Graddedigion 2024 – Dydd Mawrth 16 Gorffennaf

Llongyfarchiadau i’n graddedigion PhD ac MPhil heddiw! Darllenwch eu traethodau ymchwil ar y dolenni isod

Keegan Burrows.  Utilising steel production waste material for low pressure and passive carbon sequestration http://hdl.handle.net/2160/a81d6f66-e029-455c-9e8a-52ad70c3291b

Ruby Bye. Exploring the epigenetic response of Larix kaempferi to Phytophthora ramorum infection http://hdl.handle.net/2160/8274c660-2f95-4d85-aa71-c8849d615d76

Sebastien Chognard. Evaluation of Independent Reference Datasets for Validating Land Cover and Change http://hdl.handle.net/2160/a5f64ec9-251e-4a6b-8d49-90422c6aca48

Sam Grinsell. Prevalence of Canine Helminths in Aberystwyth, Wales: Introduction of the FECPAKG2 http://hdl.handle.net/2160/afd2a54e-11c6-43db-8395-85f12aa0db59

Wititkornkul Boontarikaan. Horsing around with Anoplocephala perfoliata: Polyomic Investigation of the Host–Parasite Interface http://hdl.handle.net/2160/23cc5686-43cc-402f-bbb0-3458ca8a6043

Suzanne Black. Iffy women and existential ink: a dual-focus phenomenological and Foucauldian discourse analysis of how women with extensive tattoo histories have experienced the resurgence of tattoo culture known as the tattoo renaissance  http://hdl.handle.net/2160/82552902-6896-42ac-a3f6-d97b9755131d

Marion Longshadow. Belonging to university: the experience of undergraduate students who are parents http://hdl.handle.net/2160/474a2702-d96a-4719-993d-d88caaf0ea44

Rune Murphy. ‘Being one of the “boys”’: understandings of how young heterosexual male students construct their experiences of the Night Time Economy http://hdl.handle.net/2160/f7c40188-5436-4989-aeff-c0894ee6ca5f

Clio Owen. Development and Validation of a Retrospective Visual Scale of Attachment: Adaptation of the Inventory of Parent and Peer Attachment (IPPA; Armsden and Greenberg, 1987) http://hdl.handle.net/2160/8067d1bf-6409-48fa-994b-9898c1f2b13b

Salvatore Verdoliva. Investigation of new techniques to improve quality and resource use efficiency in soilless protected horticulture http://hdl.handle.net/2160/71dc01ab-7b4e-4cd1-b410-a476fb24e0f0

Yn Cyflwyno: LibKey Nomad

Estyniad porwr gwe i’w lawrlwytho yw LibKey Nomad. Mae’n darparu dolenni at erthyglau o gyfnodolion y mae eich llyfrgell yn tanysgrifio iddynt yn awtomatig. Bydd mynediad un-clic LibKey Nomad at erthyglau sy’n cael eu cyfeirnodi ar wefannau ysgolheigaidd a pheiriannau chwilio yn gwneud eich ymchwil a dod o hyd i ffynonellau yn gyflymach ac yn haws o lawer.

Lawrlwytho LibKey Nomad yma

Mae LibKey Nomad yn hawdd i’w ddefnyddio. Ewch i’r dudalen lawrlwytho ac ychwanegwch yr estyniad at eich porwr o ddewis. Ar Ă´l ei osod, bydd gofyn ichi ddewis eich sefydliad. Dewiswch Prifysgol Aberystwyth a bydd LibKey Nomad yn rhoi gwybod ichi am erthyglau sydd ar gael trwy’r llyfrgell lle bynnag y byddwch chi’n crwydro ar-lein.

Bydd LibKey Nomad hefyd yn cyfoethogi eich profiad ar safleoedd poblogaidd fel PubMed, Wikipedia, Scopus, Web of Science a mwy.

Cymhariaeth

Dyma enghraifft o restr gyfeirnodau ar Wikipedia cyn i LibKey Nomad gael ei osod ac ar Ă´l ei osod (sgroliwch ar draws i gymharu):

Cyfeirnodau ar Wikipedia cyn ac ar Ă´l gosod yr estyniad Libkey Nomad ar eich porwr gwe

Gallwch weld bod LibKey Nomad yn ychwanegu dolen at yr erthygl os oes mynediad gan y llyfrgell. Mae clicio ar y ddolen yn mynd â chi’n uniongyrchol i’r ffynhonnell.

Dysgwch ragor am LibKey Nomad yn y fideo isod:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth am LibKey Nomad, anfonwch e-bost atom ar llyfrgellwyr@aber.ac.uk. Fel bob amser, os oes angen help arnoch i ddod o hyd i adnoddau ar gyfer eich astudiaethau, cysylltwch â’ch Llyfrgellydd Pwnc.

Dyma gyflwyno BrowZine

Mae BrowZine yn ffordd newydd o bori a chwilio miloedd o gyfnodolion electronig sydd ar gael i chi fel aelod o Brifysgol Aberystwyth.

Tudalen hafan BrowZine

Gan ddefnyddio BrowZine gallwch:

  • Pori neu chwilio yn Ă´l maes pwnc i ddod o hyd i e-gyfnodolion o ddiddordeb
  • Chwilio am deitl penodol
  • Creu eich silff lyfrau eich hun o’ch hoff e-gyfnodolion a’u trefnu sut y dymunwch
  • Dilyn eich hoff deitlau a derbyn hysbysiadau pan fydd rhifyn newydd yn cael ei gyhoeddi
  • Cadw erthyglau yn eich llyfrgell bersonol a fydd yn cysoni ar draws eich dyfeisiau

Gallwch ddefnyddio BrowZine ar eich cyfrifiadur, neu lawrlwythwch yr ap i’w ddefnyddio ar ddyfais Android neu Apple. Bydd BrowZine yn cysoni ar draws sawl dyfais fel y gallwch chi ddarllen eich e-gyfnodolion lle bynnag y byddwch.

