Arhoswch funud… Beth os nad ydw i eisiau defnyddio DA?

Mae DA ym mhob man ar hyn o bryd. Mae’n ysgrifennu crynodebau, yn egluro damcaniaethau, yn cywiro gramadeg ac yn argymell rhestrau cerddoriaeth.

Ond cofiwch, er nad oes llawer o bobl yn dweud hyn: does dim rhaid i chi ei ddefnyddio.

P’un a ydych chi’n teimlo’n bryderus, yn ansicr, neu’n ddifater ynghylch y peth, mae optio allan o DA yn ddewis hollol ddilys, ac rydych chi’n haeddu yr un faint o gefnogaeth â’r rhai sydd yn ei ddefnyddio.

Mae DA yn fy nychryn rywfaint…

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. I lawer o fyfyrwyr, daw’r petruster o beidio ag ymddiried yn llawn yn yr hyn y bydd DA yn ei wneud, weithiau mae’n ymddangos yn ddefnyddiol, weithiau mae’n teimlo’n ddryslyd. Mae’r ansicrwydd hwnnw’n ddigon i wneud i unrhyw un betruso, yn enwedig pan fyddwch chi eisiau i’ch gwaith deimlo fel eich gwaith chi’n ddiffuant.

Nid yw penderfynu peidio â defnyddio DA yn golygu eich bod chi’n colli gafael ar bethau. Mae’n dangos eich bod chi’n feddylgar am sut rydych chi’n gweithio a beth sy’n cefnogi eich dysgu orau.

Onid oes pryderon moesegol sylweddol ynghylch DA?

Oes, a dyma’n union beth sydd mor wych am fyfyrwyr Aber. Mae cymaint ohonynt yn meddwl y tu hwnt i’r offer eu hunain ac yn ystyried y darlun ehangach. Maen nhw’n codi materion fel:

  • Effaith ar yr hinsawdd: Nid hud yw DA; mae’n rhedeg ar ynni. Llawer ohono.
  • Cost ddynol: Mae rhai systemau DA yn dibynnu ar weithwyr cyflog isel yn y De Byd-eang sy’n labelu data neu’n hidlo cynnwys niweidiol.
  • Cewri technoleg: Gall defnyddio offer penodol deimlo fel eich bod, yn anuniongyrchol, yn ariannu cwmnïau nad ydynt bob amser yn cyd-fynd â’ch gwerthoedd.

Nid yw poeni am y materion hyn yn golygu eich bod yn “ddramatig.” Mae’n golygu eich bod yn ddinesydd meddylgar sy’n ymwneud â’ch byd.

Beth sy’n digwydd i’m data?

Mae rhai myfyrwyr yn poeni ynghylch beth sy’n digwydd i’r hyn y maent yn teipio i mewn i offer DA. Pwy sy’n ei weld? Ble mae’n cael ei storio? A ellir ei ddefnyddio i hyfforddi modelau’r dyfodol?
Os yw’r ansicrwydd hwnnw’n eich gwneud chi’n anghyfforddus, mae dewis peidio â defnyddio DA, neu ei ddefnyddio ar gyfer tasgau pwysigrwydd isel yn unig, yn gwbl ddilys.

A yw DA yn tanseilio fy hyder?

Er y gall DA swnio fel ffrind hynod o gefnogol, sy’n cytuno â phopeth rydych chi’n ei ddweud a dweud wrthych pa mor wych yw eich gwaith, gall hynny fod yn wrthgynhyrchiol. Os yw popeth yn edrych yn “wych” trwy’r amser, mae’n dod yn anoddach sylwi ar yr hyn sydd wir angen ei wella.

Gall DA fod yn ddefnyddiol, ond gall hefyd dorri eich hyder yn dawel os ydych chi’n dibynnu arno’n ormodol.

Cofiwch: mae rhywbeth grymusol am roi’r atalnod llawn olaf hwnnw ar aseiniad rydych chi wedi ei ysgrifennu eich hun gan wybod: Fi wnaeth ymchwilio ar gyfer hwn. Fi wnaeth ysgrifennu hwn. Rwy’n deall hwn.

Fy newis i ydyw, iawn?

Ni ddylai DA deimlo’n orfodol. Nid ar gyfer traethodau, nid ar gyfer adolygu, nid ar gyfer unrhyw beth. Ac os oes unrhyw un yn gwneud i chi deimlo fel ei bod hi’n rhaid i chi ei ddefnyddio, mae’n werth cael sgwrs gyda’ch tiwtor personol.

Yn y diwedd, eich dysgu chi ydyw, eich gwerthoedd chi, eich dewis chi.

P’un a ydych chi’n defnyddio DA bob dydd, yn achlysurol, neu ddim o gwbl, rydych chi’n haeddu offer, cefnogaeth ac arweiniad sy’n parchu eich barn.