DA a’r Llyfrgell. Wythnos 7: Moeseg Defnyddio DA Cynhyrchiol (Rhan Dau)

Bod yn dryloyw ynghylch eich defnydd o DA

Cyn i ni ddechrau arni’n iawn, gadewch imi ailadrodd ei bod hi’n rhaid i chi bob amser ddilyn unrhyw ganllawiau prifysgol ac adrannol ar ddefnyddio offer DA mewn gwaith a asesir.

Yn ein neges ddiwethaf ar foeseg defnyddio DA cynhyrchiol, fe wnaethon ni ddechrau edrych ar bwysigrwydd deall y cyfrifoldebau sy’n dod gyda defnyddio’r offer hyn. Y neges allweddol yn y postiad hwnnw oedd yr angen i ymgyfarwyddo â chanllawiau Prifysgol Aberystwyth ar ddefnydd DA.

Yr wythnos hon, rydym yn trafod pwnc pwysig arall: bod yn dryloyw ynghylch eich defnydd o offer DA mewn gwaith a asesir.

Wrth i DA cynhyrchiol ddod ar gael yn ehangach, mae prifysgolion yn pwysleisio pwysigrwydd uniondeb academaidd a datgeliad clir wrth ddefnyddio’r technolegau hyn.

Gall defnyddio DA fod yn gymorth gwerthfawr wrth ymchwilio, trafod syniadau a drafftio, ond mae’n hanfodol bod yn dryloyw ynglŷn â sut a ble rydych chi wedi’i ddefnyddio.

Mae bod yn agored am eich defnydd o offer DA yn hanfodol ar gyfer cynnal uniondeb academaidd. Mae tryloywder yn dangos eich ymrwymiad i onestrwydd ac arferion astudio moesegol.

Pwyntiau allweddol: Pam mae tryloywder yn bwysig:

  • Mae’n dangos eich gonestrwydd academaidd.
  • Mae’n adlewyrchu eich ymrwymiad i arferion astudio moesegol.
  • Mae’n tynnu sylw at eich sgiliau meddwl beirniadol.
  • Mae’n atgyfnerthu eich atebolrwydd proffesiynol.

Sut i gydnabod defnydd o DA:

Gofynnwch i’ch adrannau academaidd a chydlynwyr y modiwlau am gyngor ynghylch sut y dylech gydnabod cynnyrch DA. Gallai’r rhain gynnwys:

  • Datganiadau ar y defnydd o offer DA 
  • Cyngor ar arferion cyfeirio a chyfeirnodi cywir ar gyfer cynnyrch DA.

Gallwch ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth ychwanegol ar ddefnyddio DA yma: Deallusrwydd Artiffisial  : Gwasanaethau Gwybodaeth , Prifysgol Aberystwyth

DA a’r Llyfrgell. Wythnos pump: Defnyddio DA i Ddatblygu Chwiliadau Allweddair Clyfar.

Yma yn y llyfrgell, rydym yn gefnogwyr mawr o Primo, catalog y llyfrgell. Gyda Primo, mae modd dod o hyd i’r llyfrau ar ein silffoedd, ond hefyd gallwch gael mynediad at filiynau o adnoddau digidol, pob un yn barod ar flaenau eich bysedd.

Ond gyda chymaint o adnoddau ar gael i chi, weithiau gall chwilio catalog y llyfrgell deimlo’n rhwystredig. Os ydych chi’n defnyddio chwiliad rhy eang (e.e. “hanes”) yna cewch eich llethu gan ganlyniadau. Term chwilio rhy benodol (“pensaernïaeth neo-Gothig yng nghefn gwlad Chile”) a chewch chi ddim byd!

Felly, beth allwch chi ei wneud? Ein cyngor fel llyfrgellwyr pwnc yw dechrau drwy adeiladu geirfa o allweddeiriau. Bydd cael cyfres glir o eiriau allweddol yn targedu eich chwiliadau, gan eich helpu i ganolbwyntio ar yr adnoddau mwyaf perthnasol a defnyddiol. Mae’n gam syml a all wneud gwahaniaeth enfawr yn eich taith ymchwil!

Sut y gall DA eich helpu i adeiladu geirfa chwilio?

Gall offer DA fel ChatGPT awgrymu allweddeiriau craffach, cyfystyron, a chysyniadau cysylltiedig i wneud eich chwiliadau yn fwy effeithiol. Edrychwn ar rai enghreifftiau

  1. Dewisiadau amgen mwy deallus i dermau eang.

[Anogwr] Awgrymwch rai allweddeiriau amgen ar gyfer “Newid yn yr Hinsawdd”

Efallai y bydd y DA yn ymateb gyda:

  • Cynhesu byd-eang.
  • Argyfwng yr hinsawdd.
  • Effaith tŷ gwydr.
  • Ymchwilio i Achosion

Eisiau ymchwilio i’r hyn sy’n gyrru newid hinsawdd? Rhowch gynnig ar:

[Anogwr] Rhowch restr o eiriau allweddol i mi ar gyfer rhai o brif achosion newid yn yr hinsawdd.

Yr ymateb:

  • Allyriadau carbon deuocsid.
  • Tanwydd ffosil.
  • Llygredd diwydiannol.
  • Datgoedwigo.
  • Allyriadau methan.
  • Ymchwilio i Effeithiau

Ydych chi eisiau canolbwyntio ar sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y blaned? Defnyddiwch: 

[Anogwr] Awgrymwch rai allweddeiriau ar gyfer prif effeithiau Newid yn yr Hinsawdd.

