Yn Cyflwyno: LibKey Nomad

Estyniad porwr gwe i’w lawrlwytho yw LibKey Nomad. Mae’n darparu dolenni at erthyglau o gyfnodolion y mae eich llyfrgell yn tanysgrifio iddynt yn awtomatig. Bydd mynediad un-clic LibKey Nomad at erthyglau sy’n cael eu cyfeirnodi ar wefannau ysgolheigaidd a pheiriannau chwilio yn gwneud eich ymchwil a dod o hyd i ffynonellau yn gyflymach ac yn haws o lawer.

Lawrlwytho LibKey Nomad yma

Mae LibKey Nomad yn hawdd i’w ddefnyddio. Ewch i’r dudalen lawrlwytho ac ychwanegwch yr estyniad at eich porwr o ddewis. Ar ôl ei osod, bydd gofyn ichi ddewis eich sefydliad. Dewiswch Prifysgol Aberystwyth a bydd LibKey Nomad yn rhoi gwybod ichi am erthyglau sydd ar gael trwy’r llyfrgell lle bynnag y byddwch chi’n crwydro ar-lein.

Bydd LibKey Nomad hefyd yn cyfoethogi eich profiad ar safleoedd poblogaidd fel PubMed, Wikipedia, Scopus, Web of Science a mwy.

Cymhariaeth

Dyma enghraifft o restr gyfeirnodau ar Wikipedia cyn i LibKey Nomad gael ei osod ac ar ôl ei osod (sgroliwch ar draws i gymharu):

Cyfeirnodau ar Wikipedia cyn ac ar ôl gosod yr estyniad Libkey Nomad ar eich porwr gwe

Gallwch weld bod LibKey Nomad yn ychwanegu dolen at yr erthygl os oes mynediad gan y llyfrgell. Mae clicio ar y ddolen yn mynd â chi’n uniongyrchol i’r ffynhonnell.

Dysgwch ragor am LibKey Nomad yn y fideo isod:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth am LibKey Nomad, anfonwch e-bost atom ar llyfrgellwyr@aber.ac.uk. Fel bob amser, os oes angen help arnoch i ddod o hyd i adnoddau ar gyfer eich astudiaethau, cysylltwch â’ch Llyfrgellydd Pwnc.

Wythnos Llyfrgelloedd 2022 – Dysgu Gydol Oes

Thema Wythnos Llyfrgelloedd eleni yw’r rhan ganolog sydd gan lyfrgelloedd yn cefnogi dysgu gydol oes.

Heddiw, rydym yn canolbwyntio ar ein myfyrwyr Dysgu Gydol Oes a’n defnyddwyr allanol.

Dysgu Gydol Oes

Ein canllaw Dysgu Gydol Oes yw eich canllaw cyflawn i’r llyfrgell a’r adnoddau dysgu ar gyfer eich pynciau. Yma cewch fanylion am adnoddau allweddol a chanllawiau ar sut i ddefnyddio’r llyfrgell a chysylltiadau cymorth.

Hafan LibGuide Dysgu Gydol Oes

Casgliad Astudio Effeithiol Mae’r Casgliad Astudio Effeithiol wedi’i gynllunio i’ch helpu chi astudio. Mae’n ymdrin â phynciau fel sut i wneud ymchwil a sut i astudio, sgiliau ysgrifennu, ysgrifennu academaidd, defnyddio’r Saesneg, rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a rhai canllawiau cyffredinol ynglŷn ag ymchwil ac astudio ym maes y celfyddydau.

Os ydych yn dychwelyd i fyd addsyg ar ôl seibiant, mynnwch olwg.

Mannau astudio a chyfleusterau TG yn y llyfrgell Peidiwch anghofio y gall myfyrwyr Dysgu Gydol Oes ddefnyddio holl gyfleusterau’r llyfrgell megis mannau astudio tawel, cyfrifiaduron, Wi-Fi ardderchog, a’r argraffwyr / copïwyr. Porwch yr A i Y o Wasanaethau’r Llyfrgell yma.

