Wrth i Elizabeth Kensler baratoi i adael Gwasanaethau Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth, rydym am gymryd eiliad i ddathlu ei chyfraniad a’r effaith barhaol y mae’n gadael ar ei hôl.
Mae gan Elizabeth allu rhyfeddol i gysylltu â phobl, cydweithwyr, defnyddwyr y llyfrgell, ac ymwelwyr fel ei gilydd, ac i greu amgylchedd sy’n teimlo’n wirioneddol groesawgar a chefnogol. Yn union beth ddylai llyfrgell fod. Trwy ei gwaith a’i phresenoldeb mae hi wedi helpu i lunio gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar bobl, nid prosesau yn unig (er y bydd unrhyw un sydd wedi gweithio gyda hi yn gwybod bod ganddi werthfawrogiad arbennig o’r rheini hefyd!).
Nia ac Elizabeth, 2008
Ers 2008 mae Elizabeth wedi bod yn gweithio ar sail rhannu swydd gyda Nia Ellis, gan gychwyn fel Rheolwyr Gwasanethau Cwsmeriaid.
Pan gychwynom ni, y dasg gyntaf gawsom oedd uno staff desg y llyfrgell a staff y ddesg cyngor cyfrifiadurol. Roedd hyn yn golygu dod â dau dîm dra gwahanol at ei gilydd a hefyd ail-ddylunio’r ddesg ar Lefel D.
Cwblhawyd y gwaith adeiladu ar Lefel D yn haf 2011.
Ac eto yn 2017, Elizabeth fu’n arwain ar y gwaith atgyweirio ar Lyfrgell Thomas Parry, gan gyflawni gwyrthiau i gael y llyfrgell yn barod ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2017. Fe weithiodd yn ddiflino gan ysbrydoli staff o’i hamgylch i wneud ymdrech arbennig i gwblhau’r gwaith.
Un gwahaniaeth mawr yn y blynyddoedd cynnar hynny oedd gweithio ar draws y Gwasanaethau Gwybodaeth a gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol i wella profiad Wythnos y Glas i fyfyrwyr. Trwy gydweithio’n fwy effeithiol, llwyddwyd i gwtogi’r ciwiau hirfaith a ystyriwyd yn hollol normal ar y pryd. Bu’n cadeirio’r grŵp cynefino am flynyddoedd, gan gydlynu’r gwaith a chwilio am gyfleoedd i wella ein harferion a’n prosesau. Roedd y parodrwydd yma i ddatblygu rhwydweithiau yn agwedd bwysig iawn ar ei gwaith, gan ei gwneud hi’n gymaint haws wedyn i gydweithio. Doedd hyn ddim yn rhywbeth strategol, ond yn rhywbeth annatod a oedd yn perthyn iddi – yn gyfathrebwr heb ei hail. Roedd ei harfer o flaenoriaethu rhannu gwybodaeth glir yn gyson yn enghraifft o sut iddi ddylanwadu ar arfer yr adran gyfan wrth i gydweithwyr ddod i ddeall a gweld gwerth a phwysigrwydd ein gwaith.
Mae’r ffocws ar brofiad y myfyriwr wedi bod yn bwysig iddi erioed, a dyna pam bod dysgu am dechnegau UX(User Experience) wedi cael dylanwad mor fawr. Roedd gallu gwneud ein hymchwil ein hunain i arferion ac anghenion myfyrwyr mewn ffordd cymaint cyfoethocach a dyfnach nac arolygon yn drobwynt i ni. Roedd cael tystiolaeth ar gyfer datblygiadau a gwelliannau yn rhywbeth hollol resymegol. A thrwy ei brwdfrydedd a’i hegni, fe lwyddwyd i ledaenu’r arfer o ymgynghori â myfyrwyr neu ymchwilio i’w harferion. Mae Elizabeth wedi cyflwyno papur ar y pwnc yma (New approaches to improving the student experience at Aberystwyth University libraries: from Library Surveys to cognitive mapping) yng nghynhadledd LibPMC 2023.
Nia Ellis, Rheolwr Profiad y Myfyriwr a’r Defnyddiwr
Bydd colled fawr ar ôl Elizabeth ar draws Gwasanaethau’r Llyfrgell ac Addysg Ddigidol a thu hwnt. Mae hi wedi cydbwyso meddwl strategol ac arloesedd gyda gofal am y bobl o’i chwmpas, ac mae ei dylanwad i’w weld nid yn unig yn y gwasanaethau y mae hi wedi’u llunio, ond yn y ffyrdd y mae cydweithwyr yn gweithio gyda’i gilydd bob dydd.
Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i fod wedi gweithio gydag Elizabeth ers blynyddoedd lawer, ac rwyf bob amser wedi ei hedmygu fel model rôl; mae ganddi wybodaeth ac arbenigedd rhagorol fel llyfrgellydd ac mae’n eiriolwr cryf dros wasanaeth y llyfrgell yn y Brifysgol. Dim ond pan ddaeth hi’n rheolwr llinell i mi y sylweddolais pa mor eithriadol yw hi fel person, a pha mor ffodus oeddwn i.
