Deallusrwydd Artiffisial a’r Llyfrgell. Wythnos Pedwar. Perplexity AI – Adolygiad o offeryn.

Does dim angen inni eich atgoffa chi mae’n siŵr—mae yna lawer o adnoddau Deallusrwydd Artiffisial (DA) mas yna. Er taw ChatGPT sydd wedi bachu’r penawdau yn gynnar, mae Perplexity AI yn prysur ddatblygu’n un o’n ffefrynnau ni yma yn y llyfrgell.

Mae Perplexity AI yn ennill ei blwyf ym myd adfer gwybodaeth, ac am reswm da. Yn wahanol i’w gymar mwy sgyrsiol, ChatGPT, sy’n aml yn mwynhau deialogau hir, mae Perplexity yn mabwysiadu dull uniongyrchol ac effeithlon o ateb ymholiadau. Mae hyn yn ei wneud yn offeryn delfrydol ar gyfer y rhai sydd angen ffeithiau cyflym, ymchwil trylwyr, neu wybodaeth am bynciau penodol. Ar ben hynny, mae’n darparu dyfyniadau ar gyfer ei holl ymatebion.

Pam dewis Perplexity?

Dyma’r nodweddion amlwg sy’n gwneud Perplexity yn ddewis da:

  • Gwybodaeth amser real: Mae Perplexity yn tynnu data newydd yn uniongyrchol o’r we, gan sicrhau eich bod bob amser yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.
  • Crynodebau clir: Yn hytrach na’ch boddi mewn dolenni diddiwedd, mae’n darparu atebion cryno, uniongyrchol er mwyn arbed amser i chi.
  • [A dyma’r enillydd clir i ni] Gwirio ffeithiau: Daw pob ymateb gyda dyfyniadau, fel y gallwch wirio hygrededd yr wybodaeth yn hawdd ac archwilio ymhellach os oes angen.

Sut gall Perplexity eich helpu chi?

  • Darganfod adnoddau.  Gall awgrymu geiriau allweddol neu ymadroddion effeithiol i fireinio’ch gwaith chwilio yng nghatalog y llyfrgell neu gronfeydd data ar-lein eraill. (Cadwch lygad ar ein blogbost nesaf am sut i fod yn glyfar wrth chwilio am eiriau allweddol)
  • Cymorth astudio: Gall egluro pynciau’n gyflym, darparu esboniadau cryno, neu archwilio pynciau ymhellach er mwyn i chi eu deall yn well, a gall pob un o’r pethau hyn arbed amser yn ystod sesiynau astudio.
  • Gwirio ffeithiau: Gall Perplexity wirio hawliadau neu ystadegau ar gyfer traethodau neu gyflwyniadau – a hynny’n gyflym, gan sicrhau bod eich gwaith yn gywir ac yn gredadwy.

Ambell i beth i’w gofio am Perplexity

  • Prinder dyfnder sgwrsio Dyw Perplexity ddim mor dda â ChatGPT wrth gynnal dilyniant cyd-destunol neu sgwrs estynedig.
  • Dibyniaeth ar ffynonellau allanol: Er bod dyfyniadau yn elfen gref, mae cywirdeb yr offeryn yn dibynnu ar ansawdd y ffynonellau mae’n cyfeirio atyn nhw. Cofiwch wirio gwybodaeth hanfodol bob amser lle bo hynny’n bosibl.
  • Dim allbynnau creadigol neu agored: Dyw Perplexity ddim wedi’i gynllunio ar gyfer tasgau fel ysgrifennu creadigol, taflu syniadau, neu drafodaethau archwiliadol—mae ChatGPT yn llawer mwy addas i’r tasgau hyn.

I gloi

Mae Perplexity AI yn offeryn pwerus i fyfyrwyr ac ymchwilwyr, gan gynnig mynediad cyflym at wybodaeth gyfredol a dyfyniadau defnyddiol ar gyfer gwirio ffeithiau ac astudio ymhellach.

Yn wahanol i ChatGPT, sy’n rhagori ar sgyrsiau, mae Perplexity yn darparu atebion cryno, sy’n golygu ei fod yn ddelfrydol ar gyfer gwaith academaidd. Mae hefyd yn eich helpu i ddarganfod rhagor o adnoddau drwy awgrymu geiriau allweddol ar gyfer chwilio effeithiol. Fodd bynnag, does dim cymaint o ddyfnder sgwrsio ganddo â ChatGPT, ac mae ei gywirdeb yn dibynnu ar ansawdd y ffynonellau y mae’n eu dyfynnu. Drwy gyfuno’r ddau offeryn, gallwch wneud y gorau o’ch amser astudio a rhoi mwy o ganolbwynt effeithiol i’c

Eich Llyfrgellwyr Pwnc: Rhowch Hwb i’ch Astudiaethau gydag Arf Cyfrinachol y Llyfrgell!

