau Da ar gyfer Defnyddio Chat GPT:

  • Byddwch yn glir ac yn benodol: Pan fyddwch chi’n gofyn cwestiwn i ChatGPT neu’n rhoi tasg iddo, byddwch mor glir a manwl â phosibl. Po fwyaf penodol ydych chi, gorau oll y gall y DA ddeall yr hyn sydd ei angen arnoch a darparu ymateb perthnasol.
  • Dechreuwch yn syml: Dechreuwch gyda cheisiadau syml. Os oes gennych gwestiwn neu dasg gymhleth, torrwch hwy i lawr i rannau llai. Mae hyn yn helpu ChatGPT i ganolbwyntio ar un peth ar y tro, gan arwain at atebion gwell.
  • Defnyddiwch gwestiynau dilynol: Gall ChatGPT gynnal cyd-destun sgwrs felly peidiwch ag oedi cyn gofyn cwestiynau dilynol neu roi manylion ychwanegol ar ôl yr ymateb cychwynnol. Mae hyn yn eich galluogi i fireinio’r sgwrs a chael gwybodaeth fwy cywir neu wedi’i theilwra.

I gael rhagor o wybodaeth am y ddefnyddio ChatGPT yn effeithiol, ewch i’n Canllaw DA.

Ychydig o gafeatau:

  • Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn cymeradwyo unrhyw un o’r offer DA hyn ar hyn o bryd.
  • Rhaid i chi ddilyn y canllawiau ar ddefnyddio DA a gyhoeddir gan eich adran (lle bônt ar gael)

Yn ein blog nesaf: byddwn yn edrych ar beirianneg ysgogiadau, a byddwn yn rhannu rhai awgrymiadau gwerthfawr ar sut y gall dylunio ysgogiadau effeithiol wella cywirdeb a pherthnasedd allbynnau DA.

SgiliauAber. Eich hyb sgiliau chi

Ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau ysgrifennu academaidd, dysgu am y llyfrgell a’i hadnoddau, mynd i’r afael â chyfeirio, neu wella eich sgiliau cyflogadwyedd?

Newyddion da! Mae’r pynciau hyn a mwy yn cael sylw yn rhaglen Semester 1 SgiliauAber, sydd ar gael am ddim i bob myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cynhelir Gweithdai SgiliauAber drwy gydol y flwyddyn academaidd ac maent yn gymysgedd o sesiynau wyneb yn wyneb a sesiynau ar-lein. Mae’r rhan fwyaf o’r sesiynau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Cewch weld rhestr o’r holl weithdai ar wefan SgiliauAber. Ewch draw i weld beth sydd ar gael ac archebwch eich lle gyda chlic.

Os byddwch yn colli sesiwn ac eisiau dal i fyny, mae deunyddiau addysgu’r gweithdai sgiliau academaidd a llyfrgell ar gyfer 2023-2024 ar gael ar Blackboard o dan Mudiadau. Bydd deunyddiau addysgu’r gweithdai 2024-2025 yn cael eu llwytho yn fuan ar ôl y sesiynau.

DA a’r Llyfrgell – Wythnos Un. Ein Canllaw a’n Cyfres Blogbost Newydd

Mae’r tîm o Lyfrgellwyr Pwnc wedi bod yn gweithio’n galed dros yr “haf” (os gallwn ni ei alw’n haf gyda’r holl law!) i ddod â Chanllaw diweddaredig i chi sy’n amlinellu sut y gallwch ddefnyddio DA i fanteisio i’r eithaf ar adnoddau’r llyfrgell.

Sgrinlun o’r Canllaw DA a’r Llyfrgell newydd

Mae’r Canllaw yn cynnig cyngor ar:

  • Sut y gallwch ddefnyddio DA.
  • Rhai o’r offer DA a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
  • Manteision defnyddio DA dros beiriannau chwilio traddodiadol.
  • Defnydd priodol a moesegol o offer DA.
  • Adeiladu anogwyr yn effeithiol.
  • Rhai o’r risgiau posibl o ddefnyddio DA (gan gynnwys materion sy’n ymwneud â thorri hawlfraint, rhagfarn a diogelu data).
  • Effaith DA ar uniondeb academaidd

Gellir gweld Dolenni i’r Canllaw yma:

Fel cydymaith i’r Canllaw, rydym yn mynd i gynnig cyfres o bostiadau blog a fydd yn edrych ar y cyngor a roddir yn y canllaw yn fanylach ac yn cynnig rhai awgrymiadau ymarferol ar gyfer defnyddio DA.

