IBIS World – Cronfa ddata o ymchwil marchnad-diwydiant cynhwysfawr

Ydych chi’n chwilio am ddata’r Deyrnas Unedig am ddiwydiant penodol? 

Rydym yn tanysgrifio i adnodd cynhwysfawr o’r enw IBIS World.  Mae bron i 13,000 o adroddiadau diwydiant ar-lein, sydd oll yn hawdd eu chwilio. 

Mae gan bob diwydiant ei adroddiad ei hun sy’n cael ei rannu i’r penodau canlynol; 

  • Cipolwg 
  • ⁠Perfformiad 
  • Cynnyrch a Marchnadoedd 
  • Dadansoddiad Daearyddol 
  • Grymoedd Cystadleuol 
  • Cwmnïau 
  • Amgylchedd Allanol 
  • Meincnodau Ariannol 

P’un a ydych yn chwilio am y cyflog cyfartalog ar gyfer y diwydiant hwnnw neu’n ceisio dod o hyd i’r marchnadoedd allweddol.  Mae’r wybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn adrannau hylaw, gyda graffeg glir y gellir ei lawrlwytho. 

Esiampl o siart o IBIS World

Mae crynodeb defnyddiol ‘Cipolwg’ ar gyfer pob diwydiant yn y DU, sy’n rhoi cipolwg ar y refeniw, dadansoddiad SWOT a Chrynodeb Gweithredol manwl. 

Mae IBIS World ar gael ar y campws ac oddi arno 24/7 a gellir lawrlwytho’r adroddiadau yn llawn neu fesul pennod.  Cofiwch, os ydych chi’n defnyddio data IBIS World yn eich aseiniadau, mae’n rhaid cydnabod hyn.  Mae rhagor o gymorth ar gael yn ein Canllaw Cyfeirnodi a Llên-ladrad: https://libguides.aber.ac.uk/c.php?g=683637&p=5125158  

Am unrhyw gymorth pellach gyda’r adnodd hwn cysylltwch â llyfrgellwyr@aber.ac.uk  

SgiliauAber. Eich hyb sgiliau chi

Ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau ysgrifennu academaidd, dysgu am y llyfrgell a’i hadnoddau, mynd i’r afael â chyfeirio, neu wella eich sgiliau cyflogadwyedd?

Newyddion da! Mae’r pynciau hyn a mwy yn cael sylw yn rhaglen Semester 1 SgiliauAber, sydd ar gael am ddim i bob myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cynhelir Gweithdai SgiliauAber drwy gydol y flwyddyn academaidd ac maent yn gymysgedd o sesiynau wyneb yn wyneb a sesiynau ar-lein. Mae’r rhan fwyaf o’r sesiynau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Cewch weld rhestr o’r holl weithdai ar wefan SgiliauAber. Ewch draw i weld beth sydd ar gael ac archebwch eich lle gyda chlic.

Os byddwch yn colli sesiwn ac eisiau dal i fyny, mae deunyddiau addysgu’r gweithdai sgiliau academaidd a llyfrgell ar gyfer 2023-2024 ar gael ar Blackboard o dan Mudiadau. Bydd deunyddiau addysgu’r gweithdai 2024-2025 yn cael eu llwytho yn fuan ar ôl y sesiynau.

DA a’r Llyfrgell – Wythnos Un. Ein Canllaw a’n Cyfres Blogbost Newydd

Mae’r tîm o Lyfrgellwyr Pwnc wedi bod yn gweithio’n galed dros yr “haf” (os gallwn ni ei alw’n haf gyda’r holl law!) i ddod â Chanllaw diweddaredig i chi sy’n amlinellu sut y gallwch ddefnyddio DA i fanteisio i’r eithaf ar adnoddau’r llyfrgell.

Sgrinlun o’r Canllaw DA a’r Llyfrgell newydd

Mae’r Canllaw yn cynnig cyngor ar:

  • Sut y gallwch ddefnyddio DA.
  • Rhai o’r offer DA a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
  • Manteision defnyddio DA dros beiriannau chwilio traddodiadol.
  • Defnydd priodol a moesegol o offer DA.
  • Adeiladu anogwyr yn effeithiol.
  • Rhai o’r risgiau posibl o ddefnyddio DA (gan gynnwys materion sy’n ymwneud â thorri hawlfraint, rhagfarn a diogelu data).
  • Effaith DA ar uniondeb academaidd

Gellir gweld Dolenni i’r Canllaw yma:

Fel cydymaith i’r Canllaw, rydym yn mynd i gynnig cyfres o bostiadau blog a fydd yn edrych ar y cyngor a roddir yn y canllaw yn fanylach ac yn cynnig rhai awgrymiadau ymarferol ar gyfer defnyddio DA.

