Dymunwn wyliau Nadolig pleserus i chi!

Mae’r tymor hwn wedi bod yn brysur ac wedi mynd heibio’n gyflym iawn! Mae wedi bod yn gymysgedd gwych gyda sesiynau addysgu ar-lein yn ogystal ag wyneb yn wyneb a darparu cefnogaeth. Rydym wedi mwynhau bod yn ôl ar ddesg ymholiadau Llawr F Hugh Owen, gan helpu gyda llawer o gwestiynau ac ymholiadau amrywiol.

Rydym yma tan ddydd Iau 22 Rhagfyr, os bydd arnoch angen unrhyw gymorth cysylltwch â ni ar llyfrgellwyr@aber.ac.uk. Ar ôl y gwyliau byddwn ni nôl ddydd Mawrth 3 Ionawr.

Mae Ystafell Iris de Freitas ar agor 24/7 o 22 Rhagfyr – 3 Ionawr 2023.

Ydych chi’n aros ar y Campws neu yn Aberystwyth yn ystod gwyliau’r Nadolig?

Hoffem ddymuno gwyliau hyfryd i bawb ac edrychwn ymlaen at eich helpu a’ch cefnogi yn 2023!

Porfeydd newydd i Connie

Rydym yn drist iawn ein bod wedi ffarwelio ag aelod gwerthfawr o’r Tîm Ymgysylltu Academaidd, Connie Davage. Ymunodd Connie â’n tîm nôl yn 2018 gan ddod â’i chyfoeth o brofiad o Dîm Desg Gwasanaeth y Llyfrgell i gyfuno’r rôl hon â chefnogi’r tîm lle bynnag y bo angen. Roedd Connie hefyd yn cefnogi’r Adran Dysgu Gydol Oes a bydd holl staff yr Adran yn gweld ei heisiau’n fawr.

Mae nifer o gydweithwyr ar draws y Brifysgol wedi cael cymorth Connie dros y blynyddoedd, o gefnogaeth ar gyfer Rhestr Ddarllen Aspire, i geisiadau digideiddio a chymorth llyfrgell gwerthfawr.

Hoffem ddymuno’r gorau i Connie yn ei rôl newydd fel llyfrgellydd ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant a diolch iddi am fod yn gydweithiwr gwych, yn bobydd o fri ac yn ffrind i bawb yn y tîm.

Connie Davage hod
Connie Davage

Newyddion cyffrous i fyfyrwyr Astudiaethau Gwybodaeth!

Rydym wedi bod yn tanysgrifio i adnodd gwych ‘LISA’, ers blynyddoedd lawer. Mae’r adnodd hwn wedi bod yn amhrisiadwy i fyfyrwyr a staff Astudiaethau Gwybodaeth ers tro byd.
Mae LISA (Library & Information Science Abstracts) yn helpu i ganolbwyntio chwiliadau am destunau ysgolheigaidd rhyngwladol ar lyfrgellyddiaeth a gwyddor gwybodaeth. Ond, fel mae’r enw yn ei awgrymu, gwasanaeth crynodebau yn unig yw hwn.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod gennym nawr fynediad i’r Casgliad Llyfrgellyddiaeth a Gwyddor Gwybodaeth. Mae’r casgliad newydd hwn bellach yn chwilio adnodd poblogaidd LISA yn ogystal â’r Gronfa Ddata Testun Llawn Llyfrgellyddiaeth.
I grynhoi, mae gennym bellach dros 300 o gyfnodolion testun llawn wedi’u cynnwys pan fyddwch yn chwilio’r ‘Casgliad Llyfrgellyddiaeth a Gwyddor Gwybodaeth’.

LibGuide Astudiaethau Gwybodaeth

LISA database screenshot

Mae Llyfrgellwyr Pwnc yn dymuno egwyl braf i bawb!

Rydyn ni mor ffodus yma yn Aberystwyth ein bod yng nghanol cen gwlad odidog sy’n berffaith ar gyfer mynd am dro. Roedd yn arbennig o addas bod cyfarfod olaf y tîm wedi rhoi cyfle i ddianc oddi wrth ein sgriniau a dod at ein gilydd cyn gwyliau’r Nadolig i gerdded a chael paned a sgwrs yn Nant yr Arian.

Bu’r tymor yn un prysur ac aeth heibio’n gyflym iawn! Cafwyd cyfuniad da o sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein a darparu cymorth. Roeddem wrth ein bodd i fod nôl wrth y ddesg ymholiadau ar Lawr F yn Hugh Owen, yn cynorthwyo gyda chwestiynau ac ymholiadau o bob math.

Fe fyddwn ni yma tan ddydd Iau 23 Rhagfyr, ac os byddwch chi angen cymorth cysylltwch â ni trwy e-bostio llyfrgellwyr@aber.ac.uk. Ar ôl yr egwyl byddwn yn ailddechrau ddydd Mawrth 4 Ionawr.

Bydd rhai ystafelloedd cyfrifiaduron a mannau astudio ar gael i’w defnyddio dros wyliau’r Nadolig, mae mwy o fanylion i’w gweld yn: Newyddion a Digwyddiadau : Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth.

Gobeithio y cewch chi i gyd egwyl hyfryd ac edrychwn ymlaen i’ch cefnogi a’ch cynorthwyo yn 2022!

(O’r chwith i’r dde: Joy Cadwallader, Abi Crook, Sioned Llywelyn, Lloyd Roderick, Anita Saycell, Sarah Gwenlan)

Cwrdd â’r Tîm!

Dros y 18 mis diwethaf rydym i gyd wedi bod yn gweithio ar-lein gyda myfyrwyr a chydweithwyr eraill drwy Teams. Roedd yn wych i ni fel tîm gwrdd wyneb yn wyneb o’r diwedd, mwynhau mynd am dro ar hyd y prom a chael cyfarfod awyr agored i helpu i gynllunio ein gweithgareddau ar gyfer 2021/22 (cafwyd cwmni’r dolffiniaid hyd yn oed!).

Rydym i gyd yn edrych ymlaen i gwrdd â chi yn y Flwyddyn Academaidd nesaf, ond yn y cyfamser mae croeso i chi gysylltu os ydych chi angen unrhyw gymorth.

llyfrgellwyr@aber.ac.uk
01970 621896

Llyfrgellwyr Pwnc
O’r chwith i’r dde: Anita Saycell, Lloyd Roderick, Simon French, Abi Crook, Sarah Gwenlan, Connie Davage, Non Jones, Joy Cadwallader. Dim yn y llun: Alex Warburton