
Mae generaduron cyfeirnodi fel MyBib a Scribbr wedi dod yn offerynnau poblogaidd i fyfyrwyr sy’n ceisio dod i ben â chymhlethdodau ysgrifennu academaidd. Mae’r offerynnau’n symleiddio’r broses o fformatio dyfyniadau a llyfryddiaeth, sy’n golygu bod modd arbed rhywfaint o amser gwerthfawr! Fodd bynnag, er eu bod yn bwynt cychwyn da i gynhyrchu cyfeirnod yn gyflym, mae’n bwysig eich bod yn eu defnyddio’n gyfrifol ac yn ofalus.
Cryfderau MyBib a Scribbr
- Hawdd i’w Defnyddio: Mae MyBib a Scribbr yn hawdd i’w defnyddio, ac yn cynnig rhyngwynebau greddfol sy’n gadael i chi roi manylion yr adnoddau i mewn yn gyflym a chynhyrchu dyfyniadau mewn arddulliau cyfeirnodi fel APA, MLA, Harvard a llawer mwy.
- Nodweddion allweddol:
- Creu cyfeirnodau ar gyfer amrywiaeth o adnoddau, gan gynnwys llyfrau, e-lyfrau, erthyglau cyfnodolion, gwefannau a mwy!
- Mae MyBib yn integreiddio’n esmwyth â phlatfformau fel Word, gan sicrhau llif gwaith llyfn wrth ddrafftio dogfennau.
- Mae Scribbr yn cynnig nodweddion fel cadw copïau wrth gefn yn ddiogel ac anodiadau i wella trefnusrwydd a diogelu eich gwaith.
- Ar gael am ddim: Mae’r ddau offeryn ar gael i’w defnyddio yn rhad ac am ddim, sy’n golygu eu bod ar gael i fyfyrwyr ar draws gwahanol lefelau academaidd. Gallwch eu defnyddio heb gyfrif neu gallwch gofrestru ar gyfer cyfrif am ddim i ddatgloi mwy o nodweddion.
Cyfyngiadau i’w hystyried
Er bod yr offerynnau’n ddefnyddiol, nid ydynt yn berffaith. Dylech fod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau canlynol:
- Problemau Cywirdeb:
- Gall generaduron dyfyniadau weithiau gamddehongli ffynonellau anghyffredin neu gymhleth, gan arwain at wallau fformatio.
- Gall offer awtomataidd gael trafferth gyda chyfeirnodau ansafonol fel setiau data neu destunau iaith dramor.
- Camgymeriadau cyffredin gan yr offer hwn yw priflythrennu, atalnodi, bylchau, fformatio a hyd yn oed gwybodaeth neu leoli anghywir.
- Risgiau Gor-ddibyniaeth:
- Gall ymddiried yn yr offer yn ddall heb sicrhau bod yr allbwn yn gywir arwain at ddyfyniadau anghywir sy’n peryglu arfer academaidd da. Peidiwch â chopïo a gludo’r cyfeiriad yn uniongyrchol i’ch aseiniad o MyBib neu Scribbr heb wirio (a gwirio eto!) ei fod yn gywir.
- Gall camgymeriadau mewn dyfyniadau arwain at raddau is a/neu hyd yn oed gyhuddiadau o lên-ladrad.
Arferion Gorau ar gyfer Defnydd Cyfrifol
Er mwyn defnyddio generaduron dyfyniadau yn effeithiol a lleihau peryglon, dylech ddilyn y canllawiau hyn:
- Gwirio Pob Dyfyniad: Cofiwch bob amser bod rhaid gwirio’r cyfeirnodau a gynhyrchir yn erbyn canllawiau arddull swyddogol a’ch canllawiau adrannol i sicrhau cywirdeb ac i sicrhau na fyddwch chi’n colli marciau am eich cyfeirnodi.
- Sicrhewch eich bod yn dilyn arddull cyfeirnodi eich adran – gweler llawlyfr yr adran a’r modiwl.
- Gwiriwch y cyfeirnod a gynhyrchir yn erbyn yr enghreifftiau a roddir yn Ymwybyddiaeth ynglŷn â Chyfeirnodi a Llên-ladrad LibGuide. Mae Tab 8 y LibGuide yn cynnwys enghreifftiau o ddulliau cyfeirnodi adrannol – dewch o hyd i’ch adran a gwnewch yn siŵr bod y cyfeirnod ar gyfer y ffynhonnell a ddefnyddir (e.e. llyfr, e-lyfr, erthygl, gwefan ac ati) wedi’i ysgrifennu yn y fformat a’r drefn gywir.
- Gofynnwch am arweiniad gan eich Llyfrgellydd Pwnc. Maent yn cynnig ymgynghoriadau unigol ac yn arbenigwyr yn yr arddulliau cyfeirnodi penodol a ddefnyddir yn eich meysydd astudio.
- Deall rheolau cyfeirnodi: Ymgyfarwyddwch ag egwyddorion cyfeirnodi academaidd er mwyn sylwi ar wallau a gwneud y cywiriadau angenrheidiol – mae’r generaduron cyfeirnodi yn ddefnyddiol, ond nid ydynt yn disodli sgiliau a phwysigrwydd gwybod sut i gyfeirnodi’n gywir.
- Defnyddio fel Man Cychwyn: Dylid edrych ar offer fel MyBib a Scribbr fel cymhorthion cychwynnol yn hytrach nag atebion cyflawn. Maent yn symleiddio’r broses ond nid ydynt yn disodli meddwl beirniadol na sylw i fanylion.
- Croeswirio Ffynonellau: Ar gyfer ffynonellau cymhleth neu anghyffredin, cyfeiriwch at adnoddau ychwanegol neu gofynnwch am arweiniad gan eich Llyfrgellydd Pwnc.
- Osgoi Gor-ddibyniaeth: Gwnewch yn siŵr bod gennych chi gydbwysedd da rhwng awtomatiaeth yr offer yma a’ch ymdrech chi eich hun – mae’n bwysig bod eich gwaith academaidd dan eich rheolaeth chi a’ch bod yn dysgu’r sgil o gyfeirnodi eich hun.
Ydy, mae MyBib a Scribbr yn offerynnau gwerthfawr ar gyfer symleiddio rheoli dyfyniadau ar gyfer ysgrifennu academaidd. Mae’r ffaith eu bod yn rhwydd i’w defnyddio ac yn hygyrch yn eu gwneud yn fan cychwyn delfrydol ar gyfer gweithio ar aseiniadau. Fodd bynnag, gair neu ddau o rybudd. Nid ydynt yn ddi-wall, yn ddi-feth nac yn gwbl ddibynadwy – mae’n hanfodol eich bod yn gwirio ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn sicr bod yr hyn sy’n cael ei gynhyrchu yn gywir. Ni ddylid defnyddio’r offer yma yn lle dealltwriaeth gynhwysfawr o reolau arddull dyfynnu a chyfeirnodi. Mae defnydd cyfrifol o’r offer yn sicrhau ein bod yn cynnal arferion academaidd da wrth elwa ar eu cyfleustra.