Newyddion cyffrous i fyfyrwyr Astudiaethau Gwybodaeth!

Rydym wedi bod yn tanysgrifio i adnodd gwych ‘LISA’, ers blynyddoedd lawer. Mae’r adnodd hwn wedi bod yn amhrisiadwy i fyfyrwyr a staff Astudiaethau Gwybodaeth ers tro byd.
Mae LISA (Library & Information Science Abstracts) yn helpu i ganolbwyntio chwiliadau am destunau ysgolheigaidd rhyngwladol ar lyfrgellyddiaeth a gwyddor gwybodaeth. Ond, fel mae’r enw yn ei awgrymu, gwasanaeth crynodebau yn unig yw hwn.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod gennym nawr fynediad i’r Casgliad Llyfrgellyddiaeth a Gwyddor Gwybodaeth. Mae’r casgliad newydd hwn bellach yn chwilio adnodd poblogaidd LISA yn ogystal â’r Gronfa Ddata Testun Llawn Llyfrgellyddiaeth.
I grynhoi, mae gennym bellach dros 300 o gyfnodolion testun llawn wedi’u cynnwys pan fyddwch yn chwilio’r ‘Casgliad Llyfrgellyddiaeth a Gwyddor Gwybodaeth’.

LibGuide Astudiaethau Gwybodaeth

LISA database screenshot

Aseiniadau: O Adnoddau i Gyfeirnodau

A book and notepadParatowyd y modiwl Aseiniadau: O Adnoddau i Gyfeirnodau gan y Llyfrgellwyr Pwnc yn y Brifysgol i ddatblygu sgiliau llythrennedd gwybodaeth allweddol sy’n hanfodol ar gyfer astudiaeth academaidd – o ddod o hyd i ddeunyddiau academaidd o safon uchel i ddyfynnu adnoddau’n gywir yn eich aseiniadau. Mae’r modiwl ar gael ar Blackboard i bob myfyriwr.

Ar hyn o bryd mae’r modiwl yn cynnwys tair adran:

Canllaw y Llyfrgell a TG
• Darparu popeth y mae angen i chi ei wybod am ddechrau arni gyda gwasanaethau a chasgliadau llyfrgell.
• Cwis i ymarfer defnyddio adnoddau’r llyfrgell.

Cyfeirnodi ac ymwybyddiaeth Llên-ladrad
• Eich helpu i ddeall pwysigrwydd cyfeirnodi cywir; sut i greu dyfyniadau a chyfeiriadau cywir; sut i reoli eich dyfyniadau gan ddefnyddio offer meddalwedd cyfeirnodi a sut i ddehongli eich Adroddiad Tebygrwydd Turnitin.
• Mae’r canllaw hwn yn cynnwys cwis sy’n eich galluogi i ymarfer y sgiliau yr ydych wedi’u dysgu gan ddefnyddio’r dull cyfeirio penodol a bennwyd gan eich adran

Llythrennedd Newyddion a’r Cyfryngau
• Mae’r canllaw hwn yn helpu i ddatblygu sgiliau hanfodol wrth werthuso’r wybodaeth a ddefnyddiwn ar-lein. Byddwch yn dysgu sut i ddiffinio cysyniadau allweddol megis rhyddid i lefaru, camwybodaeth, twyllwybodaeth a sensoriaeth; deall cysyniadau dethol a rhagfarn yn y cyfryngau a sut i adnabod newyddion ffug.
• Mae’r canllaw hwn yn cynnwys cwis sy’n eich galluogi i brofi’r wybodaeth yr ydych wedi’i chael.

Bydd canllawiau a chwisiau pellach yn cael eu hychwanegu at y modiwl yn y dyfodol.
Os oes angen arweiniad arnoch wrth ddefnyddio’r modiwl, os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddefnyddio casgliadau a gwasanaethau’r llyfrgell neu os oes gennych unrhyw adborth, cysylltwch â: llyfrgellwyr@aber.ac.uk / 01970 621896

Mae Archif Hanesyddol y BBC ar gael nawr trwy Box of Broadcasts.