Dewch o hyd iddo ar Primo, catalog y llyfrgell, drwy glicio ar y botwm Chwiliad e-gyfnodolion ar frig y dudalen neu lawrlwythwch yr ap o’ch siop apiau.

Sut i gyrraedd BrowZine o Primo, catalog y llyfrgell

Diwrnod Shwmae Su’mae – 15 Hydref

I ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae eleni, rydym yn rhannu blog gan ein blogiwr gwadd, Pencampwr Digidol Myfyrwyr, Laurie Stevenson, ac yn cael cip sydyn ar rai adnoddau llyfrgell i’ch helpu i ymarfer a datblygu eich sgiliau darllen a siarad Cymraeg.

Laurie Stevenson

Dw i’n dysgu Cymraeg!

Ar y 15fed o Hydref bydd hi’n Ddiwrnod Shwmae Su’mae, sy’n ddiwrnod o ddathlu a hyrwyddo’r Gymraeg. Felly roedd arna i eisiau manteisio ar y cyfle hwn fel un o Bencampwyr Digidol y Myfyrwyr i ddefnyddio’r blog i rannu fy mhrofiadau fy hun fel dysgwr Cymraeg.

Pam y gwnes i benderfynu cael gwersi Cymraeg?

Fe wnes i syrthio mewn cariad â Chymru o fewn dim imi symud yma ac roeddwn i’n gwybod ers cychwyn cyntaf fy nghwrs gradd bod arna i eisiau dysgu mwy am ddiwylliant Cymru a dysgu’r iaith fel ffordd o barchu’r diwylliant a theimlo fy mod i’n perthyn yma. Rwy’n mwynhau heriau deallusol ond wnes i erioed weld diben dysgu ieithoedd fel Ffrangeg neu Sbaeneg os nad oeddwn i am allu eu defnyddio mewn bywyd go iawn. Trwy gydol fy nyddiau ysgol, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd teimlo unrhyw fath o frwdfrydedd tuag at ddysgu ieithoedd fel yna. Ond pan gefais gyfle i ddysgu Cymraeg roeddwn i’n hynod o awyddus. Rydw i wrth fy modd yn gallu cynnal sgyrsiau syml ar y bws neu mewn siop neu gaffi ac rydw i wir yn mwynhau’r wĂŞn sy’n dod i wynebau pobl pan maen nhw’n sylweddoli fy mod i’n dysgu’r iaith.

Sut y gwnes i fynd ati i ddysgu Cymraeg?

Fe wnes i ofyn am wersi Cymraeg yn fy mlwyddyn gyntaf ond oherwydd Covid doedden nhw ddim yn cael eu cynnal. Ond pan es i i Ffair y Glas yn fy ail flwyddyn siaradais gyda rhywun ar stondin UMCA – Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth – a rhoi fy enw i lawr. Mae’r gwersi’n cael eu darparu gan dysgucymraeg.cymru ac fe ddechreuais i gyda’u cwrs blasu, gyda sesiynau awr o hyd bob wythnos. Eleni rydw i wedi symud ymlaen i’r cwrs lefel mynediad, sydd yn cael ei achredu, ac mae hwnnw’n ddwyawr yr wythnos. Rydw i hefyd yn defnyddio Duolingo i gyd-fynd â’r gwersi ac mae hynny’n help er mwyn cofio gwybodaeth rhwng y gwersi.

Pa adnoddau defnyddiol ydw i wedi dod o hyd iddynt ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Drwy UMCA y gwnes i ddod o hyd i’r cyrsiau, ac maen nhw hefyd yn cynnal digwyddiadau Cymraeg eu hiaith a digwyddiadau diwylliannol, ac yn rhoi cyfle i ddysgwyr gwrdd ac ymarfer eu Cymraeg gyda siaradwyr Cymraeg. Mae dolenni i’r cyrsiau ar gael ar wefan y Brifysgol hefyd, a dolenni i adnoddau ar-lein i’ch helpu wrth ichi ddysgu. Mae gan y llyfrgell adnoddau gwych hefyd, gan gynnwys llyfrau, geiriaduron a llyfrau o ymadroddion er mwyn dysgu’r iaith.

Laurie Stevenson

Dysgwch ragor am Laurie a gwaith y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr ar y Blog Galluoedd Digidol

Adnoddau Llyfrgell

Os ydych wedi cychwyn ar eich taith i ddysgu Cymraeg, yn meddwl am fentro, neu os ydych yn siaradwr Cymraeg ac am roi sglein ar eich sgiliau, mae gan y llyfrgell ystod eang o adnoddau defnyddiol.

Ewch i’r Casgliad Celtaidd ar Lefel F yn Llyfrgell Hugh Owen ac mi ddewch o hyd i filoedd o lyfrau i’ch helpu i ymarfer a datblygu eich sgiliau darllen a siarad – o nofelau gyda geirfa, i lyfrau gramadeg, i gyrsiau iaith cyflawn.

A chofiwch ddweud su’mae wrth staff y Llyfrgell!