
Gan fod y flwyddyn academaidd wedi dod i ben, mae’n gyfle da i ystyried effaith ein gwasanaeth digideiddio – ac mae wedi bod yn flwyddyn i’w chofio! Gan weithio’n agos gyda’r staff addysgu ac ymateb i’r galw parhaus ymhlith myfyrwyr, mae’r gwasanaeth wedi sicrhau bod deunyddiau darllen allweddol ar gael yn gyson ar draws adrannau.
Y Flwyddyn mewn niferoedd
Mae ein gwasanaeth digideiddio wedi cefnogi addysgu a dysgu ar raddfa fawr:
- 379 o restrau darllen cyfunol wedi’u prosesu — mae’r rhain yn cynnwys rhestrau a rennir ar draws sawl cwrs (e.e. Cymraeg/Saesneg neu israddedig/uwchraddedig cyfatebol)—sy’n cynrychioli 503 o restrau darllen unigol i gyd.
- 2,210 detholiad wedi’u rhyddhau i restrau darllen, sy’n cynnwys penodau llyfrau ac erthyglau o gyfnodolion
- 40,813 tudalen wedi’u digideiddio
- 12,134 o fyfyrwyr wedi’u cynorthwyo
Mae’r ffigurau hyn yn tynnu sylw at swmp y gwaith, ond hefyd ei gyrhaeddiad: degau o filoedd o dudalennau ar gael i dros ddeuddeg mil o fyfyrwyr, ac wedi’u cynnwys yn uniongyrchol yn rhestrau darllen y modiwlau.
Mae’r un mor galonogol gweld pa mor aml y defnyddir y cynnwys hwn:
- 26,762 golwg
- 2,678 o lawrlwythiadau
- 596 o brintiau
Mae ymwneud ar y lefel hon yn dangos nid yn unig bod deunyddiau darllen wedi’u digideiddio ar gael – ond eu bod yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd ystyrlon i gefnogi astudio, adolygu ac ymchwil.
Gwasanaeth dibynadwy, ymatebol
Mae’r gwasanaeth digideiddio wedi parhau i fod yn ffordd ddibynadwy i fyfyrwyr gael gafael ar eu deunyddiau darllen craidd, gan helpu i wneud deunyddiau allweddol yn hygyrch i bawb. Ar draws ystod eang o anghenion addysgu, mae’r tîm wedi cyflwyno darnau yn brydlon ac yn unol â gofynion hawlfraint.
Peidiwch â stopio nawr: Mynediad dros yr haf
Er bod y flwyddyn academaidd wedi dod i ben, mae’r gwasanaeth digideiddio yn dal i fod wrth law i gynorthwyo eich darllen a’ch ymchwil dros yr haf. Os ydych chi’n parhau â’ch ymchwil, yn paratoi ar gyfer y flwyddyn nesaf, neu’n dilyn eich chwilfrydedd academaidd, gallwch barhau i ofyn am:
- Benodau mewn llyfrau
- Erthyglau mewn cyfnodolion
- Dyfyniadau traethodau ymchwil
Felly, p’un a ydych chi’n paratoi ymlaen llaw, dal i fyny, neu’n plymio i ganol rhywbeth newydd, rydyn ni yma i’ch helpu i gadw’ch ymennydd yn ystwyth dros fisoedd yr haf.
Ewch i’n tudalen we i ddarganfod mwy – bydd y staff digideiddio yn ymdrin â’r gwiriadau hawlfraint ac yn cael y sgan i chi: https://www.aber.ac.uk/cy/library/help/digitisation/
Cyflwynwch eich cais a daliwch ati i ddarllen – lle bynnag yr ydych!


