Mis Hanes Pobl Dduon

black history month 2021 poster

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ddigwyddiad blynyddol sy’n adlewyrchu ar hanesion a diwylliannau pobl dduon ledled y byd. Mae’r digwyddiad, a gychwynnodd yn America, wedi cael ei nodi bob mis Hydref yn y DU ers 1987.

Ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon, mae Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi rhestr ddarllen newydd sy’n cynnig cyfle i archwilio agweddau o Hanes Pobl Dduon sydd efallai yn llai adnabyddus:

Hanes Pobl Dduon Cymru

Archwiliwch Hanes Pobl Dduon yng Nghymru gan ddysgu am rôl Cymru mewn caethwasiaeth ac hefyd ei rôl ganolog wrth ei diddymu (Slave Wales gan Chris Evans); ewch ar daith bersonol o hunan-ddarganfyddiad a hunaniaeth hil-gymysg (Sugar and Slate gan Charlotte Williams) a darganfod y gyfrol Gymraeg gyntaf i drafod y portread o amlddiwyllianedd yng Nghymru mewn ffuglen (Y Gymru Ddu ar Ddalen Wen gan Lisa Sheppard). Cawn hefyd hanesion o’r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth yng Nghymru’r 18fed ganrif yn Canu Caeth: y Cymry a’r Affro-Americaniaid gan Daniel G. Williams.

Hanes Pobl Dduon Prydain

Yn yr adran hon, awn i’r byd academaidd Prydeinig a dysgu am brofiadau menywod a myfyrwyr o liw (Inside the ivory tower a olygwyd gan Deborah Gabriel a Shirley Tate  ac Insider-Outsider: The Role of Race in Shaping the Experiences of Black and Minority Ethnic Students by Sofia Akel). Cawn wybod sut y caiff effaith diwylliannol gwleidyddiaeth hil a gwrth-hiliol ei hadlewyrchu mewn llenyddiaeth Asiaidd Prydeinig a Du Prydeinig (Race and antiracism in Black British and British Asian literature gan Dave Gunning), cawn ddilyn naratif hanesyddol o leiafrifoedd hiliol Prydain (Staying Power: The History of Black People in Britain, Peter Fryer) a chael profi argyfwng hunaniaeth hynod Brydeinig (Afua Hirsch- Brit(ish): on race, identity and belonging).  

Hanes Pobl Dduon mewn Barddoniaeth

Profwch Hanes Pobl Dduon mewn barddoniaeth drwy weithiau diweddar gan enillydd Gwobr Dylan Thomas Kayombo Chingonyi (Kumukanda) a chasgliad cyntaf Raymond Antrobus The Perseverance. Ymgollwch yng nghasgliad ar-lein syfrdanol Proquest One Literature African American Poetry sydd yn cynnwys bron i 3,000 o gerddi gan feirdd Americanaidd Affricanaidd o’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Llyfrau Ffuglen a Ffeithiol

Mae gennym argymhellion ffuglen ar eich cyfer megis nofelau a gyhoeddwyd yn ddiweddar, y nofel Gymraeg Safana gan Jerry Hunter a Queenie gan Candice Carty-Williams, nofelau arobryn cyfoes (An American Marriage gan Tayari Jones; Girl, Woman, Other gan Bernadine Evaristo), nofelau clasurol (To Kill a Mockingbird, Harper Lee; Beloved gan Toni Morrison ac Invisible Man, Ralph Ellison) a ffuglen Oedolion Ifanc poblogaidd (Children of Blood and Bone gan Tomi Adeyemi a The Hate U Give gan Angie Thomas )

Yn ein detholiad o lyfrau ffeithiol, dewch o hyd i hunangofiannau a bywgraffiadau pobl dduon ddylanwadol (Becoming gan Michelle Obama) ac ystod o gasgliadau o draethodau a sylwebaethau gwleidyddol a chymdeithasol heriol (I will not be erased, gal-dem; Slay in your lane: the Black girl bible, Yomi Adegoke; Natives, Akala; Don’t touch my hair, Emma Dabiri). 

