Mae’r rhan fwyaf o systemau Deallusrwydd Artiffisial (DA) wedi’u hyfforddi i fod yn gymwynasgar, cwrtais a dymunol, doed a ddelo. Mae hynny’n wych pan fyddwch chi’n gofyn am rysáit hawdd am lasagna neu’n chwilio am ‘bawen lawen’ rithiol ar ôl i chi redeg 5K yn nannedd y gwynt a’r glaw. Bydd bob amser “Da iawn!” yn aros amdanoch yn y blwch sgwrsio. Mae’n rhyw fath o sticer seren aur ddigidol ar eich cerdyn adroddiad oedolyn, yn cadarnhau’ch bod chi’n hollol anhygoel am yr holl ‘fod-yn-oedolyn’ beth.
Ond fe ddaw adeg pan ddechreuwch deimlo bod y DA wedi mynd yn rhyw fath o ffan eithafol ohonoch chi. Mae pob un o’ch cwestiynau’n “ardderchog,” pob un sylw yn “ddeallus,” a’ch dewisiadau’n “berffaith” (er, rhaid cyfaddef, nad oedd y streipiau llorweddol ar fy ffigwr braidd yn “arwrol” yn hollol berffaith, mewn gwirionedd. Beth yn y byd ddaeth dros dy ben, DA?!).

Mae’r seboni sy’n dod o Ddeallusrwydd Artiffisial yn gallu bod yn rhyfeddol o swynol. Mae clywed “Na, rwyt ti’n wych” yn gallu rhoi dogn o serotonin i chi, a’r hwb roedd ei wir angen arnoch. Ond y tu ôl i’r cadarnhad cyfeillgar hwnnw, mae’n bosib bod rhywbeth mwy tywyll yn llechu; pan fo peiriannau wedi’u cynllunio i’n plesio, fe allwn yn hawdd gamgymryd y cytuno hwnnw am gywirdeb.
A dyna le mae pethau’n mynd yn draed moch. Os aiff pethau o sgwrsio am siwmperi (neu am gathod fel arglwyddi newydd arnom) i bethau sydd angen eu cymryd o ddifri, boed hynny’n wleidyddiaeth, iechyd neu’r newyddion, mae’r un awydd i gytuno yn gallu arwain at ledaenu camwybodaeth. Nid yw DA wedi’i lunio i ddadlau; mae wedi’i lunio i’n cadw ni’n hapus. Nid y gwirionedd mo’i nod, ond bodlonrwydd. Ac rydyn ni, bodau dynol, wrth ein bodd pan gytunir â ni, yn enwedig gan beiriannau sy’n ein canmol ni fel ffrindiau gor-frwd.
A’r canlyniad? Siambr atseinio gyfeillgar fach sy’n ein gwenieithu nes ein bod ni’n teimlo’n fwyfwy clyfar wrth i’n galluoedd meddwl yn feirniadol ar yr un pryd fynd yn wannach. Os yw popeth a wnawn yn hollol wych, efallai y dechreuwn ddrysu rhwng cadarnhad a dealltwriaeth, boed hynny’n perthyn i ni neu’r Deallusrwydd Artiffisial.
Rwy’n deall, mae’n braf cael eich clodfori. Ond mae’n rhaid gwthio heibio iddo weithiau a chraffu’n fanwl ar yr hyn mae’r DA yn ei gynnig i ni. Meddyliwch amdani fel coginio’r lasagna hwnnw gyda ffrind cwrtais a chymwynasgar iawn sy’n dweud, “Perffaith!” drwy’r amser. Weithiau, mae angen i chi ei flasu’ch hunan er mwyn cael gwybod a ydyw’n dda mewn gwirionedd.