Croeso (nôl) i’r Brifysgol! P’un a ydych yn fyfyriwr newydd neu’n dychwelyd am flwyddyn arall, mae eich Llyfrgellydd Pwnc yma i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar adnoddau’r llyfrgell yn Aberystwyth.

Mae gan bob adran lyfrgellydd pwnc (gellir dod o hyd i restr ohonynt yma)

Dyma rai o’r pethau y gallant eich helpu â hwy:

Dysgu eich ffordd o amgylch y llyfrgell.

Mynd i’r afael â chatalog y llyfrgell (Primo) gan gynnwys:

  • Dod o hyd i lyfrau ac erthyglau: Cael cymorth i ddod o hyd i lyfrau, erthyglau mewn cyfnodolion, a deunyddiau eraill ar gyfer eich gwaith.
  • Defnyddio Cronfeydd Data: Dysgu sut i lywio cronfeydd data academaidd i ddod o hyd i wybodaeth o safon uchel.

Deall sut i werthuso’r wybodaeth yr ydych chi’n dod o hyd iddi a sut i adnabod camwybodaeth bosibl.

Dysgu sut i gyfeirnodi a dyfynnu eich ffynonellau yn gywir mewn gwahanol arddulliau (APA, Harvard, MLA, ac ati)

Gallwch drefnu cyfarfod un-i-un gyda’ch llyfrgellydd yma, neu fel rheol bydd un o’r tîm ar ddesg Llawr F ar lawr uchaf Llyfrgell Hugh Owen rhwng 10yb a 5yp.

Am fwy o wybodaeth am wasanaethau’r llyfrgell gweler ein Canllawiau Llyfrgell yma.

Peidiwch â meddwl ein bod wedi anghofio am athrawon neu ymchwilwyr. Cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc gydag unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’r llyfrgell ac fe wnawn ein gorau i’ch helpu. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am ein Canllaw Llyfrgell i Athrawon yma, a’n Canllaw Llyfrgell i Ymchwilwyr yma.

Mae Archif Hanesyddol y BBC ar gael nawr trwy Box of Broadcasts.

An old-time television setEfallai eich bod chi, fel finnau, yn llawenhau o glywed fod archif y BBC o raglennu radio a theledu hanesyddol erbyn hyn ar gael trwy Box of Broadcasts.

O’m rhan i, rwy’n ysu am gael gwylio hwyl a sbri ôl-apocalyptaidd Z for Zachariah (a ddarlledwyd yn 1984 fel rhan o’r gyfres Play for Today). Os nad yw hwn at eich dant, beth am Allen Ginsberg a William Burroughs yn siarad am Jack Kerouac ar Arena yn 1988? Na, ddim i chi? Beth am bennod, efallai, o Horizon o’r flwyddyn 1980 sy’n edrych ar sut mae prosesyddion geiriau sy’n cael eu rheoli â llais yn mynd i chwyldroi bywyd y swyddfa? Neu beth am daith bersonol o gwmpas Stratford upon Avon yng nghwmni’r dramodydd Huw Lloyd Edwards yn y rhaglen Arall Fyd o’r flwyddyn 1972?

Wrth gwrs, y BBC yw hon, ac felly mae cymaint mwy i’w gael: uchafbwyntiau diwylliannol (Shakespeare ar Deledu’r BBC); adloniant ysgafn arloesol (Multi-Coloured Swap Shop – dyna fy mhlentyndod i!). Mae rhaglenni newyddion blaenllaw (Newsnight) ac adroddiadau hanesyddol o ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol o bwys (Yesterday’s Witness). Dyma gasgliad o adnoddau sy’n unigryw o ran ansawdd a dyfnder.

Mae Box of Broadcasts wedi paratoi gwybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i ddod o hyd i’r cynnwys hanesyddol yn yr archif, ond os cewch anhawster gydag unrhyw beth, cofiwch gysylltu â’ch llyfrgellydd pwnc am gymorth.

Dyma ambell ddolen ddefnyddiol arall i’ch helpu i ymgyfarwyddo â Box of Broadcasts.

