Dymunwn wyliau Nadolig pleserus i chi!

Mae’r tymor hwn wedi bod yn brysur ac wedi mynd heibio’n gyflym iawn! Mae wedi bod yn gymysgedd gwych gyda sesiynau addysgu ar-lein yn ogystal ag wyneb yn wyneb a darparu cefnogaeth. Rydym wedi mwynhau bod yn ôl ar ddesg ymholiadau Llawr F Hugh Owen, gan helpu gyda llawer o gwestiynau ac ymholiadau amrywiol.

Rydym yma tan ddydd Iau 22 Rhagfyr, os bydd arnoch angen unrhyw gymorth cysylltwch â ni ar llyfrgellwyr@aber.ac.uk. Ar ôl y gwyliau byddwn ni nôl ddydd Mawrth 3 Ionawr.

Mae Ystafell Iris de Freitas ar agor 24/7 o 22 Rhagfyr – 3 Ionawr 2023.

Ydych chi’n aros ar y Campws neu yn Aberystwyth yn ystod gwyliau’r Nadolig?

Hoffem ddymuno gwyliau hyfryd i bawb ac edrychwn ymlaen at eich helpu a’ch cefnogi yn 2023!

Porfeydd newydd i Connie

Rydym yn drist iawn ein bod wedi ffarwelio ag aelod gwerthfawr o’r Tîm Ymgysylltu Academaidd, Connie Davage. Ymunodd Connie â’n tîm nôl yn 2018 gan ddod â’i chyfoeth o brofiad o Dîm Desg Gwasanaeth y Llyfrgell i gyfuno’r rôl hon â chefnogi’r tîm lle bynnag y bo angen. Roedd Connie hefyd yn cefnogi’r Adran Dysgu Gydol Oes a bydd holl staff yr Adran yn gweld ei heisiau’n fawr.

Mae nifer o gydweithwyr ar draws y Brifysgol wedi cael cymorth Connie dros y blynyddoedd, o gefnogaeth ar gyfer Rhestr Ddarllen Aspire, i geisiadau digideiddio a chymorth llyfrgell gwerthfawr.

Hoffem ddymuno’r gorau i Connie yn ei rôl newydd fel llyfrgellydd ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant a diolch iddi am fod yn gydweithiwr gwych, yn bobydd o fri ac yn ffrind i bawb yn y tîm.

Connie Davage hod
Connie Davage