DA a’r Llyfrgell. Wythnos 7: Moeseg Defnyddio DA Cynhyrchiol (Rhan Dau)

Bod yn dryloyw ynghylch eich defnydd o DA

Cyn i ni ddechrau arni’n iawn, gadewch imi ailadrodd ei bod hi’n rhaid i chi bob amser ddilyn unrhyw ganllawiau prifysgol ac adrannol ar ddefnyddio offer DA mewn gwaith a asesir.

Yn ein neges ddiwethaf ar foeseg defnyddio DA cynhyrchiol, fe wnaethon ni ddechrau edrych ar bwysigrwydd deall y cyfrifoldebau sy’n dod gyda defnyddio’r offer hyn. Y neges allweddol yn y postiad hwnnw oedd yr angen i ymgyfarwyddo â chanllawiau Prifysgol Aberystwyth ar ddefnydd DA.

Yr wythnos hon, rydym yn trafod pwnc pwysig arall: bod yn dryloyw ynghylch eich defnydd o offer DA mewn gwaith a asesir.

Wrth i DA cynhyrchiol ddod ar gael yn ehangach, mae prifysgolion yn pwysleisio pwysigrwydd uniondeb academaidd a datgeliad clir wrth ddefnyddio’r technolegau hyn.

Gall defnyddio DA fod yn gymorth gwerthfawr wrth ymchwilio, trafod syniadau a drafftio, ond mae’n hanfodol bod yn dryloyw ynglŷn â sut a ble rydych chi wedi’i ddefnyddio.

Mae bod yn agored am eich defnydd o offer DA yn hanfodol ar gyfer cynnal uniondeb academaidd. Mae tryloywder yn dangos eich ymrwymiad i onestrwydd ac arferion astudio moesegol.

Pwyntiau allweddol: Pam mae tryloywder yn bwysig:

  • Mae’n dangos eich gonestrwydd academaidd.
  • Mae’n adlewyrchu eich ymrwymiad i arferion astudio moesegol.
  • Mae’n tynnu sylw at eich sgiliau meddwl beirniadol.
  • Mae’n atgyfnerthu eich atebolrwydd proffesiynol.

Sut i gydnabod defnydd o DA:

Gofynnwch i’ch adrannau academaidd a chydlynwyr y modiwlau am gyngor ynghylch sut y dylech gydnabod cynnyrch DA. Gallai’r rhain gynnwys:

  • Datganiadau ar y defnydd o offer DA 
  • Cyngor ar arferion cyfeirio a chyfeirnodi cywir ar gyfer cynnyrch DA.

Gallwch ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth ychwanegol ar ddefnyddio DA yma: Deallusrwydd Artiffisial  : Gwasanaethau Gwybodaeth , Prifysgol Aberystwyth

DA a’r Llyfrgell. Wythnos Chwech: Moeseg Defnyddio DA Cynhyrchiol (Rhan Un)

Pan ddechreuais ysgrifennu am foeseg defnyddio DA cynhyrchiol, roeddwn i’n meddwl mai dim ond un blogbost fyddwn i’n ei ysgrifennu. Ond po ddyfnaf yr oeddwn yn ei gloddio, y mwyaf oedd i’w ystyried. Felly, yn hytrach nag un neges, mae’r pwnc hwn wedi troi’n gyfres ynddi’i hun (meddyliwch House of the Dragon i Game of Thrones!).

Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi ystyried sut mae offer DA cynhyrchiol fel ChatGPT a Perplexity yn trawsnewid sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio ag adnoddau llyfrgell. Ond gyda’r datblygiadau hyn daw ystyriaethau moesegol pwysig.

Y cam cyntaf, a’r pwysicaf o bosibl, wrth ddefnyddio DA cynhyrchiol yn gyfrifol yw deall polisïau DA eich prifysgol. Mae ymgyfarwyddo â’r canllawiau yn sicrhau eich bod yn aros yn academaidd onest ac yn eich galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus am ddefnydd o DA.

Dyma rai pethau i’w cofio:

Canllawiau ledled y Brifysgol

  • Edrychwch ar bolisïau swyddogol y brifysgol ar ddefnyddio DA mewn gwaith academaidd.
  • Gwiriwch am reolau penodol ynghylch DA mewn aseiniadau, arholiadau neu brosiectau ymchwil.

Cyngor Adrannol

  • Edrychwch am unrhyw ganllawiau sy’n gysylltiedig â DA a ddarperir gan eich adran academaidd.
  • Rhowch sylw i gyfarwyddiadau neu ddiweddariadau gan eich tiwtoriaid modiwl am ddefnyddio DA.

Rheolau modiwl-benodol

  • Efallai y bydd gan rai modiwlau reolau unigryw ynghylch defnyddio offer DA.
  • Edrychwch ar lawlyfr eich modiwl neu gofynnwch i gydlynydd eich modiwl os nad ydych yn siŵr beth a ganiateir.

Canlyniadau Camddefnyddio

  • Gallai camddefnyddio DA neu fethu â chydnabod ei rôl gael ei ystyried yn gamymddwyn academaidd.
  • Byddwch yn ymwybodol o’r canlyniadau posibl, fel:
    • Methu aseiniadau.
    • Camau disgyblu.
    • Niwed i’ch enw da academaidd.

Trwy ddeall y polisïau hyn, gallwch ddefnyddio DA yn gyfrifol a chwrdd â disgwyliadau’r brifysgol tra’n cynnal uniondeb academaidd.