Dyma gipolwg o’r hyn y gallwch ei ddisgwyl yn ystod yr wythnosau nesaf:

  • Adolygiadau o offer DA.
  • Cyngor ymarferol ar adeiladu anogwyr effeithiol.
  • Datblygu chwiliadau allweddair clyfar.
  • Darganfod adnoddau sy’n gysylltiedig â’ch maes astudio.
  • Gwerthuso allbynnau DA trwy gymhwyso’r prawf CCAPP.
  • Risgiau defnyddio DA.

Gobeithiwn y bydd y Canllaw a’r gyfres o bostiadau blog yn ddefnyddiol. Mae’n bwysig pwysleisio serch hynny ei bod hi’n rhaid i chi ddilyn y canllawiau ar ddefnyddio DA a gyhoeddir gan eich adran (lle bônt ar gael).

Dewch i nabod eich llyfrgellwyr

Mae Llyfrgellwyr Pwnc yn darparu hyfforddiant ar sgiliau gwybodaeth ac yn cynnig cymorth a chyngor ar ddefnyddio’r llyfrgelloedd, dod o hyd i adnoddau ar gyfer eich aseiniadau a chyfeirnodi. Maen nhw hefyd yn edrych ar ôl eich rhestrau darllen a’ch canllawiau pwnc. 

7 Llyfrgellydd Pwnc sy’n gweithio i Lyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth, pob un a’i faes arbenigedd. 

Mae croeso mawr ichi drefnu cyfarfod MS Teams gyda’ch Llyfrgellydd Pwnc os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddefnyddio’r Llyfrgell neu os hoffech gyngor – cewch wneud hyn ar-lein yma, neu drwy e-bost. Anfonnwch neges atyn nhw i ddweud helo!

Simone Anthonysia1@aber.ac.uk

Simone yw ein Llyfrgellydd Pwnc newydd sbon ar gyfer Addysg Gofal Iechyd.

Pan oeddwn i’n bedair ar ddeg oed, gwirfoddolais yn fy llyfrgell leol i gael profiad gwaith. Mwynheais dreulio oriau yn didoli’r cardiau llyfrgell cardbord i’r drôr derw hardd yn nhrefn yr wyddor. Mi wnaeth yr awydd i deithio yn ddiweddarach fy arwain i ddilyn gyrfa ym myd dawns. Dychwelais i fyd llyfrgelloedd trwy raddio gyda gradd Addysg ac Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgell, yn dri deg tri oed, ar ôl astudio’n rhan-amser o amgylch swydd amser-llawn fel hyfforddwr dawns yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Rwyf wedi cael fy nghyflogi yn Llyfrgell Hugh Owen ers 2017, ac mae’n anrhydedd o’r mwyaf mai fi yw llyfrgellydd pwnc cyntaf Aberystwyth ar gyfer Gofal Iechyd.

Joy Cadwallader – jrc@aber.ac.uk

Llyfrgellydd Pwnc ar gyfer Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Ieithoedd Modern a Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yw Joy.

Roeddwn yn llyfrgellydd ysgol ac ro’n i’n gweithio yn llyfrgell gyhoeddus Aberystwyth yn yr 1980au fel rhan o gynllun creu swyddi. Ers hynny rwyf wedi cael rolau yn y Brifysgol fel gweithredwr cyfrifiaduron ac ymgynghorydd desg gymorth TG cyn dod yn llyfrgellydd pwnc. Yn fy amser hamdden, rwyf wrth fy modd yn ymweld â phrosiectau bywyd gwyllt lleol, gwrando ar e-lyfrau llafar, cadw’n heini a gwylio beicio ffordd proffesiynol ar y teledu.

Simon French sif4 Simon French – sif4@aber.ac.uk

Cyfrifiadureg, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Mathemateg a Ffiseg yw meysydd arbenigedd Simon.

