Ydych chi’n chwilio am ddata’r Deyrnas Unedig am ddiwydiant penodol?
Rydym yn tanysgrifio i adnodd cynhwysfawr o’r enw IBIS World. Mae bron i 13,000 o adroddiadau diwydiant ar-lein, sydd oll yn hawdd eu chwilio.
Mae gan bob diwydiant ei adroddiad ei hun sy’n cael ei rannu iâr penodau canlynol;
- Cipolwg
- â Perfformiad
- Cynnyrch a Marchnadoedd
- Dadansoddiad Daearyddol
- Grymoedd Cystadleuol
- CwmnĂŻau
- Amgylchedd Allanol
- Meincnodau Ariannol
P’un a ydych yn chwilio am y cyflog cyfartalog ar gyfer y diwydiant hwnnw neu’n ceisio dod o hyd iâr marchnadoedd allweddol. Mae’r wybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn adrannau hylaw, gyda graffeg glir y gellir ei lawrlwytho.

Mae crynodeb defnyddiol ‘Cipolwg’ ar gyfer pob diwydiant yn y DU, syân rhoi cipolwg ar y refeniw, dadansoddiad SWOT a Chrynodeb Gweithredol manwl.
Mae IBIS World ar gael ar y campws ac oddi arno 24/7 a gellir lawrlwytho’r adroddiadau yn llawn neu fesul pennod. Cofiwch, os ydych chi’n defnyddio data IBIS World yn eich aseiniadau, maeân rhaid cydnabod hyn. Mae rhagor o gymorth ar gael yn ein Canllaw Cyfeirnodi a LlĂȘn-ladrad: https://libguides.aber.ac.uk/c.php?g=683637&p=5125158 Â
Am unrhyw gymorth pellach gyda’r adnodd hwn cysylltwch Ăą llyfrgellwyr@aber.ac.uk
