Yn Cyflwyno: LibKey Nomad

Estyniad porwr gwe i’w lawrlwytho yw LibKey Nomad. Mae’n darparu dolenni at erthyglau o gyfnodolion y mae eich llyfrgell yn tanysgrifio iddynt yn awtomatig. Bydd mynediad un-clic LibKey Nomad at erthyglau sy’n cael eu cyfeirnodi ar wefannau ysgolheigaidd a pheiriannau chwilio yn gwneud eich ymchwil a dod o hyd i ffynonellau yn gyflymach ac yn haws o lawer.

Lawrlwytho LibKey Nomad yma

Mae LibKey Nomad yn hawdd i’w ddefnyddio. Ewch i’r dudalen lawrlwytho ac ychwanegwch yr estyniad at eich porwr o ddewis. Ar ôl ei osod, bydd gofyn ichi ddewis eich sefydliad. Dewiswch Prifysgol Aberystwyth a bydd LibKey Nomad yn rhoi gwybod ichi am erthyglau sydd ar gael trwy’r llyfrgell lle bynnag y byddwch chi’n crwydro ar-lein.

Bydd LibKey Nomad hefyd yn cyfoethogi eich profiad ar safleoedd poblogaidd fel PubMed, Wikipedia, Scopus, Web of Science a mwy.

Cymhariaeth

Dyma enghraifft o restr gyfeirnodau ar Wikipedia cyn i LibKey Nomad gael ei osod ac ar ôl ei osod (sgroliwch ar draws i gymharu):

Cyfeirnodau ar Wikipedia cyn ac ar ôl gosod yr estyniad Libkey Nomad ar eich porwr gwe

Gallwch weld bod LibKey Nomad yn ychwanegu dolen at yr erthygl os oes mynediad gan y llyfrgell. Mae clicio ar y ddolen yn mynd â chi’n uniongyrchol i’r ffynhonnell.

Dysgwch ragor am LibKey Nomad yn y fideo isod:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth am LibKey Nomad, anfonwch e-bost atom ar llyfrgellwyr@aber.ac.uk. Fel bob amser, os oes angen help arnoch i ddod o hyd i adnoddau ar gyfer eich astudiaethau, cysylltwch â’ch Llyfrgellydd Pwnc.

Cwrdd â’r Tîm!

Dros y 18 mis diwethaf rydym i gyd wedi bod yn gweithio ar-lein gyda myfyrwyr a chydweithwyr eraill drwy Teams. Roedd yn wych i ni fel tîm gwrdd wyneb yn wyneb o’r diwedd, mwynhau mynd am dro ar hyd y prom a chael cyfarfod awyr agored i helpu i gynllunio ein gweithgareddau ar gyfer 2021/22 (cafwyd cwmni’r dolffiniaid hyd yn oed!).

Rydym i gyd yn edrych ymlaen i gwrdd â chi yn y Flwyddyn Academaidd nesaf, ond yn y cyfamser mae croeso i chi gysylltu os ydych chi angen unrhyw gymorth.

llyfrgellwyr@aber.ac.uk
01970 621896

Llyfrgellwyr Pwnc
O’r chwith i’r dde: Anita Saycell, Lloyd Roderick, Simon French, Abi Crook, Sarah Gwenlan, Connie Davage, Non Jones, Joy Cadwallader. Dim yn y llun: Alex Warburton

Blog y Llyfrgellwyr: Croeso!

Casgliadau Collections Sign In the Hugh Owen Library

Yn syth o Lyfrgell Hugh Owen, dyma helô fawr gan eich tîm cyfeillgar o lyfrgellwyr.

Hoffem eich croesawu i’r blog Llyfrgellwyr adnewyddedig ble cewch ragor o wybodaeth am sut y mae’ch llyfrgell yn cefnogi dysgu, addysgu, ac ymchwil yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Caiff y blog ei ddiweddaru’n rheolaidd felly gwnewch yn siŵr eich bod yn tanysgrifio, a chofiwch: rydym wrth ein boddau yn siarad â chi, felly os oes unrhyw faterion llyfrgell yr hoffech gymorth â nhw, cysylltwch â ni:

Os hoffech gipolwg ar rai o’r pethau y gallwn eich helpu â nhw, edrychwch ar ein Canllawiau Llyfrgell pwrpasol: www.libguides.aber.ac.uk