Llyfrau lliwgar o’r Casgliad Llên Plant yn cael eu harddangos ar Lefel F yn Llyfrgell Hugh Owen
Os ewch chi lawr i Lyfrgell Hugh Owen heddiw…. …byddwch chi’n siŵr o ddod o hyd i’n harddangosfa ddiweddaraf o lyfrau o’r Casgliad Llên Plant!
Dewch felly i archwilio’r casgliad sydd yn cynnwys detholiad da a diddorol o ffuglen i blant yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r llyfrau yn amrywio o lyfrau lluniau a llenyddiaeth gyfoes i blant, i ffuglen i oedolion ifanc – o ddreigiau i dywysogesau, o fôr-ladron i estroniaid a phopeth sydd rhyngddynt!
Bydd y casgliad yn arbennig o ddefnyddiol ichi os ydych yn astudio TAR neu Astudiaethau Plentyndod/Addysg. Dewch o hyd i’r casgliad yn Llyfrgell Hugh Owen ar Lefel F yn nod dosbarth PZ neu borwch y casgliad ar Primo, catalog y llyfrgell yma.
Efallai eich bod chi, fel finnau, yn llawenhau o glywed fod archif y BBC o raglennu radio a theledu hanesyddol erbyn hyn ar gael trwy Box of Broadcasts.
O’m rhan i, rwy’n ysu am gael gwylio hwyl a sbri ôl-apocalyptaidd Z for Zachariah(a ddarlledwyd yn 1984 fel rhan o’r gyfres Play for Today). Os nad yw hwn at eich dant, beth am Allen Ginsberg a William Burroughs yn siarad am Jack Kerouac ar Arenayn 1988? Na, ddim i chi? Beth am bennod, efallai, o Horizon o’r flwyddyn 1980 sy’n edrych ar sut mae prosesyddion geiriau sy’n cael eu rheoli â llais yn mynd i chwyldroi bywyd y swyddfa? Neu beth am daith bersonol o gwmpas Stratford upon Avon yng nghwmni’r dramodydd Huw Lloyd Edwards yn y rhaglen Arall Fydo’r flwyddyn 1972?
Wrth gwrs, y BBC yw hon, ac felly mae cymaint mwy i’w gael: uchafbwyntiau diwylliannol (Shakespeare ar Deledu’r BBC); adloniant ysgafn arloesol (Multi-Coloured Swap Shop – dyna fy mhlentyndod i!). Mae rhaglenni newyddion blaenllaw (Newsnight) ac adroddiadau hanesyddol o ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol o bwys (Yesterday’s Witness). Dyma gasgliad o adnoddau sy’n unigryw o ran ansawdd a dyfnder.
Mae Box of Broadcasts wedi paratoi gwybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i ddod o hyd i’r cynnwys hanesyddol yn yr archif, ond os cewch anhawster gydag unrhyw beth, cofiwch gysylltu â’ch llyfrgellydd pwnc am gymorth.
Dyma ambell ddolen ddefnyddiol arall i’ch helpu i ymgyfarwyddo â Box of Broadcasts.
Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ddigwyddiad blynyddol sy’n adlewyrchu ar hanesion a diwylliannau pobl dduon ledled y byd. Mae’r digwyddiad, a gychwynnodd yn America, wedi cael ei nodi bob mis Hydref yn y DU ers 1987.
Ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon, mae Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi rhestr ddarllen newydd sy’n cynnig cyfle i archwilio agweddau o Hanes Pobl Dduon sydd efallai yn llai adnabyddus:
Profwch Hanes Pobl Dduon mewn barddoniaeth drwy weithiau diweddar gan enillydd Gwobr Dylan Thomas Kayombo Chingonyi (Kumukanda) a chasgliad cyntaf Raymond Antrobus The Perseverance. Ymgollwch yng nghasgliad ar-lein syfrdanol Proquest One Literature African American Poetry sydd yn cynnwys bron i 3,000 o gerddi gan feirdd Americanaidd Affricanaidd o’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae llawer o e-adnoddau gwych ar y rhestr, ond peidiwch â cholli Proquest One Literature Black Writing and World Literature Collection sy’n dwyn ynghyd y casgliad llenyddiaeth mwyaf a’r un mwyaf cynhwysol a guradwyd erioed. Rydym yn tynnu sylw at y prosiectau arbennig canlynol:
Mae Black Women Writers yn cyflwyno 100,000 o dudalennau o lenyddiaeth a thraethodau ar faterion ffeministaidd – o ddarluniadau o gaethwasiaeth yn yr 18fed ganrif i waith awduron yn niwedd y 1950au a’r 1960au wedi i don o annibyniaeth ysgubo ar draws Affrica.
