Pwy Ydym Ni
Ein cyfeiriad gwe yw: https://wordpress.aber.ac.uk/librarian/.
Cwcis
Os byddwch chi’n ymweld â’n tudalen mewngofnodi, byddwn yn gosod cwci dros dro i bennu a yw eich porwr yn derbyn cwcis. Nid yw’r cwci hwn yn cynnwys unrhyw ddata personol a chaiff ei ddileu pan fyddwch chi’n cau eich porwr.
Wrth fewngofnodi byddwn hefyd yn gosod nifer o gwcis i gadw eich gwybodaeth mewngofnodi a’ch dewisiadau sgrin. Mae’r cwcis mewngofnodi’n para dau ddiwrnod, a chwcis y dewisiadau sgrin yn para am flwyddyn. Os dewiswch “Cofiwch fi” bydd eich mewngofnodi’n parhau am bythefnos. Os byddwch yn allgofnodi o’ch cyfrif, caiff y cwcis mewngofnodi eu dileu.
Cynnwys wedi’i fewnosod o wefannau eraill
Gall erthyglau ar y wefan hon gynnwys cynnwys wedi’i fewnosod (e.e. fideos, delweddau, erthyglau, ac ati). Mae cynnwys sydd wedi’i fewnosod o wefannau eraill yn ymddwyn yn yr un modd â phe bai’r ymwelydd wedi ymweld â’r wefan arall.
Gall y gwefannau hyn gasglu data amdanoch chi, defnyddio cwcis, mewnosod tracio trydydd parti ychwanegol, a monitro eich rhyngweithio gyda’r cynnwys hwnnw sydd wedi’i fewnosod, gan gynnwys tracio eich rhyngweithio gyda’r cynnwys a fewnosodwyd os oes gennych chi gyfrif ac wedi mewngofnodi i’r wefan honno.
Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich data
Os byddwch yn gofyn am ailosod eich cyfrinair, caiff eich cyfeiriad IP ei gynnwys yn yr ebost ailosod.
Eich hawliau mewn perthynas â’ch data
Os oes gennych chi gyfrif ar y safle hwn gallwch ofyn am gael derbyn ffeil wedi’i hallforio gyda’r data a ddaliwn amdanoch chi, gan gynnwys unrhyw ddata rydych chi wedi’u rhoi i ni. Gallwch hefyd ofyn ein bod yn dileu unrhyw ddata personol rydym yn eu dal amdanoch. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw ddata y mae’n rhaid i ni eu cadw at ddibenion gweinyddol, cyfreithiol neu ddiogelwch.
Chwilio
Data a Ddefnyddir: Rydym yn defnyddio’r hidlwyr chwilio a geiriau allweddol a ddefnyddiwyd gan ymwelwyr er mwyn prosesu’r ceisiadau chwilio ar weinyddwyr WordPress.com. Rydym hefyd yn defnyddio data cyfanredol ar gyfer edrych ar dudalennau a chwiliadau i addasu ein canlyniadau chwilio.
Olrhain Gweithgaredd: Rydym ni’n tracio’n ddienw pryd a beth mae ymwelwyr yn chwilio amdano ac yn clicio arno. Defnyddir y data hwn i wella ein halgorithmau chwilio ac i dracio pa mor dda mae chwilio’n gweithio. Mae’r tracio hwn yn cynnwys: cyfeiriad IP, URL, asiant defnyddiwr, stamp amser y digwyddiad, iaith y porwr, cod y wlad, ymholiad y chwiliad, hidlyddion.
Rhannu
Data a Ddefnyddir: Pan fydd botymau rhannu yn weithredol ar y wefan, mae pob botwm yn llwytho cynnwys yn uniongyrchol o’u gwasanaethau er mwyn arddangos y botwm yn ogystal â gwybodaeth ac offer ar gyfer yr un sy’n rhannu. O ganlyniad, gall pob gwasanaeth yn ei dro gasglu gwybodaeth am yr un sy’n rhannu. Pan rennir cynnwys drwy ebost, defnyddir y wybodaeth ganlynol: enw a chyfeiriad ebost yr un sy’n rhannu (os yw’r defnyddiwr wedi mewngofnodi, caiff y wybodaeth ei thynnu’n syth o’i gyfrif) cyfeiriad IP (ar gyfer gwirio sbam), asiant y defnyddiwr (ar gyfer gwirio sbam), a chorff/cynnwys yr ebost. Caiff y cynnwys ei anfon at Akismet (sydd hefyd yn eiddo i Automattic) i berfformio gwiriad sbam.
Tanysgrifiadau
Data a Ddefnyddir: I gychwyn a phrosesu tanysgrifiadau, defnyddir y wybodaeth ganlynol: cyfeiriad e-bost tanysgrifiwr ac ID y post. Os caiff tanysgrifiad newydd ei ddechrau, byddwn hefyd yn casglu data gweinydd sylfaenol, gan gynnwys pob pennawd cais HTTP y defnyddiwr sy’n tanysgrifio, cyfeiriad IP lle mae’r defnyddiwr yn edrych ar y dudalen, a’r URI a roddwyd i gyrchu’r dudalen (REQUEST_URI a DOCUMENT_URI). Defnyddir y data gweinydd hwn at ddiben pwrpasol monitro ac atal cam-drin a sbam.
Olrhain Gweithgaredd: Gosodir cwcis nodweddion ar gyfer 347 diwrnod i gofio dewisiadau blog a phostio ymwelydd os bydd ganddo danysgrifiad gweithredol mewn gwirionedd.