Ymateb:

  • Cynnydd yn lefel y môr.
  • Capiau iâ pegynol yn toddi.
  • Digwyddiadau tywydd eithafol.
  • Colli Bioamrywiaeth.
  • Asideiddio’r cefnforoedd.

4. Chwilio am Ddatrysiadau

Ar gyfer strategaethau lliniaru, rhowch gynnig ar:

[Anogwr] Awgrymwch rai allweddeiriau ar gyfer sut y gellir lliniaru Newid yn yr Hinsawdd.

Ymateb

  • Ynni Adnewyddadwy.
  • Dal a storio carbon.
  • Polisïau Newid Hinsawdd.
  • Technoleg werdd.
  • Datblygu cynaliadwy’.

Dod â’r Cwbl Ynghyd

Yn olaf, cyfunwch y syniadau hyn ar gyfer chwiliad mwy cymhleth. Er enghraifft: 

{Anogwr] Awgrymwch gyfres o chwiliadau allweddair i ddod o hyd i adnoddau ar effeithiau allyriadau methan ar golli bioamrywiaeth a’r hyn y gellir ei wneud i liniaru’r effeithiau hynny.

Efallai y bydd y DA yn eich helpu i greu chwiliad sy’n edrych fel hyn:

  • Allyriadau methan a bioamrywiaeth.
  • Effaith methan ar ecosystemau’r Arctig.
  • Technolegau lliniaru methan mewn rhanbarthau rhew parhaol.

Trwy ddefnyddio DA i adeiladu geirfa o allweddeiriau wedi’i thargedu, byddwch yn treulio llai o amser yn chwilio a mwy o amser yn darganfod yr adnoddau sydd eu hangen arnoch.

[Crëwyd yr ymatebion a restrir uchod gyda ChatGPT].

SgiliauAber. Eich hyb sgiliau chi

Ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau ysgrifennu academaidd, dysgu am y llyfrgell a’i hadnoddau, mynd i’r afael â chyfeirio, neu wella eich sgiliau cyflogadwyedd?

Newyddion da! Mae’r pynciau hyn a mwy yn cael sylw yn rhaglen Semester 1 SgiliauAber, sydd ar gael am ddim i bob myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cynhelir Gweithdai SgiliauAber drwy gydol y flwyddyn academaidd ac maent yn gymysgedd o sesiynau wyneb yn wyneb a sesiynau ar-lein. Mae’r rhan fwyaf o’r sesiynau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Cewch weld rhestr o’r holl weithdai ar wefan SgiliauAber. Ewch draw i weld beth sydd ar gael ac archebwch eich lle gyda chlic.

Os byddwch yn colli sesiwn ac eisiau dal i fyny, mae deunyddiau addysgu’r gweithdai sgiliau academaidd a llyfrgell ar gyfer 2023-2024 ar gael ar Blackboard o dan Mudiadau. Bydd deunyddiau addysgu’r gweithdai 2024-2025 yn cael eu llwytho yn fuan ar ôl y sesiynau.

Yn Cyflwyno: LibKey Nomad

Estyniad porwr gwe i’w lawrlwytho yw LibKey Nomad. Mae’n darparu dolenni at erthyglau o gyfnodolion y mae eich llyfrgell yn tanysgrifio iddynt yn awtomatig. Bydd mynediad un-clic LibKey Nomad at erthyglau sy’n cael eu cyfeirnodi ar wefannau ysgolheigaidd a pheiriannau chwilio yn gwneud eich ymchwil a dod o hyd i ffynonellau yn gyflymach ac yn haws o lawer.

Lawrlwytho LibKey Nomad yma

Mae LibKey Nomad yn hawdd i’w ddefnyddio. Ewch i’r dudalen lawrlwytho ac ychwanegwch yr estyniad at eich porwr o ddewis. Ar ôl ei osod, bydd gofyn ichi ddewis eich sefydliad. Dewiswch Prifysgol Aberystwyth a bydd LibKey Nomad yn rhoi gwybod ichi am erthyglau sydd ar gael trwy’r llyfrgell lle bynnag y byddwch chi’n crwydro ar-lein.

Bydd LibKey Nomad hefyd yn cyfoethogi eich profiad ar safleoedd poblogaidd fel PubMed, Wikipedia, Scopus, Web of Science a mwy.

Cymhariaeth

Dyma enghraifft o restr gyfeirnodau ar Wikipedia cyn i LibKey Nomad gael ei osod ac ar ôl ei osod (sgroliwch ar draws i gymharu):

Cyfeirnodau ar Wikipedia cyn ac ar ôl gosod yr estyniad Libkey Nomad ar eich porwr gwe

Gallwch weld bod LibKey Nomad yn ychwanegu dolen at yr erthygl os oes mynediad gan y llyfrgell. Mae clicio ar y ddolen yn mynd â chi’n uniongyrchol i’r ffynhonnell.

Dysgwch ragor am LibKey Nomad yn y fideo isod:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth am LibKey Nomad, anfonwch e-bost atom ar llyfrgellwyr@aber.ac.uk. Fel bob amser, os oes angen help arnoch i ddod o hyd i adnoddau ar gyfer eich astudiaethau, cysylltwch â’ch Llyfrgellydd Pwnc.