P’un a ydych yn cynllunio ymlaen llaw ar gyfer eich traethawd hir neu’n hanner ffordd drwy’r broses ac yn difaru pob penderfyniad hyd yn hyn, gall y canllaw hwn eich helpu!
Yn y canllaw, mi ddewch o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch i ddeall a rheoli’r broses o ysgrifennu traethawd hir – o ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth a datblygu eich technegau chwilio i werthuso a chyfeirnodi’r ffynonellau hynny.
Mae ein canllaw Newyddion a Chyfryngau yn adnodd cynhwysfawr a chlir i’ch helpu llywio’r newyddion a chyfryngau drwy gydol eich amser yn y Brifysgol a thu hwnt.
Diogelu eich delwedd ar-lein
Diffinio cysyniadau allweddol megis rhyddid mynegiant, camwybodaeth a thwyllwybodaeth, a sensoriaeth
Dysgwch sut mae algorithmau’n cael eu defnyddio i dargedu pobl ar y cyfryngau cymdeithasol
Deall cysyniadau dethol a thuedd
Eglurwch beth yw newyddion ffug a dysgu sut i’w adnabod
Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ddigwyddiad blynyddol sy’n adlewyrchu ar hanesion a diwylliannau pobl dduon ledled y byd. Mae’r digwyddiad, a gychwynnodd yn America, wedi cael ei nodi bob mis Hydref yn y DU ers 1987.
Ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon, mae Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi rhestr ddarllen newydd sy’n cynnig cyfle i archwilio agweddau o Hanes Pobl Dduon sydd efallai yn llai adnabyddus:
Profwch Hanes Pobl Dduon mewn barddoniaeth drwy weithiau diweddar gan enillydd Gwobr Dylan Thomas Kayombo Chingonyi (Kumukanda) a chasgliad cyntaf Raymond Antrobus The Perseverance. Ymgollwch yng nghasgliad ar-lein syfrdanol Proquest One Literature African American Poetry sydd yn cynnwys bron i 3,000 o gerddi gan feirdd Americanaidd Affricanaidd o’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae llawer o e-adnoddau gwych ar y rhestr, ond peidiwch â cholli Proquest One Literature Black Writing and World Literature Collection sy’n dwyn ynghyd y casgliad llenyddiaeth mwyaf a’r un mwyaf cynhwysol a guradwyd erioed. Rydym yn tynnu sylw at y prosiectau arbennig canlynol:
Mae Black Women Writers yn cyflwyno 100,000 o dudalennau o lenyddiaeth a thraethodau ar faterion ffeministaidd – o ddarluniadau o gaethwasiaeth yn yr 18fed ganrif i waith awduron yn niwedd y 1950au a’r 1960au wedi i don o annibyniaeth ysgubo ar draws Affrica.
Daeth dros filiwn a hanner o Affricaniaid, ynghyd â phobl o India a De Asia, i’r Caribî rhwng y 15fed a’r 19eg ganrif. Heddiw, mae eu disgynyddion wrthi’n creu llenyddiaeth sydd â chysylltiadau cryf ac uniongyrchol â mynegiant Affricanaidd traddodiadol.
82,000 o dudalennau a mwy na 11,000 o weithiau o ffuglen fer mewn amrywiaeth o draddodiadau sydd yn Black Short Fiction and Folklore – o draddodiadau llafar Affricanaidd cynnar i hip-hop – mae’n cwmpasu chwedlau, damhegion, baledi, straeon gwerin, a straeon a nofelau byrion.
Ceir adnoddau o bob math ar y rhestr, rhai ffisegol a rhai ar-lein, felly p’un a ydych ar y campws neu oddi arno, mae rhywbeth i bawb. Galwch heibio ein harddangosfa ar Lefel F Llyfrgell Hugh Owen a fydd yno drwy gydol mis Hydref.