Daeth dros filiwn a hanner o Affricaniaid, ynghyd â phobl o India a De Asia, i’r Caribî rhwng y 15fed a’r 19eg ganrif. Heddiw, mae eu disgynyddion wrthi’n creu llenyddiaeth sydd â chysylltiadau cryf ac uniongyrchol â mynegiant Affricanaidd traddodiadol.
82,000 o dudalennau a mwy na 11,000 o weithiau o ffuglen fer mewn amrywiaeth o draddodiadau sydd yn Black Short Fiction and Folklore – o draddodiadau llafar Affricanaidd cynnar i hip-hop – mae’n cwmpasu chwedlau, damhegion, baledi, straeon gwerin, a straeon a nofelau byrion.
Ceir adnoddau o bob math ar y rhestr, rhai ffisegol a rhai ar-lein, felly p’un a ydych ar y campws neu oddi arno, mae rhywbeth i bawb. Galwch heibio ein harddangosfa ar Lefel F Llyfrgell Hugh Owen a fydd yno drwy gydol mis Hydref.
Mae Newid Hinsawdd yn bwnc brawychus i fynd i’r afael ag ef, a gall dod o hyd i wybodaeth ddibynadwy i helpu i ddeall y pwnc hollbwysig hwn deimlo’n llethol. Mae mynd i’r afael â Newid Hinsawdd yn gyfrifoldeb ar bawb, a pha un ai eich bod yn dod o gefndir yn y celfyddydau, neu mewn gwleidyddiaeth, neu yn y gwyddorau cymdeithasol, amgylcheddol neu ffisegol, mae’n hanfodol bod pob un ohonom yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddeall effaith Newid Hinsawdd ar ein byd.
Cafodd rhestr ddarllen ‘Dyfodol dan ddŵr i Aberystwyth? Atal y llif o Newid Hinsawdd’ ei chreu gan Catherine Fletcher ac Annabel Cook yn ystod eu cyfnod ar leoliad AberYmlaen gyda Thîm Cysylltiadau Academaidd y Llyfrgell. Lluniwyd y casgliad hwn o adnoddau i gefnogi canlyniadau Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth (18 – 25 Hydref 2021) ond roeddem o’r farn y gallai fod yn ddefnyddiol i gynulleidfa ehangach hefyd. Mae’r rhestr yn ceisio darparu ystod o wybodaeth am Newid Hinsawdd yn lleol ac yn fyd-eang. Mae’n cynnwys dolen i fap rhyngweithiol sy’n eich galluogi i archwilio codiad yn lefel y môr a bygythiadau llifogydd arfordirol a allai effeithio ar ble rydych chi’n byw. (Rhybudd: mae’n ddychrynllyd iawn!)
Rydyn ni’n gwybod faint mae myfyrwyr a thrigolion yn trysori Aberystwyth felly gobeithio trwy daflu goleuni ar yr effaith negyddol y gall Newid Hinsawdd ei chael ar y dref, y bydd yn ein helpu ni, fel cymuned, i ymdrechu i wneud dewisiadau mwy cynaliadwy.
Nid ar ardal Aberystwyth yn unig y mae’r adnoddau ar y rhestr hon yn canolbwyntio. Mae’r detholiad o erthyglau gwyddonol yr ydym wedi’u dewis yn amlinellu effeithiau’r newidiadau hinsoddol a allai gael effaith ledled y byd. Roeddem hefyd eisiau dangos bod yr ymchwil yn rhyngddisgyblaethol, gan dynnu sylw at y rôl hanfodol y mae pob adran wyddonol ledled y brifysgol yn ei chwarae wrth ymchwilio i Newid Hinsawdd. Y gobaith yw, wrth ddeall Newid Hinsawdd yn llawn, y gallwn ragweld ac addasu’n fwy effeithlon i’r heriau yr ydym, yn anochel, yn mynd i’w hwynebu.
Mae’n bwysig cofio nad yr adrannau gwyddonol yn unig sy’n gallu ysbrydoli newid. Mae gan y celfyddydau a’r gwyddorau cymdeithasol rôl i’w chwarae wrth ddarparu ongl fwy creadigol i feddwl am, a deall, Newid Hinsawdd. Diben y rhestr ddarllen hon yw dangos sut mae’r disgyblaethau hynny eisoes yn ymateb i’r bygythiad y mae’r argyfwng hinsawdd yn ei beri.
Mae angen i ni i gyd wneud ein rhan. Felly os ydych chi’n astudio celf neu’n astudio sŵoleg (neu unrhyw bwnc yn y canol) mae angen i ni ddod â’n harbenigedd, a’n hysbrydoliaeth, i ymdrin ag argyfwng mawr ein hoes. Rhowch wybod i ni beth yw eich barn chi am y rhestr, mae’n ddogfen fyw ac os oes adnoddau y credwch ddylai fod yno, rhowch wybod i ni a gallwn eu hychwanegu.