Y Casgliad Celtaidd Mae’r Casgliad Celtaidd yn cynnwys tua 25,000 o lyfrau yn ymwneud â Llydaw, Cernyw, Ynys Manaw, Iwerddon, yr Alban a Chymru. Mae’r casgliad yn cynnwys deunydd ar bob pwnc sy’n ymwneud â’r gwledydd Celtaidd, ac mae’n adnodd bendigedig i ymchwilwyr a selogion.

Dysgu Cymraeg neu am wella eich sgiliau? Dewch chi o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch i ymarfer a datblygu’ch sgiliau darllen a siarad yn y casgliad hwn – o nofelau graddedig gyda geirfa i wers-lyfrau.

Dewch o hyd i’r casgliad ar Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen:

Rhai o adnoddau dysgu Cymraeg yn y Casgliad Celtaidd

Digimap Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu data mapiau Arolwg Ordnans llawn a chynhwysfawr a mapiau hanesyddol yn ogystal â data daearegol. Mae Digimap yn adnodd hudol ac yn ddefnyddiol tu hwnt i ymchwilwyr hanes lleol a Gwyddorau Daear fel ei gilydd. Yr unig beth sydd angen arnoch yw cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth i gofrestru i’w weld.

Linkedin Learning Caiff holl fyfyrwyr ddefnyddio’r cyfoeth o gyrsiau gan arbenigwyr sydd ar gael ar-lein am ddim ac yn ddiderfyn 24/7 trwy Linkedin Learning.

Dyma ddetholiad o gyrsiau ddewiswyd gan ein Pencampwr Digidol Myfyrwyr, Urvashi Verma, a allai fod o ddefnydd i fyfyrwyr Dysgu Gydol Oes

Casgliad Dysgu Gydol Oes Casgliad o gyrsiau a fideos byrion i’ch helpu chi ddatbygu’ch sgiliau astudio a rheoli’ch amser yn well.

Urvashi Verma

Defnyddwyr Allanol

Mae ein llyfrgelloedd yn croesawu gwahanol gategorïau o ddefnyddwyr allanol, o gyn-fyfyrwyr ac aelodau o staff sydd wedi ymddeol ac sy’n awyddus i ddal i ddefnyddio adnoddau’r llyfrgell, myfyrwyr o sefydliadau eraill sy’n ymweld ag Aber ac angen lle i astudio neu drigolion lleol.

Rhowch gip ar y categorïau a’r manylion cofrestru: Gwybodaeth ar gyfer Ymwelwyr a Defnyddwyr Allanol.

Casgliadau Arbennig Gall Ddefnyddwyr Allanol wneud cais i ddefnyddio cyfleusterau TG a mannau astudio’r llyfrgell ac hefyd drefnu i weld eitemau hardd yn ein Casgliadau Arbennig.

Wythnos Llyfrgelloedd 2022 – Staff

Thema Wythnos Llyfrgelloedd eleni ydy’r rhan ganolog sydd gan lyfrgelloedd yn cefnogi dysgu gydol oes.

Heddiw byddwn yn canolbwyntio ar holl staff Prifysgol Aberystwyth a rhai o adnoddau’r llyfrgell sy’n cynorthwyo unigolion i ddatgloi a chyflawni eu potensial ar bob cam o’u bywydau a’u gyrfaoedd.

Gale OneFile News Gallwch weld y newyddion ar-lein, gan gynnwys gweisg masnachol proffesiynol. Mae Newyddion Gale OneFile yn caniatáu ichi chwilota drwy 2,300 o bapurau newydd mawr, gan gynnwys miloedd o ddelweddau, darllediadau radio a theledu a thrawsgrifiadau.

Digimap Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu data mapiau Arolwg Ordnans llawn a chynhwysfawr a mapiau hanesyddol yn ogystal â data daearegol. Adnodd hynod ddefnyddiol a difyr yw Digimap, a fydd yn diddanu ymchwilwyr hanes lleol a phobl sy’n ymwneud â’r Gwyddorau Daear fel ei gilydd. Yr unig beth sydd angen arnoch yw cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth i gofrestru i ddefnyddio’r adnodd.  

