Llwybrau Proffesiynol i Wasanaethau Llyfrgell

Wrth i’r flwyddyn academaidd ddod i ben, dyma’r amser perffaith i fyfyrio ar y cyfraniadau gwych a wnaed gan ein myfyrwyr Llwybrau Proffesiynol yn ystod eu lleoliadau gwaith gyda ni yng Ngwasanaethau Llyfrgell.

Eleni roeddem yn falch iawn o groesawu tri myfyriwr a weithiodd ar draws gwahanol dimau o fewn Gwasanaethau Llyfrgell ac a ddaeth yn aelodau gwerthfawr o staff yn gyflym.

Ein Myfyrwyr Lleoliad

Tayyibah Shabbir, Tîm Cyfathrebu, Ansawdd a Marchnata

Daeth Tayyibah â chymysgedd unigryw o fewnwelediad seicolegol, profiad uniongyrchol fel myfyriwr Aberystwyth, ac angerdd gwirioneddol am ddarllen; rhinweddau a oedd yn amhrisiadwy i’n gwaith. Roedd ei chariad at lyfrgelloedd hefyd yn amlwg o’r dechrau ac rydym yn gobeithio bod ei hamser gyda ni wedi helpu i feithrin y cariad hwnnw!

Tayyibah oedd y grym y tu ôl i’n nifer o’n mentrau. Cydlynodd arddangosfeydd llyfrau creadigol yn Llyfrgell Hugh Owen i nodi digwyddiadau allweddol fel Diwrnod Iechyd Meddwl y Brifysgol a Dydd Sant Ffolant, gan ddod ag ymwybyddiaeth ac ymdeimlad o hwyl i’n gofodau.

Roedd ei dealltwriaeth o brofiad y myfyriwr hefyd yn allweddol wrth inni lansio ein cylchlythyr Newyddion Llyfrgell PA. Gyda help Tayyibah, llwyddon i lunio cynnwys a oedd yn atseinio gyda myfyrwyr trwy gydol y flwyddyn academaidd, gan sicrhau bod ein cyfathrebiadau yn parhau i fod yn amserol ac yn berthnasol.

Roedd ei sgiliau dadansoddol yn disgleirio yn ei gwaith ar werthuso gwasanaethau a phrofiad defnyddwyr. Cynorthwyodd Tayyibah i gasglu data trwy amrywiaeth o dechnegau ymchwil, gan gynnwys helpu gyda’n gweithdy ‘Sŵn mewn Llyfrgelloedd‘ a chynnal astudiaethau arsylwi ar ein ciosgau MapLlawr y Llyfrgell. Mae’r mewnwelediadau hyn eisoes wedi ein helpu i nodi meysydd lle mae angen mwy o gefnogaeth ar rai myfyrwyr i lywio’r llyfrgell. Diolch i’w hargymhellion, rydym bellach yn datblygu adnoddau newydd i wneud dod o hyd i lyfrau a defnyddio ein gwasanaethau hyd yn oed yn haws.

Cydnabuwyd cyflawniadau Tayyibah yn nigwyddiad dathlu Myfyrwyr Llwybrau Proffesiynol ar 11 Mehefin, lle cafodd ei gwahodd i gyflwyno ar ei lleoliad gwaith.

Tayyibah Shabbir yn derbyn ei thystysgrif am gwblhau ei lleoliad Llwybrau Proffesiynol yn llwyddiannus gan yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr)

Kirill Kulikovskii, Tîm Ymgysylltu Academaidd

Cafodd Kirill Kulikovskii, myfyriwr Cyfrifiadureg, ei leoliad Llwybrau Proffesiynol gyda’r tîm Ymgysylltu Academaidd yn y llyfrgell. Datblygodd sgript Python i’w defnyddio i nodi dolenni sydd wedi’u torri ar draws ystod o fathau o adnoddau yn Rhestrau Darllen Aspire sydd bellach wedi’u trwsio. Cysylltodd hefyd â staff TG i drefnu i’r app gael ei hychwanegu at Company Portal y Brifysgol fel y gall staff ei lawrlwytho a’i ddefnyddio i wirio am ddolenni newydd sydd wedi torri yn y dyfodol.

App Kiril ar gael i’w lawrlwytho yn Company Portal y Brifysgol

Roedd hwn yn lleoliad llwyddiannus iawn a chafodd Kirill ei enwebu a’i roi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Aelod Staff Myfyrwyr y Flwyddyn Undeb Aber 2025.

Ewan Price, Tîm Sgiliau Digidol

Cwblhaodd Ewan Price ei Leoliad Llwybrau Proffesiynol gyda’r Tîm Sgiliau Digidol. Yn gyntaf, creodd gyfres o TipiauDigidol i helpu myfyrwyr a staff i ddatblygu eu sgiliau digidol, roedd tipiau Ewan yn amrywio o ddefnyddio graffiau yn Excel i sut i fod yn fwy effeithiol yn Teams trwy ddefnyddio gorchmynion.

Darllenwch ein holl TipiauDigidol yma!

Helpodd Ewan hefyd i gynnal ein Llyfrgell Sgiliau Digidol trwy wirio’r holl adnoddau i wneud yn siŵr eu bod yn dal i fod yn briodol ac yn berthnasol i’n defnyddwyr – boed yn staff neu fyfyrwyr.

Prosiect mwyaf Ewan oedd creu gwefan SharePoint newydd sbon “Hanfodion Digidol ar gyfer Staff” i helpu staff newydd i gyda phopeth digidol y gallai fod angen iddynt ei wybod pan fyddant yn dechrau gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Llwyddodd Ewan i gasglu adnoddau, creu cynllun a gweithio ar y cyd ag aelodau eraill y gweithgor i wneud penderfyniadau ar gynnwys a dyluniad y safle. Datblygodd hefyd ei sgiliau hwyluso a’i sgiliau cyfathrebu trwy gysylltu â rhanddeiliaid yn y Brifysgol i gasglu adborth i wella’r adnodd cyn iddo gael ei lansio.

Roedd cyfraniadau Ewan yn dra gwerthfawr i’r tîm dros y misoedd diwethaf. Roedd y gwaith o gwblhau’r prosiectau hyn dim ond yn bosibl diolch i’w arbenigedd mewn Cyfrifiadureg. Mae wedi gwneud inni edrych o’r newydd ar sut rydym yn darparu ein hadnoddau.

I’r Dyfodol

Rydym yn hynod falch o’r hyn y mae ein Myfyrwyr Llwybrau Proffesiynol wedi’i gyflawni yn ystod eu hamser gyda ni. Mae eu brwdfrydedd, eu chwilfrydedd a’u parodrwydd i ddysgu, yn ogystal â’u sgiliau a’u mewnwelediadau unigol wedi dod â phersbectif newydd ac egni i’n gwaith. Ysbrydoledig oedd gweld eu hyder yn tyfu wrth iddynt ymgymryd â heriau newydd, cydweithio, a gweld effaith gadarnhaol eu gwaith ar ddefnyddwyr ein gwasanaethau.

Dymunwn y gorau iddynt yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol!

 

Helo👋

Tanysgrifiwch i dderbyn cylchlythyr y llyfrgell yn syth i'ch mewnflwch.

Hello👋

Sign up below to receive the library's newsletter directly to your inbox.

Dewis iaith / Choose your language

Dydyn ni ddim yn sbamio! Darllenwch ein polisi preifatrwydd am fwy o wybodaeth.

We don’t spam! Read our privacy policy for more info.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*