Hwyl fawr i Lloyd Roderick

Llongyfarchiadau mawr a hwyl fawr i Lloyd Roderick sy’n ymgymryd â rôl newydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ôl deng mlynedd o wasanaeth rhagorol yn y tîm Ymgysylltu Academaidd.

Cyn ymuno â ni, roedd Lloyd wedi ennill PhD mewn Celfyddyd Gain yn Aberystwyth ac wedi cael profiad eang yn y sector, gan weithio yn yr Advanced Institute of Legal Studies, Llyfrgell Courtauld a llyfrgelloedd cyhoeddus Casnewydd ymhlith eraill. 

Fel Llyfrgellydd Pwnc Celf, Hanes a Hanes Cymru, y Gyfraith a Throseddeg a’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth, mae Lloyd wedi meithrin perthynas ardderchog rhwng Llyfrgell y Brifysgol ac adrannau academaidd a bydd pawb sydd wedi gweithio gydag ef ar draws y Brifysgol yn gweld ei eisiau yn fawr. Mae wedi bod yn aelod penigamp o’r tîm, yn athro arbennig o sgiliau gwybodaeth ac wedi dod â gwybodaeth bwnc ddofn i’w gyfrifoldebau.

Un etifeddiaeth y mae’n ei adael i’r tîm Ymgysylltu Academaidd yw’r cwis “dyfalu faint o bobl sydd yn y llyfrgell” – dim gwobrau, dim ond hwyl i bawb sy’n cymryd rhan!  Byddwn yn parhau â’r cwis bob dydd Gwener er anrhydedd i ti, Lloyd!

Pob lwc yn dy swydd newydd gan bob un ohonom. Rydym yn falch nad wyt ti’n mynd yn bell ac yn edrych ymlaen at dy weld eto cyn bo hir.

Edrych yn ôl a symud ymlaen: Adolygu Blwyddyn Gwasanaethau Llyfrgell

Gan gyflwyno ein Cynllun Gweithredu’r Llyfrgell 2024 – 2025

Wrth i flwyddyn academaidd arall ddod i ben, rydym yn gyffrous i rannu rhai o gyflawniadau a datblygiadau allweddol eich Gwasanaethau Llyfrgell yn 2024–25.

Mae wedi bod yn flwyddyn brysur arall i’r llyfrgell wrth i’n defnyddwyr barhau i fenthyg miloedd o lyfrau ac e-lyfrau, cyrchu miloedd o erthyglau cyfnodolion, a defnyddio ein hystod ehangach o adnoddau digidol a mannau llyfrgell. Mae rhestrau darllen yn parhau i fod yn rhan greiddiol o’ch gwaith academaidd ac mae ein staff yn gweithio i wneud yn siŵr bod y llyfrau, yr erthyglau a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch fwyaf ar flaenau eich bysedd bob amser. Mae ein Llyfrgellwyr Pwnc yn parhau i ddarparu cymorth a chyngor arbenigol i’r holl staff a myfyrwyr ac mae ein tîm Darganfod Adnoddau yn helpu i hwyluso a lledaenu ymchwil o’r radd flaenaf y Brifysgol.

Porwch ein Cynlluniau Gweithredu’r Llyfrgell i ddarganfod sut mae Gwasanaethau Llyfrgell wedi cefnogi eich addysgu, eich dysgu a’ch ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth dros y flwyddyn ddiwethaf.

Datglowch bŵer Gwybodaeth Gofal Iechyd gyda Chronfeydd Data’r Llyfrgell!

Gall ceisio dod o hyd i’ch ffordd o gwmpas y byd gofal iechyd deimlo’n hynod llethol. Mae’r teimlad nad oes gennych ddigon o amser wrth i chi gydbwyso ymrwymiadau personol, darlithoedd, a lleoliadau clinigol yn gallu bod yn heriol dros ben. Felly, wrth ymchwilio ar gyfer aseiniadau neu i ddeall cyflyrau cymhleth, gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau.

Yn hytrach na threulio amser yn gwneud chwiliadau diddiwedd ar-lein a all eich arwain at wefannau o ansawdd amheus a gwybodaeth nad yw’n gyfredol mwyach, mae eich llyfrgell yn buddsoddi mewn cronfeydd data gofal iechyd safonol fel CINAHL, MEDLINE, Cronfa Ddata Nyrsio Prydain (a llawer mwy!) am reswm – maent yn drysorfa o ymchwil credadwy, wedi’i adolygu gan gymheiriaid, yn benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd fel chi.

Mae ein tudalen ‘Chwiliad Cronfeydd Data’ yn rhan o brif adnodd chwilio’r llyfrgell a gellir ei gweld ar frig Primo, felly nid oes angen ichi gofio unrhyw gyfeiriadau gwe ar wahân.

Mae’r adnodd i Chwilio am Gronfeydd Data wedi’i rannu’n bynciau gwahanol felly gallwch bori drwy’r adnoddau sy’n berthnasol i’ch cwrs chi. Neu gallwch chwilio yn ôl termau allweddol a chywain canlyniadau o’r casgliad cyfan.

Ymgyfarwyddwch â’r cronfeydd data hyn i gael:

  • Tystiolaeth ddibynadwy a chyfredol: Mae’r cronfeydd data hyn yn curadu gwybodaeth o gyfnodolion cydnabyddedig.
  • Gwybodaeth wedi’i Thargedu: Defnyddiwch allweddeiriau a hidlwyr penodol i ganfod erthyglau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’ch pwnc, boed trin clwyfau, nyrsio iechyd meddwl, neu diabetes.
  • Ymarfer Seiliedig ar Dystiolaeth ar Flaenau eich Bysedd: Mae’r cronfeydd data hyn yn helpu i ddarparu’r sylfaen ar gyfer deall y “pam” y tu ôl i’r arfer, gan helpu i ddarparu’r gofal gorau posibl ar sail ymchwil gadarn.
  • Llwyddiant Academaidd: Bydd defnyddio ffynonellau credadwy o’r cronfeydd data hyn yn cryfhau eich dadleuon, yn dangos meddwl beirniadol, ac yn arwain at farciau gwell yn y pen draw.
  • Ehangu eich Gwybodaeth: Ehangwch eich dealltwriaeth o bynciau gofal iechyd i fod yn barod am yrfa yn y maes.

Dim syniad ble i ddechrau? 

  1. Mewngofnodwch i Primo – catalog y llyfrgell.
  2. Defnyddiwch ‘Chwiliad Cronfeydd Data’ i ddod o hyd i’ch cronfa ddata – dilynwch unrhyw nodiadau oddi ar y campws os oes angen.
  3. Am ragor o wybodaeth a chymorth, gweler eich LibGuide neu cysylltwch â’ch llyfrgellydd.

Pob hwyl wrth ymchwilio!

Dydd Miwsig Cymru

Heddiw, 7 Chwefror, yw Dydd Miwsig Cymru – diwrnod sy’n dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg. P’un a ydych yn mwynhau cerddoriaeth indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae cerddoriaeth anhygoel yn cael ei chyfansoddi yn y Gymraeg i chi ei darganfod. Darganfyddwch fwy am y diwrnod hwn gyda dolenni i restrau chwarae Spotify

Mae ein llyfrgellwyr wedi curadu rhestr chwarae Box of Broadcasts o rai o’u hoff raglenni dogfen a pherfformiadau i’ch rhoi ar y trywydd iawn gyda cherddoriaeth Gymraeg.

https://learningonscreen.ac.uk/ondemand/playlists/194552

Cliciwch ar y llun neu’r ddolen uchod i weld y rhestr chwarae