Mae’r tîm o Lyfrgellwyr Pwnc wedi bod yn gweithio’n galed dros yr “haf” (os gallwn ni ei alw’n haf gyda’r holl law!) i ddod â Chanllaw diweddaredig i chi sy’n amlinellu sut y gallwch ddefnyddio DA i fanteisio i’r eithaf ar adnoddau’r llyfrgell.
Mae’r Canllaw yn cynnig cyngor ar:
- Sut y gallwch ddefnyddio DA.
- Rhai o’r offer DA a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
- Manteision defnyddio DA dros beiriannau chwilio traddodiadol.
- Defnydd priodol a moesegol o offer DA.
- Adeiladu anogwyr yn effeithiol.
- Rhai o’r risgiau posibl o ddefnyddio DA (gan gynnwys materion sy’n ymwneud â thorri hawlfraint, rhagfarn a diogelu data).
- Effaith DA ar uniondeb academaidd
Gellir gweld Dolenni i’r Canllaw yma:
- https://libguides.aber.ac.uk/artificial-intelligence
- https://libguides.aber.ac.uk/deallusrwydd-artiffisial
Fel cydymaith i’r Canllaw, rydym yn mynd i gynnig cyfres o bostiadau blog a fydd yn edrych ar y cyngor a roddir yn y canllaw yn fanylach ac yn cynnig rhai awgrymiadau ymarferol ar gyfer defnyddio DA.
Dyma gipolwg o’r hyn y gallwch ei ddisgwyl yn ystod yr wythnosau nesaf:
- Adolygiadau o offer DA.
- Cyngor ymarferol ar adeiladu anogwyr effeithiol.
- Datblygu chwiliadau allweddair clyfar.
- Darganfod adnoddau sy’n gysylltiedig â’ch maes astudio.
- Gwerthuso allbynnau DA trwy gymhwyso’r prawf CCAPP.
- Risgiau defnyddio DA.
Gobeithiwn y bydd y Canllaw a’r gyfres o bostiadau blog yn ddefnyddiol. Mae’n bwysig pwysleisio serch hynny ei bod hi’n rhaid i chi ddilyn y canllawiau ar ddefnyddio DA a gyhoeddir gan eich adran (lle bônt ar gael).