Creu / diweddaru rhestrau darllen eich modiwlau ar gyfer 2024-2025
Mae rhestrau darllen gwag yn cael eu creu yn Aspire ar gyfer modiwlau newydd a’r rhai sy’n dychwelyd sydd angen rhestrau. Pan fyddwch wedi ychwanegu rhywfaint o gynnwys at eich rhestr ddarllen, caiff ei chysylltu â’r modiwl Blackboard priodol gan staff y Llyfrgell.
Cofiwch y gallwch hefyd ychwanegu dolenni at adrannau yn eich rhestrau darllen.
Wrth ddiweddaru cynnwys eich rhestr ddarllen Aspire ar gyfer y flwyddyn i ddod, gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru rhifyn 2024-2025 o’ch rhestr ddarllen. Os byddwch yn ychwanegu llyfrau at restrau darllen 2023-2024 ni fyddant yn cael eu prynu. Er gwybodaeth, bydd rhestrau darllen Aspire 2023-2024 yn parhau i fod ar gael ym modiwlau Blackboard 2023-2024 tan ddiwedd mis Awst ac yna byddant yn cael eu harchifo.
Cyswllt
Cysylltwch â llyfrgellwyr@aber.ac.uk neu eich llyfrgellydd pwnc os
- nad oes rhestr ddarllen yn Aspire ar gyfer eich modiwl
- hoffech apwyntiad rhestr ddarllen gyda’ch llyfrgellydd pwnc
- oes gennych chi unrhyw gwestiynau