Amddiffyn eich ymchwil: osgoi sgamiau cyhoeddi 

Mae herwgipio cyfnodolion a safleoedd cyfnodolion twyllodrus yn mynd yn broblem gynyddol i awduron cyfnodolion, cyhoeddwyr a darllenwyr. Nod sgamiau cyhoeddi yw manteisio ar ymchwilwyr, gan addo cyhoeddi’n gyflym ond yn codi ffioedd cyhoeddi gormodol. Yn aml, mae’r safleoedd yn gopi unfath o gyfnodolyn cydnabyddedig, wedi’u gosod i gael ffioedd oddi wrth awduron nad ydynt yn amau bod dim byd o’i le. 

Mae cyhoeddwyr yn dod yn fwyfwy ymwybodol o’r broblem ac wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’r duedd newydd hon. Erbyn 2023 roedd gan Scopus, sef cronfa ddata academaidd, 67 o gyfnodolion wedi’u herwgipio ar y gronfa ddata (Challenges posed by hijacked journals in Scopus – Abalkina – 2,024 – Journal of the Association for Information Science and Technology – Wiley Online Library ). Er mwyn helpu i leddfu’r broblem hon, tynnodd Scopus y dolenni URL i hafanau’r holl gyfnodolion y mae’n eu mynegeio, er bod y broblem yn parhau o hyd (Retractaction Watch, 2023 Elsevier’s Scopus deletes journal links following revelations of hijacked indexed journals – Retraction Watch

Nid yw llawer o awduron a darllenwyr yn ymwybodol o’r arfer hwn ac efallai y bydd yr adnoddau isod yn ddefnyddiol yn hyn o beth. 

Cloriannu cyfnodolion: 

 
Cefnogaeth gan eich llyfrgell: 

  • Edrychwch ar ganllaw’r llyfrgell ar gyfer Ymchwilwyr 

 
Cysylltwch â ni: llyfrgellwyr@aber.ac.uk  

Mae Jisc Historical Texts wedi dod i ben  

Nid yw Jisc bellach yn darparu Jisc Historical Texts. I wneud yn iawn am golli’r gwasanaeth hwn:

Mae Early Modern Books yn cwmpasu deunydd o Ynysoedd Prydain ac Ewrop am y cyfnod 1450-1700. Mae chwiliad integredig ar draws Llyfrau Saesneg Cynnar Ar-lein a Llyfrau Ewropeaidd Cynnar yn caniatáu i ysgolheigion weld deunyddiau o dros 225 o lyfrgelloedd ffynhonnell ledled y byd. Mae cynnwys EEBO yn defnyddio catalogau teitl byr awdurdodol y cyfnod ac yn cynnwys llawer o drawsgrifiadau testun a grëwyd yn arbennig ar gyfer y cynnyrch. Mae cynnwys o Ewrop yn cwmpasu’r Casgliadau Llyfrau Ewropeaidd Cynnar wedi’u curadu o 4 llyfrgell genedlaethol a Llyfrgell Wellcome Llundain.

Mae Eighteenth Century Collections Online (ECCO) yn llyfrgell helaeth o’r ddeunawfed ganrif ar eich bwrdd gwaith—casgliad testun-chwiliadwy llawn o lyfrau, pamffledi ac argrafflenni ym mhob pwnc a argraffwyd rhwng 1701 a 1800. Ar hyn o bryd mae’n cynnwys dros 180,000 o deitlau sy’n dod i gyfanswm o dros 32 miliwn o dudalennau y gellir eu chwilio’n llawn.

Gellir cael gafael ar deitlau sydd yn yr archif Jisc Journal Archive trwy ddarparwyr eraill yn Primo, catalog y Llyfrgell.

Cofiwch gysylltu â llyfrgellwyr@aber.ac.uk neu eich llyfrgellydd pwnc os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Yn Cyflwyno: LibKey Nomad

Estyniad porwr gwe i’w lawrlwytho yw LibKey Nomad. Mae’n darparu dolenni at erthyglau o gyfnodolion y mae eich llyfrgell yn tanysgrifio iddynt yn awtomatig. Bydd mynediad un-clic LibKey Nomad at erthyglau sy’n cael eu cyfeirnodi ar wefannau ysgolheigaidd a pheiriannau chwilio yn gwneud eich ymchwil a dod o hyd i ffynonellau yn gyflymach ac yn haws o lawer.

Lawrlwytho LibKey Nomad yma

Mae LibKey Nomad yn hawdd i’w ddefnyddio. Ewch i’r dudalen lawrlwytho ac ychwanegwch yr estyniad at eich porwr o ddewis. Ar ôl ei osod, bydd gofyn ichi ddewis eich sefydliad. Dewiswch Prifysgol Aberystwyth a bydd LibKey Nomad yn rhoi gwybod ichi am erthyglau sydd ar gael trwy’r llyfrgell lle bynnag y byddwch chi’n crwydro ar-lein.

Bydd LibKey Nomad hefyd yn cyfoethogi eich profiad ar safleoedd poblogaidd fel PubMed, Wikipedia, Scopus, Web of Science a mwy.

Cymhariaeth

Dyma enghraifft o restr gyfeirnodau ar Wikipedia cyn i LibKey Nomad gael ei osod ac ar ôl ei osod (sgroliwch ar draws i gymharu):

Cyfeirnodau ar Wikipedia cyn ac ar ôl gosod yr estyniad Libkey Nomad ar eich porwr gwe

Gallwch weld bod LibKey Nomad yn ychwanegu dolen at yr erthygl os oes mynediad gan y llyfrgell. Mae clicio ar y ddolen yn mynd â chi’n uniongyrchol i’r ffynhonnell.

Dysgwch ragor am LibKey Nomad yn y fideo isod:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth am LibKey Nomad, anfonwch e-bost atom ar llyfrgellwyr@aber.ac.uk. Fel bob amser, os oes angen help arnoch i ddod o hyd i adnoddau ar gyfer eich astudiaethau, cysylltwch â’ch Llyfrgellydd Pwnc.