Map o Aberystwyth yn 1880 – Digimap

Box of Broadcasts Ydych chi’n gwneud rhywfaint o ymchwil? Mae Box of Broadcasts (BoB) yn wasanaeth teledu a radio ar alw i staff a myfyrwyr at ddefnydd academiadd, sy’n cynnig mynediad at ddwy filiwn o ddarllediadau o dros 65 o sianeli teledu am ddim. Erbyn hyn mae BoB hefyd yn cynnwys archif y BBC, sef rhaglenni radio a theledu hanesyddol.

Y Weithfan Ystafell astudio 24 awr yw’r Weithfan, sydd yn darparu cyfrifiaduron, peiriannau argraffu, WiFi, ac ystafell astudio i grwpiau / ystafell gyfarfod i fyfyrwyr a staff PA. Dewch o hyd i’r Weithfan wrth ymyl y Wetherspoons ger gorsaf drenau Aberystwyth a dewch â’ch Cerdyn Aber i gael mynediad.

Gwasanaethau Gyrfaoedd i holl staff PA A wyddoch y gall aelodau staff Prifysgol Aberystwyth hefyd fanteisio ar wasanaethau gyrfaoedd arbenigol y Brifysgol? Ewch draw i’n Canllaw Cyflogadwyedd i ddechrau arni.

Darllen er pleser Mae gan y llyfrgell gasgliadau sylweddol o ffuglen, llyfrau ffeithiol a barddoniaeth ar gyfer darllen er pleser. Porwch ein casgliad Ffuglen Gyfoes wrth ymyl y Ddesg Ymholiadau ar Lefel F neu ewch at y silffoedd o’r nod dosbarth PN (neu catalog y llyfrgell, Primo).

Casgliad Ffuglen Gyfoes

Y Casgliad Celtaidd Os ydych yn chwilio am nofel, barddoniaeth, llyfr hanes neu lyfrau i’ch helpu ddysgu neu loywi’ch Cymraeg, cofiwch fod miloedd o lyfrau Cymraeg ar bob pwnc dan haul yn y Casgliad Celtaidd. Mae’r casgliad yn cynnwys cannoedd o lyfrau i’ch helpu i ddatblygu eich Cymraeg, o gyrsiau iaith cyflawn a llyfrau gramadeg i ffuglen gyda geirfa ddefnyddiol. Dewch o hyd i’r casgliad ar Lefel F.

Casgliad Astudio Effeithiol Efallai y bydd ambell deitl yn ein Casgliad Astudio Effeithiol o ddefnydd ichi wrth ddatblygu’ch sgiliau astudio neu’ch sgiliau proffesiynol, megis sgiliau cyflwyno neu ymchwil.

Linkedin Learning Gall pob myfyriwr ac aelod o staff PA ddefnyddio’r cyfoeth o gyrsiau sydd ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim ac sydd wedi’u harwain gan arbenigwyr trwy Linkedin Learning.

Dyma ddetholiad bach o gyrsiau a allai fod yn ddefnyddiol i staff PA a grëwyd gan Jeffrey Clark, Pencampwr Digidol Myfyrwyr:

Casgliad Datblygiad Personol a Phroffesiynol –  Mae’r casgliad hwn yn cynnwys cyfres o gyrsiau sydd wedi’u cynllunio i gynorthwyo aelodau o staff i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol a phersonol.

Jeffrey Clark

Canllawiau Traethawd Hir a Newyddion a’r Cyfryngau newydd

Mae ein Llyfrgellwyr Pwnc wedi cyhoeddi nid dim ond un ond dau Ganllaw Llyfrgell newydd i’ch helpu gyda’ch astudiaethau a’r hyn sy’n dod ar eu hôl.

Canllaw Traethawd Hir

P’un a ydych yn cynllunio ymlaen llaw ar gyfer eich traethawd hir neu’n hanner ffordd drwy’r broses ac yn difaru pob penderfyniad hyd yn hyn, gall y canllaw hwn eich helpu!