An old-time television setEfallai eich bod chi, fel finnau, yn llawenhau o glywed fod archif y BBC o raglennu radio a theledu hanesyddol erbyn hyn ar gael trwy Box of Broadcasts.

O’m rhan i, rwy’n ysu am gael gwylio hwyl a sbri ôl-apocalyptaidd Z for Zachariah (a ddarlledwyd yn 1984 fel rhan o’r gyfres Play for Today). Os nad yw hwn at eich dant, beth am Allen Ginsberg a William Burroughs yn siarad am Jack Kerouac ar Arena yn 1988? Na, ddim i chi? Beth am bennod, efallai, o Horizon o’r flwyddyn 1980 sy’n edrych ar sut mae prosesyddion geiriau sy’n cael eu rheoli â llais yn mynd i chwyldroi bywyd y swyddfa? Neu beth am daith bersonol o gwmpas Stratford upon Avon yng nghwmni’r dramodydd Huw Lloyd Edwards yn y rhaglen Arall Fyd o’r flwyddyn 1972?

Wrth gwrs, y BBC yw hon, ac felly mae cymaint mwy i’w gael: uchafbwyntiau diwylliannol (Shakespeare ar Deledu’r BBC); adloniant ysgafn arloesol (Multi-Coloured Swap Shop – dyna fy mhlentyndod i!). Mae rhaglenni newyddion blaenllaw (Newsnight) ac adroddiadau hanesyddol o ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol o bwys (Yesterday’s Witness). Dyma gasgliad o adnoddau sy’n unigryw o ran ansawdd a dyfnder.

Mae Box of Broadcasts wedi paratoi gwybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i ddod o hyd i’r cynnwys hanesyddol yn yr archif, ond os cewch anhawster gydag unrhyw beth, cofiwch gysylltu â’ch llyfrgellydd pwnc am gymorth.

Dyma ambell ddolen ddefnyddiol arall i’ch helpu i ymgyfarwyddo â Box of Broadcasts.

A rhai dolenni defnyddiol ar gyfer staff sy’n addysgu:

Mae Llyfrgellwyr Pwnc yn dymuno egwyl braf i bawb!

Rydyn ni mor ffodus yma yn Aberystwyth ein bod yng nghanol cen gwlad odidog sy’n berffaith ar gyfer mynd am dro. Roedd yn arbennig o addas bod cyfarfod olaf y tîm wedi rhoi cyfle i ddianc oddi wrth ein sgriniau a dod at ein gilydd cyn gwyliau’r Nadolig i gerdded a chael paned a sgwrs yn Nant yr Arian.

Bu’r tymor yn un prysur ac aeth heibio’n gyflym iawn! Cafwyd cyfuniad da o sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein a darparu cymorth. Roeddem wrth ein bodd i fod nôl wrth y ddesg ymholiadau ar Lawr F yn Hugh Owen, yn cynorthwyo gyda chwestiynau ac ymholiadau o bob math.

Fe fyddwn ni yma tan ddydd Iau 23 Rhagfyr, ac os byddwch chi angen cymorth cysylltwch â ni trwy e-bostio llyfrgellwyr@aber.ac.uk. Ar ôl yr egwyl byddwn yn ailddechrau ddydd Mawrth 4 Ionawr.

Bydd rhai ystafelloedd cyfrifiaduron a mannau astudio ar gael i’w defnyddio dros wyliau’r Nadolig, mae mwy o fanylion i’w gweld yn: Newyddion a Digwyddiadau : Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth.

Gobeithio y cewch chi i gyd egwyl hyfryd ac edrychwn ymlaen i’ch cefnogi a’ch cynorthwyo yn 2022!

(O’r chwith i’r dde: Joy Cadwallader, Abi Crook, Sioned Llywelyn, Lloyd Roderick, Anita Saycell, Sarah Gwenlan)