Adnoddau Ar-lein

Mae llawer o e-adnoddau gwych ar y rhestr, ond peidiwch â cholli Proquest One Literature Black Writing and World Literature Collection sy’n dwyn ynghyd y casgliad llenyddiaeth mwyaf a’r un mwyaf cynhwysol a guradwyd erioed. Rydym yn tynnu sylw at y prosiectau arbennig canlynol:

African Writers Series​ 

Mae’r casgliad ar-lein hwn yn cynnwys dros 250 o gyfrolau o ffuglen, barddoniaeth, drama a rhyddiaith gan awduron Affricanaidd.

Black Women Writers​ 

Mae Black Women Writers yn cyflwyno 100,000 o dudalennau o lenyddiaeth a thraethodau ar faterion ffeministaidd – o ddarluniadau o gaethwasiaeth yn yr 18fed ganrif i waith awduron yn niwedd y 1950au a’r 1960au wedi i don o annibyniaeth ysgubo ar draws Affrica.

Carribbean Literature

Daeth dros filiwn a hanner o Affricaniaid, ynghyd â phobl o India a De Asia, i’r Caribî rhwng y 15fed a’r 19eg ganrif. Heddiw, mae eu disgynyddion wrthi’n creu llenyddiaeth sydd â chysylltiadau cryf ac uniongyrchol â mynegiant Affricanaidd traddodiadol.

Black Short Fiction and Folklore​ 

82,000 o dudalennau a mwy na 11,000 o weithiau o ffuglen fer mewn amrywiaeth o draddodiadau sydd yn Black Short Fiction and Folklore – o draddodiadau llafar Affricanaidd cynnar i hip-hop – mae’n cwmpasu chwedlau, damhegion, baledi, straeon gwerin, a straeon a nofelau byrion.  

Ceir adnoddau o bob math ar y rhestr, rhai ffisegol a rhai ar-lein, felly p’un a ydych ar y campws neu oddi arno, mae rhywbeth i bawb. Galwch heibio ein harddangosfa ar Lefel F Llyfrgell Hugh Owen a fydd yno drwy gydol mis Hydref.

Newydd! Canllaw Cyflogadwyedd

Mae ein gwasanaethau llyfrgell yn parhau i’ch helpu hyd yn oed ar ôl ichi ennill eich gradd!  

Myfyrwyr yn ymarfer cyflwyniadau

Mae Llyfrgellwyr Pwnc Prifysgol Aberystwyth wedi paratoi LibGuide Cyflogadwyedd newydd. Dyma eich canllaw i’r llyfrau ac adnoddau i’ch helpu i ysgrifennu CV heb ei ail, ac i’r cyngor a’r offer arbenigol i’ch helpu i ymchwilio i’r cwmni neu’r sefydliad rydych am weithio iddo. 

Cewch ddefnyddio’r canllaw i :  

  • Ddod o hyd i adnoddau am wahanol gwmnïau, diwydiannau a chyngor cyffredinol am yrfaoedd 
  • Darganfod adnoddau i feithrin sgiliau digidol a gwybodaeth hanfodol i wella’ch rhagolygon ar ôl graddio 
  • Ymchwilio i’ch llwybr gyrfa dewisol a pharatoi ar gyfer cyfweliadau a llunio ceisiadau am swyddi  

Gall adnoddau’r llyfrgell eich helpu i sicrhau’ch swydd ddelfrydol wrth ichi ddatblygu’ch cyflogadwyedd.  

Ymwelwch â’r canllaw yma: https://libguides.aber.ac.uk/cyflogadwyedd 

Blog y Llyfrgellwyr: Croeso!

Casgliadau Collections Sign In the Hugh Owen Library

Yn syth o Lyfrgell Hugh Owen, dyma helô fawr gan eich tîm cyfeillgar o lyfrgellwyr.

Hoffem eich croesawu i’r blog Llyfrgellwyr adnewyddedig ble cewch ragor o wybodaeth am sut y mae’ch llyfrgell yn cefnogi dysgu, addysgu, ac ymchwil yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Caiff y blog ei ddiweddaru’n rheolaidd felly gwnewch yn siŵr eich bod yn tanysgrifio, a chofiwch: rydym wrth ein boddau yn siarad â chi, felly os oes unrhyw faterion llyfrgell yr hoffech gymorth â nhw, cysylltwch â ni:

Os hoffech gipolwg ar rai o’r pethau y gallwn eich helpu â nhw, edrychwch ar ein Canllawiau Llyfrgell pwrpasol: www.libguides.aber.ac.uk