Yn y canllaw, mi ddewch o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch i ddeall a rheoli’r broses o ysgrifennu traethawd hir – o ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth a datblygu eich technegau chwilio i werthuso a chyfeirnodi’r ffynonellau hynny.

Am help a chyngor pob cam o’r ffordd, o gysyniad i gloi, cymrwch bip ar ein Canllaw Traethawd Hirhttps://libguides.aber.ac.uk/traethawdhir

Sgrinlun o’r Canllaw Newyddion a’r Cyfryngau

Canllaw Newyddion a’r Cyfryngau

Mae ein canllaw Newyddion a Chyfryngau yn adnodd cynhwysfawr a chlir i’ch helpu llywio’r newyddion a chyfryngau drwy gydol eich amser yn y Brifysgol a thu hwnt.

  • Diogelu eich delwedd ar-lein
  • Diffinio cysyniadau allweddol megis rhyddid mynegiant, camwybodaeth a thwyllwybodaeth, a sensoriaeth
  • Dysgwch sut mae algorithmau’n cael eu defnyddio i dargedu pobl ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Deall cysyniadau dethol a thuedd
  • Eglurwch beth yw newyddion ffug a dysgu sut i’w adnabod

Mae ein Canllaw Newyddion a’r Cyfryngau yma i’ch helpu chi i helpu’ch hun i gadw’n saff ac yn graff: https://libguides.aber.ac.uk/newyddion

Gallwch weld ein holl Ganllawiau Pwnc a chymorth astudio yma

LibGuide Hawlfraint Newydd

Fel myfyriwr, ydych chi eisiau gwybod sut y gall hawlfraint effeithio ar y modd yr ydych yn paratoi ar gyfer eich aseiniadau a’u hysgrifennu? Efallai eich bod yn ddarlithydd, a’ch bod eisiau gwybod a yw dangos ffilm neu raglen deledu yn ystod darlith neu seminar yn torri deddfwriaeth hawlfraint? Neu a ydych chi’n ymchwilydd sydd eisiau diogelu eich gwaith eich hun rhag cael ei ddefnyddio gan eraill heb eich caniatâd?
Mae atebion i’r cwestiynau hyn, a nifer o gwestiynau eraill am hawlfraint ar gael yn ein Canllaw Hawlfraint newydd. Mae’r canllaw’n cynnig trosolwg cynhwysfawr o’r ddeddfwriaeth hawlfraint gyfredol, ond mae hefyd yn cynnig cyngor ymarferol ar sefyllfaoedd hawlfraint cyffredin y gallech eu hwynebu yn rhan o’ch gwaith yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae’r canllaw ar gael yn Gymraeg a Saesneg

Engrafiad gan William Hogarth. Yn y Parth Cyhoeddus

Newydd! Canllaw Cyflogadwyedd

Mae ein gwasanaethau llyfrgell yn parhau i’ch helpu hyd yn oed ar ôl ichi ennill eich gradd!  

Myfyrwyr yn ymarfer cyflwyniadau

Mae Llyfrgellwyr Pwnc Prifysgol Aberystwyth wedi paratoi LibGuide Cyflogadwyedd newydd. Dyma eich canllaw i’r llyfrau ac adnoddau i’ch helpu i ysgrifennu CV heb ei ail, ac i’r cyngor a’r offer arbenigol i’ch helpu i ymchwilio i’r cwmni neu’r sefydliad rydych am weithio iddo. 

Cewch ddefnyddio’r canllaw i :  

  • Ddod o hyd i adnoddau am wahanol gwmnïau, diwydiannau a chyngor cyffredinol am yrfaoedd 
  • Darganfod adnoddau i feithrin sgiliau digidol a gwybodaeth hanfodol i wella’ch rhagolygon ar ôl graddio 
  • Ymchwilio i’ch llwybr gyrfa dewisol a pharatoi ar gyfer cyfweliadau a llunio ceisiadau am swyddi  

Gall adnoddau’r llyfrgell eich helpu i sicrhau’ch swydd ddelfrydol wrth ichi ddatblygu’ch cyflogadwyedd.  

Ymwelwch â’r canllaw yma: https://libguides.aber.ac.uk/cyflogadwyedd