Yn blentyn, roeddwn i’n ddarllenydd ac yn gasglwr llyfrau brwd. Fel oedolyn, bues i’n gweithio am lawer o flynyddoedd anhapus yn y fasnach lyfrau ail-law a phrin cyn dod yn llyfrgellydd yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gallai hyn oll eich arwain i feddwl fy mod yn dipyn o ferlod un tric, ond hoffwn ei gwneud yn gwbl glir fy mod yn mwynhau pethau ar wahân i lyfrau, fel… yym…

Anita Saycell aiv Anita Saycell – aiv@aber.ac.uk

Edrycha Anita ar ôl Busnes, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ac Astudiaethau Gwybodaeth.

Dechreuais wirfoddoli mewn llyfrgelloedd yn 14 oed, yna cefais fy swydd llyfrgell â thâl gyntaf yn 16 oed yn gweithio ar ddyddiau Sadwrn – a dyna fy rhoi i ar ben ffordd.  Pan nad ydw i allan yn beicio ar fryniau tonnog Ceredigion, rwy’n mwynhau addysgu a helpu pobl, felly cysylltwch ag unrhyw gwestiwn waeth pa mor fawr neu fach! 

Non Jones nrb Non Jones – nrb@aber.ac.uk

YGFA: Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth, Gwyddorau Bywyd, a Dysgu Gydol Oes yw meysydd pwnc Non.  

Ers i mi gael profiad gwaith yn fy llyfrgell gyhoeddus leol yma yn Aberystwyth pan yn ddisgybl yn yr ysgol uwchradd (…a dwi’n mynd nôl sawl blwyddyn nawr!), roeddwn yn gwybod mai ym myd y llyfrau yr hoffwn fod. Ymunais â Gwasanaethau Gwybodaeth yn 2001 a sawl blwyddyn yn ddiweddarach enillais radd ôl-raddedig mewn Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgell yma yn y Brifysgol fel dysgwr o bell.  Yn fy amser sbâr – rhwng edrych ar ôl y teulu, cathod, ieir a bochdewion – rwy’n mwynhau darllen a bod yn greadigol gyda chelf, crefft a chaligraffi.

Sarah Gwenlan ssg Sarah Gwenlan – ssg@aber.ac.uk

Mae Sarah yn Llyfrgellydd Pwnc ar gyfer Addysg, y Ganolfan Saesneg Ryngwladol a Seicoleg.

Cyn dod i weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth, bues i’n dysgu Saesneg yn Sbaen, y Weriniaeth Tsiec, yr Eidal a Gwlad Pwyl. Rwyf hefyd wedi gweithio yn y Gwasanaethau Gyrfaoedd yn SOAS a Chasnewydd, felly gallech ddweud fy mod yn gyfarwydd â gweithio gyda myfyrwyr! Cysylltwch os oes angen help arnoch, dyna pam rwyf yma!

Lloyd Roderick glr9Lloyd Roderick – glr9@aber.ac.uk

Mae Lloyd yn gyfrifol am y pynciau Celf a Hanes CelfCyfraith a ThroseddegCymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Hanes a Hanes Cymru. 

Roeddwn i eisiau gweithio mewn llyfrgelloedd ar ôl treulio llawer o amser yn hongian o gwmpas y casgliad cerddoriaeth yn Llyfrgell Gyhoeddus Llanelli ar ôl sylweddoli bod ôl-gatalog Sonic Youth ar gael i’w fenthyg. Ar ôl y brifysgol, bues i’n gweithio yn Llyfrgell y Sefydliad Astudiaethau Cyfreithiol Uwch, Prifysgol Llundain, yna astudiais MSc mewn Gwyddor Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth.  Yn ddiweddarach, gweithiais yn llyfrgelloedd cyhoeddus Casnewydd a Llyfrgell Sefydliad Celf Courtauld.  Yn ddiweddarach, ymgymerais â PhD yn astudio casgliadau celf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru…. mae hyn i gyd wedi gosod sylfaen dda i mi gefnogi myfyrwyr a staff yn yr adrannau rwy’n gweithio gyda nhw fel Llyfrgellydd Pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth.  

Yn fy amser hamdden rwy’n asesydd ar Banel Cofrestru Proffesiynol CILIP (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Proffesiynol) ac rwyf wedi curadu arddangosfeydd ar foderniaeth a chelf gyfoes yng Nghymru.