A rhai dolenni defnyddiol ar gyfer staff sy’n addysgu:

Dyfodol dan ddŵr i Aberystwyth? Atal y llif o Newid Hinsawdd

Dolen i’n rhestr ddarllen: ‘Dyfodol dan ddŵr i Aberystwyth? Atal y llif o Newid Hinsawdd’

Mae Newid Hinsawdd yn bwnc brawychus i fynd i’r afael ag ef, a gall dod o hyd i wybodaeth ddibynadwy i helpu i ddeall y pwnc hollbwysig hwn deimlo’n llethol. Mae mynd i’r afael â Newid Hinsawdd yn gyfrifoldeb ar bawb, a pha un ai eich bod yn dod o gefndir yn y celfyddydau, neu mewn gwleidyddiaeth, neu yn y gwyddorau cymdeithasol, amgylcheddol neu ffisegol, mae’n hanfodol bod pob un ohonom yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddeall effaith Newid Hinsawdd ar ein byd.

Cafodd rhestr ddarllen ‘Dyfodol dan ddŵr i Aberystwyth? Atal y llif o Newid Hinsawdd’ ei chreu gan Catherine Fletcher ac Annabel Cook yn ystod eu cyfnod ar leoliad AberYmlaen gyda Thîm Cysylltiadau Academaidd y Llyfrgell. Lluniwyd y casgliad hwn o adnoddau i gefnogi canlyniadau Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth (18 – 25 Hydref 2021) ond roeddem o’r farn y gallai fod yn ddefnyddiol i gynulleidfa ehangach hefyd. Mae’r rhestr yn ceisio darparu ystod o wybodaeth am Newid Hinsawdd yn lleol ac yn fyd-eang. Mae’n cynnwys dolen i fap rhyngweithiol sy’n eich galluogi i archwilio codiad yn lefel y môr a bygythiadau llifogydd arfordirol a allai effeithio ar ble rydych chi’n byw. (Rhybudd: mae’n ddychrynllyd iawn!)


Map rhyngweithiol Climate Central sy’n dangos y tir y rhagwelir y bydd yn is na’r lefel llifogydd flynyddol yn Aberystwyth a’r cyffiniau yn 2040

Rydyn ni’n gwybod faint mae myfyrwyr a thrigolion yn trysori Aberystwyth felly gobeithio trwy daflu goleuni ar yr effaith negyddol y gall Newid Hinsawdd ei chael ar y dref, y bydd yn ein helpu ni, fel cymuned, i ymdrechu i wneud dewisiadau mwy cynaliadwy.

Nid ar ardal Aberystwyth yn unig y mae’r adnoddau ar y rhestr hon yn canolbwyntio. Mae’r detholiad o erthyglau gwyddonol yr ydym wedi’u dewis yn amlinellu effeithiau’r newidiadau hinsoddol a allai gael effaith ledled y byd. Roeddem hefyd eisiau dangos bod yr ymchwil yn rhyngddisgyblaethol, gan dynnu sylw at y rôl hanfodol y mae pob adran wyddonol ledled y brifysgol yn ei chwarae wrth ymchwilio i Newid Hinsawdd. Y gobaith yw, wrth ddeall Newid Hinsawdd yn llawn, y gallwn ragweld ac addasu’n fwy effeithlon i’r heriau yr ydym, yn anochel, yn mynd i’w hwynebu.

Mae’n bwysig cofio nad yr adrannau gwyddonol yn unig sy’n gallu ysbrydoli newid. Mae gan y celfyddydau a’r gwyddorau cymdeithasol rôl i’w chwarae wrth ddarparu ongl fwy creadigol i feddwl am, a deall, Newid Hinsawdd. Diben y rhestr ddarllen hon yw dangos sut mae’r disgyblaethau hynny eisoes yn ymateb i’r bygythiad y mae’r argyfwng hinsawdd yn ei beri.

Mae angen i ni i gyd wneud ein rhan. Felly os ydych chi’n astudio celf neu’n astudio sŵoleg (neu unrhyw bwnc yn y canol) mae angen i ni ddod â’n harbenigedd, a’n hysbrydoliaeth, i ymdrin ag argyfwng mawr ein hoes. Rhowch wybod i ni beth yw eich barn chi am y rhestr, mae’n ddogfen fyw ac os oes adnoddau y credwch ddylai fod yno, rhowch wybod i ni a gallwn eu hychwanegu.