
Heddiw, 7 Chwefror, yw Dydd Miwsig Cymru – diwrnod sy’n dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg. P’un a ydych yn mwynhau cerddoriaeth indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae cerddoriaeth anhygoel yn cael ei chyfansoddi yn y Gymraeg i chi ei darganfod. Darganfyddwch fwy am y diwrnod hwn gyda dolenni i restrau chwarae Spotify.
Mae ein llyfrgellwyr wedi curadu rhestr chwarae Box of Broadcasts o rai o’u hoff raglenni dogfen a pherfformiadau i’ch rhoi ar y trywydd iawn gyda cherddoriaeth Gymraeg.

Cliciwch ar y llun neu’r ddolen uchod i weld y rhestr chwarae