Nid yw Jisc bellach yn darparu Jisc Historical Texts. I wneud yn iawn am golli’r gwasanaeth hwn:
- Mae’r Llyfrgell wedi agor tanysgrifiad i Early English Books Online (EEBO)
Mae Early Modern Books yn cwmpasu deunydd o Ynysoedd Prydain ac Ewrop am y cyfnod 1450-1700. Mae chwiliad integredig ar draws Llyfrau Saesneg Cynnar Ar-lein a Llyfrau Ewropeaidd Cynnar yn caniatáu i ysgolheigion weld deunyddiau o dros 225 o lyfrgelloedd ffynhonnell ledled y byd. Mae cynnwys EEBO yn defnyddio catalogau teitl byr awdurdodol y cyfnod ac yn cynnwys llawer o drawsgrifiadau testun a grëwyd yn arbennig ar gyfer y cynnyrch. Mae cynnwys o Ewrop yn cwmpasu’r Casgliadau Llyfrau Ewropeaidd Cynnar wedi’u curadu o 4 llyfrgell genedlaethol a Llyfrgell Wellcome Llundain.
- Mae yna danysgrifiad newydd hefyd i Eighteenth Century Collections Online (ECCO) ond oherwydd y costau bydd hwn am flwyddyn yn unig
Mae Eighteenth Century Collections Online (ECCO) yn llyfrgell helaeth o’r ddeunawfed ganrif ar eich bwrdd gwaith—casgliad testun-chwiliadwy llawn o lyfrau, pamffledi ac argrafflenni ym mhob pwnc a argraffwyd rhwng 1701 a 1800. Ar hyn o bryd mae’n cynnwys dros 180,000 o deitlau sy’n dod i gyfanswm o dros 32 miliwn o dudalennau y gellir eu chwilio’n llawn.
Gellir cael gafael ar deitlau sydd yn yr archif Jisc Journal Archive trwy ddarparwyr eraill yn Primo, catalog y Llyfrgell.
Cofiwch gysylltu â llyfrgellwyr@aber.ac.uk neu eich llyfrgellydd pwnc os oes gennych unrhyw gwestiynau.