Yn ogystal â’i phroffesiynoldeb cadarn a’i chred ddofn yng ngwerth llyfrgelloedd i addysg uwch ac i gymdeithas, roedd ffynhonnell ddi-ben-draw o garedigrwydd a hiwmor ganddi. Beth bynnag oedd yr her – ailstrwythuro, COVID, salwch – roedd Elizabeth yno dro ar ôl tro, yn rhoi ei hamser a’i haelioni, ac yn meddu ar y gallu arbennig hwnnw i ysbrydoli a gwneud i chi deimlo’n well am bethau, rhywbeth na ellir ei brisio.
Joy Cadwallader, Llyfrgellydd ac Arweinydd Cyswllt Academaidd a Sgiliau Myfyrwyr
Rydym yn hynod ddiolchgar am ei hegni, ei dirnadaeth a’i harweinyddiaeth feddylgar, ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddi yn y bennod nesaf.
Cael hwyl wrth siarad Cymraeg yw prif thema Diwrnod Shwmae Su’mae eleni.
Tra rydych chi yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, beth am fanteisio ar y nifer o gyfleoedd ac adnoddau arbennig sydd ar gael ar gyfer dysgu neu loywi eich Cymraeg?
Mae cyrsiau Cymraeg a ddarperir gan Dysgu Cymraeg yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth yma: https://www.aber.ac.uk/cy/learn-welsh/
I gefnogi eich dysgu, mae gan y llyfrgell filoedd lawer o adnoddau Cymraeg ar gyfer dysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn ein Casgliad Celtaidd. Dyma ychydig o’r hyn sydd ar gael ar silffoedd y llyfrgell.
Mae gennym hefyd lawer o staff sy’n siarad Cymraeg neu sy’n dysgu. Gallwch eu hadnabod gan eu laniardiau oren. Felly rhowch gynnig ar eich Cymraeg heddiw!
Dathlwyd y Diwrnod Shwmae Su’mae cyntaf ar 15 Hydref, 2013 i hybu’r syniad o ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg! Nod y diwrnod yw dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb – yn siaradwyr rhugl, dysgwyr a’r rhai sy’n swil eu Cymraeg.
Llongyfarchiadau mawr a hwyl fawr i Lloyd Roderick sy’n ymgymryd â rôl newydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ôl deng mlynedd o wasanaeth rhagorol yn y tîm Ymgysylltu Academaidd.
Cyn ymuno â ni, roedd Lloyd wedi ennill PhD mewn Celfyddyd Gain yn Aberystwyth ac wedi cael profiad eang yn y sector, gan weithio yn yr Advanced Institute of Legal Studies, Llyfrgell Courtauld a llyfrgelloedd cyhoeddus Casnewydd ymhlith eraill.
Fel Llyfrgellydd Pwnc Celf, Hanes a Hanes Cymru, y Gyfraith a Throseddeg a’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth, mae Lloyd wedi meithrin perthynas ardderchog rhwng Llyfrgell y Brifysgol ac adrannau academaidd a bydd pawb sydd wedi gweithio gydag ef ar draws y Brifysgol yn gweld ei eisiau yn fawr. Mae wedi bod yn aelod penigamp o’r tîm, yn athro arbennig o sgiliau gwybodaeth ac wedi dod â gwybodaeth bwnc ddofn i’w gyfrifoldebau.
Un etifeddiaeth y mae’n ei adael i’r tîm Ymgysylltu Academaidd yw’r cwis “dyfalu faint o bobl sydd yn y llyfrgell” – dim gwobrau, dim ond hwyl i bawb sy’n cymryd rhan! Byddwn yn parhau â’r cwis bob dydd Gwener er anrhydedd i ti, Lloyd!
Pob lwc yn dy swydd newydd gan bob un ohonom. Rydym yn falch nad wyt ti’n mynd yn bell ac yn edrych ymlaen at dy weld eto cyn bo hir.
Wrth i flwyddyn academaidd arall ddod i ben, rydym yn gyffrous i rannu rhai o gyflawniadau a datblygiadau allweddol eich Gwasanaethau Llyfrgell yn 2024–25.
Mae wedi bod yn flwyddyn brysur arall i’r llyfrgell wrth i’n defnyddwyr barhau i fenthyg miloedd o lyfrau ac e-lyfrau, cyrchu miloedd o erthyglau cyfnodolion, a defnyddio ein hystod ehangach o adnoddau digidol a mannau llyfrgell. Mae rhestrau darllen yn parhau i fod yn rhan greiddiol o’ch gwaith academaidd ac mae ein staff yn gweithio i wneud yn siŵr bod y llyfrau, yr erthyglau a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch fwyaf ar flaenau eich bysedd bob amser. Mae ein Llyfrgellwyr Pwnc yn parhau i ddarparu cymorth a chyngor arbenigol i’r holl staff a myfyrwyr ac mae ein tîm Darganfod Adnoddau yn helpu i hwyluso a lledaenu ymchwil o’r radd flaenaf y Brifysgol.
Porwch ein Cynlluniau Gweithredu’r Llyfrgell i ddarganfod sut mae Gwasanaethau Llyfrgell wedi cefnogi eich addysgu, eich dysgu a’ch ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth dros y flwyddyn ddiwethaf.