Dyma gipolwg o’r hyn y gallwch ei ddisgwyl yn ystod yr wythnosau nesaf:

  • Adolygiadau o offer DA.
  • Cyngor ymarferol ar adeiladu anogwyr effeithiol.
  • Datblygu chwiliadau allweddair clyfar.
  • Darganfod adnoddau sy’n gysylltiedig â’ch maes astudio.
  • Gwerthuso allbynnau DA trwy gymhwyso’r prawf CCAPP.
  • Risgiau defnyddio DA.

Gobeithiwn y bydd y Canllaw a’r gyfres o bostiadau blog yn ddefnyddiol. Mae’n bwysig pwysleisio serch hynny ei bod hi’n rhaid i chi ddilyn y canllawiau ar ddefnyddio DA a gyhoeddir gan eich adran (lle bônt ar gael).

Amddiffyn eich ymchwil: osgoi sgamiau cyhoeddi 

Mae herwgipio cyfnodolion a safleoedd cyfnodolion twyllodrus yn mynd yn broblem gynyddol i awduron cyfnodolion, cyhoeddwyr a darllenwyr. Nod sgamiau cyhoeddi yw manteisio ar ymchwilwyr, gan addo cyhoeddi’n gyflym ond yn codi ffioedd cyhoeddi gormodol. Yn aml, mae’r safleoedd yn gopi unfath o gyfnodolyn cydnabyddedig, wedi’u gosod i gael ffioedd oddi wrth awduron nad ydynt yn amau bod dim byd o’i le. 

Mae cyhoeddwyr yn dod yn fwyfwy ymwybodol o’r broblem ac wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’r duedd newydd hon. Erbyn 2023 roedd gan Scopus, sef cronfa ddata academaidd, 67 o gyfnodolion wedi’u herwgipio ar y gronfa ddata (Challenges posed by hijacked journals in Scopus – Abalkina – 2,024 – Journal of the Association for Information Science and Technology – Wiley Online Library ). Er mwyn helpu i leddfu’r broblem hon, tynnodd Scopus y dolenni URL i hafanau’r holl gyfnodolion y mae’n eu mynegeio, er bod y broblem yn parhau o hyd (Retractaction Watch, 2023 Elsevier’s Scopus deletes journal links following revelations of hijacked indexed journals – Retraction Watch

Nid yw llawer o awduron a darllenwyr yn ymwybodol o’r arfer hwn ac efallai y bydd yr adnoddau isod yn ddefnyddiol yn hyn o beth. 

Cloriannu cyfnodolion: 

 
Cefnogaeth gan eich llyfrgell: 

  • Edrychwch ar ganllaw’r llyfrgell ar gyfer Ymchwilwyr 

 
Cysylltwch â ni: llyfrgellwyr@aber.ac.uk  

Mae Jisc Historical Texts wedi dod i ben  

Nid yw Jisc bellach yn darparu Jisc Historical Texts. I wneud yn iawn am golli’r gwasanaeth hwn:

Mae Early Modern Books yn cwmpasu deunydd o Ynysoedd Prydain ac Ewrop am y cyfnod 1450-1700. Mae chwiliad integredig ar draws Llyfrau Saesneg Cynnar Ar-lein a Llyfrau Ewropeaidd Cynnar yn caniatáu i ysgolheigion weld deunyddiau o dros 225 o lyfrgelloedd ffynhonnell ledled y byd. Mae cynnwys EEBO yn defnyddio catalogau teitl byr awdurdodol y cyfnod ac yn cynnwys llawer o drawsgrifiadau testun a grëwyd yn arbennig ar gyfer y cynnyrch. Mae cynnwys o Ewrop yn cwmpasu’r Casgliadau Llyfrau Ewropeaidd Cynnar wedi’u curadu o 4 llyfrgell genedlaethol a Llyfrgell Wellcome Llundain.

Mae Eighteenth Century Collections Online (ECCO) yn llyfrgell helaeth o’r ddeunawfed ganrif ar eich bwrdd gwaith—casgliad testun-chwiliadwy llawn o lyfrau, pamffledi ac argrafflenni ym mhob pwnc a argraffwyd rhwng 1701 a 1800. Ar hyn o bryd mae’n cynnwys dros 180,000 o deitlau sy’n dod i gyfanswm o dros 32 miliwn o dudalennau y gellir eu chwilio’n llawn.

Gellir cael gafael ar deitlau sydd yn yr archif Jisc Journal Archive trwy ddarparwyr eraill yn Primo, catalog y Llyfrgell.

Cofiwch gysylltu â llyfrgellwyr@aber.ac.uk neu eich llyfrgellydd pwnc os oes gennych unrhyw gwestiynau.