
Ydych chi wedi cael eich aseiniad cyntaf? Rhwng 19 a 23 Hydref, byddwn yn rhannu cyngor, adnoddau a digwyddiadau i’ch helpu i ddechrau arni.
Byddwn yn eich tywys trwy bob cam o’r broses, o ddeall briff yr aseiniad a dod o hyd i’r wybodaeth gywir i gynllunio, ysgrifennu a chyflwyno eich gwaith yn hyderus.
Ac nid yw hyn ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn unig. Os ydych chi yn eich ail neu’ch trydedd flwyddyn, gweithio ar eich astudiaethau Ôl-raddedig neu’n dilyn cwrs Dysgu Gydol Oes, cewch awgrymiadau a chymorth defnyddiol i helpu gyda’ch aseiniadau.
Dydd Llun 19eg: Deall eich aseiniad
- Sesiwn galw heibio SgiliauAber gyda Non rhwng 10:00 a 12:00 (Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)
- Dehongli eich aseiniad gyda Tamsin (Teams, 13.30-14.00)
Dydd Mawrth 20fed: Dod o hyd i’ch deunyddiau
- Finding the Good Stuff: Peer-Reviewed Articles gydag Anita, 10:00-10:10, 11:00- 11:10 a 12:00 – 12:10 (Teams).
- Taith y llyfrgell gyda Simon am 14:00 (cwrdd ar Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)
Dydd Mercher 21ain: Paratoi’r dechnoleg
- Caffi Sgiliau Digidol gyda Keziah rhwng 13:30 a 15:30 (Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)
- Offer cyfrifiadurol ar gyfer ysgrifennu Cymraeg gyda Tamsin, 14.00-15.00 (Teams)
Dydd Iau 22ain: Ysgrifennu Eich Aseiniad
- Cwrdd â Samanatha Wynne-Rhydderch, Cymrawd y Gronfa Lenyddol Frenhinol ac awdur cyhoeddedig rhwng 10:30 a 13:30 (Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)
- Ymwelwch â Tamsin Davies, Tiwtor Sgiliau Cymraeg, i gael cyngor am ysgrifennu eich aseiniad yn Gymraeg, 12.00-14.00 (Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)
- Taith o amgylch y llyfrgell gyda Simon am 14:00 (cwrdd ar Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)
Dydd Gwener 23ain: Cyflwyno Eich Aseiniad
- Sesiwn galw heibio i drafod cyflwyno gyda Luke rhwng 10 a 12 (Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)
Trwy’r Wythnos:
- Desg ymholiadau Lefel F: 11:00 – 15:00
- Arddangosfeydd llyfrau yn Llyfrgell Hugh Owen a Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol
Bydd popeth ar gael ar Ffrwd, felly cadwch lygad yn ystod yr wythnos. Pob lwc!
