Mae Newid Hinsawdd yn bwnc brawychus i fynd i’r afael ag ef, a gall dod o hyd i wybodaeth ddibynadwy i helpu i ddeall y pwnc hollbwysig hwn deimlo’n llethol. Mae mynd i’r afael â Newid Hinsawdd yn gyfrifoldeb ar bawb, a pha un ai eich bod yn dod o gefndir yn y celfyddydau, neu mewn gwleidyddiaeth, neu yn y gwyddorau cymdeithasol, amgylcheddol neu ffisegol, mae’n hanfodol bod pob un ohonom yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddeall effaith Newid Hinsawdd ar ein byd.
Cafodd rhestr ddarllen ‘Is Aberystwyth’s Future Under Water? Stemming the tide of Climate Change’ ei chreu gan Catherine Fletcher ac Annabel Cook yn ystod eu cyfnod ar leoliad AberYmlaen gyda Thîm Cysylltiadau Academaidd y Llyfrgell. Lluniwyd y casgliad hwn o adnoddau i gefnogi canlyniadau Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth (18 – 25 Hydref 2021) ond roeddem o’r farn y gallai fod yn ddefnyddiol i gynulleidfa ehangach hefyd. Mae’r rhestr yn ceisio darparu ystod o wybodaeth am Newid Hinsawdd yn lleol ac yn fyd-eang. Mae’n cynnwys dolen i fap rhyngweithiol sy’n eich galluogi i archwilio codiad yn lefel y môr a bygythiadau llifogydd arfordirol a allai effeithio ar ble rydych chi’n byw. (Rhybudd: mae’n ddychrynllyd iawn!)
Rydyn ni’n gwybod faint mae myfyrwyr a thrigolion yn trysori Aberystwyth felly gobeithio trwy daflu goleuni ar yr effaith negyddol y gall Newid Hinsawdd ei chael ar y dref, y bydd yn ein helpu ni, fel cymuned, i ymdrechu i wneud dewisiadau mwy cynaliadwy.
Nid ar ardal Aberystwyth yn unig y mae’r adnoddau ar y rhestr hon yn canolbwyntio. Mae’r detholiad o erthyglau gwyddonol yr ydym wedi’u dewis yn amlinellu effeithiau’r newidiadau hinsoddol a allai gael effaith ledled y byd. Roeddem hefyd eisiau dangos bod yr ymchwil yn rhyngddisgyblaethol, gan dynnu sylw at y rôl hanfodol y mae pob adran wyddonol ledled y brifysgol yn ei chwarae wrth ymchwilio i Newid Hinsawdd. Y gobaith yw, wrth ddeall Newid Hinsawdd yn llawn, y gallwn ragweld ac addasu’n fwy effeithlon i’r heriau yr ydym, yn anochel, yn mynd i’w hwynebu.
(Anthropocene poetics: deep time, sacrifice zones, and extinction by David Farrier – 2019)
Mae’n bwysig cofio nad yr adrannau gwyddonol yn unig sy’n gallu ysbrydoli newid. Mae gan y celfyddydau a’r gwyddorau cymdeithasol rôl i’w chwarae wrth ddarparu ongl fwy creadigol i feddwl am, a deall, Newid Hinsawdd. Diben y rhestr ddarllen hon yw dangos sut mae’r disgyblaethau hynny eisoes yn ymateb i’r bygythiad y mae’r argyfwng hinsawdd yn ei beri.
Mae angen i ni i gyd wneud ein rhan. Felly os ydych chi’n astudio celf neu’n astudio sŵoleg (neu unrhyw bwnc yn y canol) mae angen i ni ddod â’n harbenigedd, a’n hysbrydoliaeth, i ymdrin ag argyfwng mawr ein hoes. Rhowch wybod i ni beth yw eich barn chi am y rhestr, mae’n ddogfen fyw ac os oes adnoddau y credwch ddylai fod yno, rhowch wybod i ni a gallwn eu hychwanegu.