Clywch, rydw i wedi bod yn y sefyllfa hon. Mae’n 2 o’r gloch y bore ac mae gennych aseiniad i’w gyflwyno yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Mae’ch rhestr gyfeirnodi yn edrych braidd yn denau, ac mae’n gallu bod yn amhosib gwrthsefyll y demtasiwn i ofyn i offeryn DA gael gafael ar ambell ddyfyniad i chi. O ganlyniad i ofyn un cwestiwn mae gennych restr daclus o erthyglau o gyfnodolion a llyfrau. Perffaith, yn dydy? Wel… nid bob amser.
Dyma’r anfantais (ac mae yna anfantais bob amser!): mae offer DA yn wych am gynhyrchu cyfeirnodau sy’n gallu argyhoeddi. Mae’r teitlau’n swnio’n gredadwy, mae enwau’r awduron yn gyfarwydd, ac mae’r cyfnodolion yn edrych yn ddilys. Ond weithiau mae golwg rhywbeth yn gallu bod yn dwyllodrus, ac nid oes gan y cyfeiriadau unrhyw gysylltiad â realiti. Dyma beth mae pobl yn ei olygu pan maen nhw’n siarad am Rithwelediadau DA. Mae’r offeryn yn dyfeisio ffynhonnell sy’n edrych yn berffaith gredadwy ond nad yw’n bodoli mewn gwirionedd.

Pam mae hyn yn bwysig?
- Y rheswm pwysicaf yw: na ddylech roi unrhyw beth yn eich llyfryddiaeth nad ydych wedi’i ddarllen mewn gwirionedd. Nid rhestr o bethau sydd o bosib yn cefnogi eich dadl yn unig yw llyfryddiaeth; mae’n gofnod o’r ffynonellau rydych chi wedi ymwneud â nhw mewn gwirionedd. Os nad ydych chi wedi darllen y llyfr, yr erthygl neu’r papur, dydy hi ddim yn bosib i chi wybod mewn gwirionedd a yw’n dweud yr hyn rydych chi’n meddwl ei fod yn ei ddweud, neu a yw’n cyd-fynd â’ch dadl o gwbl.
- Mae rhoi dyfyniad ffug yn eich gwaith yn tanseilio hygrededd eich holl aseiniad.
- Gall eich darlithwyr a’ch tiwtoriaid wirio eich cyfeirnodau (a byddant yn gwneud hynny yn aml). Os na allant ddod o hyd iddyn nhw, mae’n broblem.
- Nid rhoi tic mewn bocs yn unig yw cyfeirnodi da, dyma sut rydych chi’n dangos eich bod wedi darllen y deunydd ac yn gallu cefnogi eich syniadau. Mae hefyd yn ymwneud â rhoi cydnabyddiaeth briodol ac ymuno â’r sgwrs ysgolheigaidd.
- Mae prifysgolion yn cymryd cyfeirnodi o ddifrif: gallant dynnu sylw at gamddefnyddio neu ddyfeisio ffynonellau a’u nodi fel arfer academaidd gwael neu hyd yn oed yn ymddygiad academaidd annerbyniol, gan effeithio o ddifrif ar eich marciau.
Felly, beth ddylech chi ei wneud?
- Gwirio, gwirio, gwirio! Os yw DA yn rhoi cyfeirnod i chi, gwiriwch ef bob amser ar sail ffynhonnell ddibynadwy – yn y catalog llyfrgell, Google Scholar, neu gronfa ddata pwnc.
- Gofynnwch i’ch llyfrgellydd. Dyna pam rydyn ni yma. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i ffynonellau dilys y gallwch eu dyfynnu, gallwn ddangos i chi sut i chwilio cronfeydd data yn effeithiol, a’ch tywys trwy’r dulliau cyfeirio priodol fel nad oes rhaid i chi ymgodymu â fformatio am 2 o’r gloch y bore.
Mae gan DA lawer o ddefnyddiau, ond nid yw’n ddi-ffael, ac yn bendant nid yw’n disodli meddwl beirniadol (neu chwiliad llyfrgell da).
Felly, y tro nesaf y byddwch chi’n cael eich temtio i gynnwys y dyfyniadau hynny a gynhyrchir gan DA a’u rhoi yn syth yn eich llyfryddiaeth, arhoswch, gwiriwch ddwywaith, ac os oes angen help arnoch, trowch at eich llyfrgellydd, ond os 2 o’r gloch y bore yw hi, mae’n debyg mai’r catalog llyfrgell yw eich dewis gorau!
Cewch ragor o fanylion yma: