Wythnos Llyfrgelloedd 2022 – Staff

Thema Wythnos Llyfrgelloedd eleni ydy’r rhan ganolog sydd gan lyfrgelloedd yn cefnogi dysgu gydol oes.

Heddiw byddwn yn canolbwyntio ar holl staff Prifysgol Aberystwyth a rhai o adnoddau’r llyfrgell sy’n cynorthwyo unigolion i ddatgloi a chyflawni eu potensial ar bob cam o’u bywydau a’u gyrfaoedd.

Gale OneFile News Gallwch weld y newyddion ar-lein, gan gynnwys gweisg masnachol proffesiynol. Mae Newyddion Gale OneFile yn caniatáu ichi chwilota drwy 2,300 o bapurau newydd mawr, gan gynnwys miloedd o ddelweddau, darllediadau radio a theledu a thrawsgrifiadau.

Digimap Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu data mapiau Arolwg Ordnans llawn a chynhwysfawr a mapiau hanesyddol yn ogystal â data daearegol. Adnodd hynod ddefnyddiol a difyr yw Digimap, a fydd yn diddanu ymchwilwyr hanes lleol a phobl sy’n ymwneud â’r Gwyddorau Daear fel ei gilydd. Yr unig beth sydd angen arnoch yw cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth i gofrestru i ddefnyddio’r adnodd.  

Map o Aberystwyth yn 1880 – Digimap

Box of Broadcasts Ydych chi’n gwneud rhywfaint o ymchwil? Mae Box of Broadcasts (BoB) yn wasanaeth teledu a radio ar alw i staff a myfyrwyr at ddefnydd academiadd, sy’n cynnig mynediad at ddwy filiwn o ddarllediadau o dros 65 o sianeli teledu am ddim. Erbyn hyn mae BoB hefyd yn cynnwys archif y BBC, sef rhaglenni radio a theledu hanesyddol.

Y Weithfan Ystafell astudio 24 awr yw’r Weithfan, sydd yn darparu cyfrifiaduron, peiriannau argraffu, WiFi, ac ystafell astudio i grwpiau / ystafell gyfarfod i fyfyrwyr a staff PA. Dewch o hyd i’r Weithfan wrth ymyl y Wetherspoons ger gorsaf drenau Aberystwyth a dewch â’ch Cerdyn Aber i gael mynediad.

Gwasanaethau Gyrfaoedd i holl staff PA A wyddoch y gall aelodau staff Prifysgol Aberystwyth hefyd fanteisio ar wasanaethau gyrfaoedd arbenigol y Brifysgol? Ewch draw i’n Canllaw Cyflogadwyedd i ddechrau arni.

Darllen er pleser Mae gan y llyfrgell gasgliadau sylweddol o ffuglen, llyfrau ffeithiol a barddoniaeth ar gyfer darllen er pleser. Porwch ein casgliad Ffuglen Gyfoes wrth ymyl y Ddesg Ymholiadau ar Lefel F neu ewch at y silffoedd o’r nod dosbarth PN (neu catalog y llyfrgell, Primo).

Casgliad Ffuglen Gyfoes

Y Casgliad Celtaidd Os ydych yn chwilio am nofel, barddoniaeth, llyfr hanes neu lyfrau i’ch helpu ddysgu neu loywi’ch Cymraeg, cofiwch fod miloedd o lyfrau Cymraeg ar bob pwnc dan haul yn y Casgliad Celtaidd. Mae’r casgliad yn cynnwys cannoedd o lyfrau i’ch helpu i ddatblygu eich Cymraeg, o gyrsiau iaith cyflawn a llyfrau gramadeg i ffuglen gyda geirfa ddefnyddiol. Dewch o hyd i’r casgliad ar Lefel F.

Casgliad Astudio Effeithiol Efallai y bydd ambell deitl yn ein Casgliad Astudio Effeithiol o ddefnydd ichi wrth ddatblygu’ch sgiliau astudio neu’ch sgiliau proffesiynol, megis sgiliau cyflwyno neu ymchwil.

Linkedin Learning Gall pob myfyriwr ac aelod o staff PA ddefnyddio’r cyfoeth o gyrsiau sydd ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim ac sydd wedi’u harwain gan arbenigwyr trwy Linkedin Learning.

Dyma ddetholiad bach o gyrsiau a allai fod yn ddefnyddiol i staff PA a grëwyd gan Jeffrey Clark, Pencampwr Digidol Myfyrwyr:

Casgliad Datblygiad Personol a Phroffesiynol –  Mae’r casgliad hwn yn cynnwys cyfres o gyrsiau sydd wedi’u cynllunio i gynorthwyo aelodau o staff i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol a phersonol.

Jeffrey Clark

Casgliad Llên Plant

Colourful books from the Children's Literature Collection on a table on Level F of the Hugh Owen Library
Llyfrau lliwgar o’r Casgliad Llên Plant yn cael eu harddangos ar Lefel F yn Llyfrgell Hugh Owen

Os ewch chi lawr i Lyfrgell Hugh Owen heddiw…. …byddwch chi’n siŵr o ddod o hyd i’n harddangosfa ddiweddaraf o lyfrau o’r Casgliad Llên Plant!

Dewch felly i archwilio’r casgliad sydd yn cynnwys detholiad da a diddorol o ffuglen i blant yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r llyfrau yn amrywio o lyfrau lluniau a llenyddiaeth gyfoes i blant, i ffuglen i oedolion ifanc – o ddreigiau i dywysogesau, o fôr-ladron i estroniaid a phopeth sydd rhyngddynt!

Bydd y casgliad yn arbennig o ddefnyddiol ichi os ydych yn astudio TAR neu Astudiaethau Plentyndod/Addysg. Dewch o hyd i’r casgliad yn Llyfrgell Hugh Owen ar Lefel F yn nod dosbarth PZ neu borwch y casgliad ar Primo, catalog y llyfrgell yma.

Mae Archif Hanesyddol y BBC ar gael nawr trwy Box of Broadcasts.

An old-time television setEfallai eich bod chi, fel finnau, yn llawenhau o glywed fod archif y BBC o raglennu radio a theledu hanesyddol erbyn hyn ar gael trwy Box of Broadcasts.

O’m rhan i, rwy’n ysu am gael gwylio hwyl a sbri ôl-apocalyptaidd Z for Zachariah (a ddarlledwyd yn 1984 fel rhan o’r gyfres Play for Today). Os nad yw hwn at eich dant, beth am Allen Ginsberg a William Burroughs yn siarad am Jack Kerouac ar Arena yn 1988? Na, ddim i chi? Beth am bennod, efallai, o Horizon o’r flwyddyn 1980 sy’n edrych ar sut mae prosesyddion geiriau sy’n cael eu rheoli â llais yn mynd i chwyldroi bywyd y swyddfa? Neu beth am daith bersonol o gwmpas Stratford upon Avon yng nghwmni’r dramodydd Huw Lloyd Edwards yn y rhaglen Arall Fyd o’r flwyddyn 1972?

Wrth gwrs, y BBC yw hon, ac felly mae cymaint mwy i’w gael: uchafbwyntiau diwylliannol (Shakespeare ar Deledu’r BBC); adloniant ysgafn arloesol (Multi-Coloured Swap Shop – dyna fy mhlentyndod i!). Mae rhaglenni newyddion blaenllaw (Newsnight) ac adroddiadau hanesyddol o ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol o bwys (Yesterday’s Witness). Dyma gasgliad o adnoddau sy’n unigryw o ran ansawdd a dyfnder.

Mae Box of Broadcasts wedi paratoi gwybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i ddod o hyd i’r cynnwys hanesyddol yn yr archif, ond os cewch anhawster gydag unrhyw beth, cofiwch gysylltu â’ch llyfrgellydd pwnc am gymorth.

Dyma ambell ddolen ddefnyddiol arall i’ch helpu i ymgyfarwyddo â Box of Broadcasts.

A rhai dolenni defnyddiol ar gyfer staff sy’n addysgu:

Mis Hanes Pobl Dduon

black history month 2021 poster

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ddigwyddiad blynyddol sy’n adlewyrchu ar hanesion a diwylliannau pobl dduon ledled y byd. Mae’r digwyddiad, a gychwynnodd yn America, wedi cael ei nodi bob mis Hydref yn y DU ers 1987.

Ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon, mae Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi rhestr ddarllen newydd sy’n cynnig cyfle i archwilio agweddau o Hanes Pobl Dduon sydd efallai yn llai adnabyddus:

Hanes Pobl Dduon Cymru

Archwiliwch Hanes Pobl Dduon yng Nghymru gan ddysgu am rôl Cymru mewn caethwasiaeth ac hefyd ei rôl ganolog wrth ei diddymu (Slave Wales gan Chris Evans); ewch ar daith bersonol o hunan-ddarganfyddiad a hunaniaeth hil-gymysg (Sugar and Slate gan Charlotte Williams) a darganfod y gyfrol Gymraeg gyntaf i drafod y portread o amlddiwyllianedd yng Nghymru mewn ffuglen (Y Gymru Ddu ar Ddalen Wen gan Lisa Sheppard). Cawn hefyd hanesion o’r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth yng Nghymru’r 18fed ganrif yn Canu Caeth: y Cymry a’r Affro-Americaniaid gan Daniel G. Williams.

Hanes Pobl Dduon Prydain

Yn yr adran hon, awn i’r byd academaidd Prydeinig a dysgu am brofiadau menywod a myfyrwyr o liw (Inside the ivory tower a olygwyd gan Deborah Gabriel a Shirley Tate  ac Insider-Outsider: The Role of Race in Shaping the Experiences of Black and Minority Ethnic Students by Sofia Akel). Cawn wybod sut y caiff effaith diwylliannol gwleidyddiaeth hil a gwrth-hiliol ei hadlewyrchu mewn llenyddiaeth Asiaidd Prydeinig a Du Prydeinig (Race and antiracism in Black British and British Asian literature gan Dave Gunning), cawn ddilyn naratif hanesyddol o leiafrifoedd hiliol Prydain (Staying Power: The History of Black People in Britain, Peter Fryer) a chael profi argyfwng hunaniaeth hynod Brydeinig (Afua Hirsch- Brit(ish): on race, identity and belonging).  

Hanes Pobl Dduon mewn Barddoniaeth

Profwch Hanes Pobl Dduon mewn barddoniaeth drwy weithiau diweddar gan enillydd Gwobr Dylan Thomas Kayombo Chingonyi (Kumukanda) a chasgliad cyntaf Raymond Antrobus The Perseverance. Ymgollwch yng nghasgliad ar-lein syfrdanol Proquest One Literature African American Poetry sydd yn cynnwys bron i 3,000 o gerddi gan feirdd Americanaidd Affricanaidd o’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Llyfrau Ffuglen a Ffeithiol

Mae gennym argymhellion ffuglen ar eich cyfer megis nofelau a gyhoeddwyd yn ddiweddar, y nofel Gymraeg Safana gan Jerry Hunter a Queenie gan Candice Carty-Williams, nofelau arobryn cyfoes (An American Marriage gan Tayari Jones; Girl, Woman, Other gan Bernadine Evaristo), nofelau clasurol (To Kill a Mockingbird, Harper Lee; Beloved gan Toni Morrison ac Invisible Man, Ralph Ellison) a ffuglen Oedolion Ifanc poblogaidd (Children of Blood and Bone gan Tomi Adeyemi a The Hate U Give gan Angie Thomas )

Yn ein detholiad o lyfrau ffeithiol, dewch o hyd i hunangofiannau a bywgraffiadau pobl dduon ddylanwadol (Becoming gan Michelle Obama) ac ystod o gasgliadau o draethodau a sylwebaethau gwleidyddol a chymdeithasol heriol (I will not be erased, gal-dem; Slay in your lane: the Black girl bible, Yomi Adegoke; Natives, Akala; Don’t touch my hair, Emma Dabiri). 

Adnoddau Ar-lein

Mae llawer o e-adnoddau gwych ar y rhestr, ond peidiwch â cholli Proquest One Literature Black Writing and World Literature Collection sy’n dwyn ynghyd y casgliad llenyddiaeth mwyaf a’r un mwyaf cynhwysol a guradwyd erioed. Rydym yn tynnu sylw at y prosiectau arbennig canlynol:

African Writers Series​ 

Mae’r casgliad ar-lein hwn yn cynnwys dros 250 o gyfrolau o ffuglen, barddoniaeth, drama a rhyddiaith gan awduron Affricanaidd.

Black Women Writers​ 

Mae Black Women Writers yn cyflwyno 100,000 o dudalennau o lenyddiaeth a thraethodau ar faterion ffeministaidd – o ddarluniadau o gaethwasiaeth yn yr 18fed ganrif i waith awduron yn niwedd y 1950au a’r 1960au wedi i don o annibyniaeth ysgubo ar draws Affrica.

Carribbean Literature

Daeth dros filiwn a hanner o Affricaniaid, ynghyd â phobl o India a De Asia, i’r Caribî rhwng y 15fed a’r 19eg ganrif. Heddiw, mae eu disgynyddion wrthi’n creu llenyddiaeth sydd â chysylltiadau cryf ac uniongyrchol â mynegiant Affricanaidd traddodiadol.

Black Short Fiction and Folklore​ 

82,000 o dudalennau a mwy na 11,000 o weithiau o ffuglen fer mewn amrywiaeth o draddodiadau sydd yn Black Short Fiction and Folklore – o draddodiadau llafar Affricanaidd cynnar i hip-hop – mae’n cwmpasu chwedlau, damhegion, baledi, straeon gwerin, a straeon a nofelau byrion.  

Ceir adnoddau o bob math ar y rhestr, rhai ffisegol a rhai ar-lein, felly p’un a ydych ar y campws neu oddi arno, mae rhywbeth i bawb. Galwch heibio ein harddangosfa ar Lefel F Llyfrgell Hugh Owen a fydd yno drwy gydol mis Hydref.