Ydych chi wedi cael eich aseiniad cyntaf? Rhwng 19 a 23 Hydref, byddwn yn rhannu cyngor, adnoddau a digwyddiadau i’ch helpu i ddechrau arni.
Byddwn yn eich tywys trwy bob cam o’r broses, o ddeall briff yr aseiniad a dod o hyd i’r wybodaeth gywir i gynllunio, ysgrifennu a chyflwyno eich gwaith yn hyderus.
Ac nid yw hyn ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn unig. Os ydych chi yn eich ail neu’ch trydedd flwyddyn, gweithio ar eich astudiaethau Ôl-raddedig neu’n dilyn cwrs Dysgu Gydol Oes, cewch awgrymiadau a chymorth defnyddiol i helpu gyda’ch aseiniadau.
Dydd Llun 19eg: Deall eich aseiniad
Sesiwn galw heibio SgiliauAber gyda Non rhwng 10:00 a 12:00 (Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)
Dehongli eich aseiniad gyda Tamsin (Teams, 13.30-14.00)
Dydd Mawrth 20fed: Dod o hyd i’ch deunyddiau
Finding the Good Stuff: Peer-Reviewed Articles gydag Anita, 10:00-10:10, 11:00- 11:10 a 12:00 – 12:10 (Teams).
Taith y llyfrgell gyda Simon am 14:00 (cwrdd ar Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)
Dydd Mercher 21ain: Paratoi’r dechnoleg
Caffi Sgiliau Digidol gyda Keziah rhwng 13:30 a 15:30 (Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)
Offer cyfrifiadurol ar gyfer ysgrifennu Cymraeg gyda Tamsin, 14.00-15.00 (Teams)
Dydd Iau 22ain: Ysgrifennu Eich Aseiniad
Cwrdd â Samanatha Wynne-Rhydderch, Cymrawd y Gronfa Lenyddol Frenhinol ac awdur cyhoeddedig rhwng 10:30 a 13:30 (Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)
Ymwelwch â Tamsin Davies, Tiwtor Sgiliau Cymraeg, i gael cyngor am ysgrifennu eich aseiniad yn Gymraeg, 12.00-14.00 (Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)
Taith o amgylch y llyfrgell gyda Simon am 14:00 (cwrdd ar Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)
Dydd Gwener 23ain: Cyflwyno Eich Aseiniad
Sesiwn galw heibio i drafod cyflwyno gyda Luke rhwng 10 a 12 (Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)
Trwy’r Wythnos:
Desg ymholiadau Lefel F: 11:00 – 15:00
Arddangosfeydd llyfrau yn Llyfrgell Hugh Owen a Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol
Bydd popeth ar gael ar Ffrwd, felly cadwch lygad yn ystod yr wythnos. Pob lwc!
Cyfle i wella’ch ysgrifennu academaidd eleni gyda Chymrawd Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol, Samantha Wynne-Rhydderch. I wneud apwyntiad, anfonwch e-bost i gael dolen archebu: samantha.wynne-rhydderch@rlfeducation.org.uk
Gwasanaeth cyfrinachol am ddim i’ch helpu i wella eich sgiliau ysgrifennu
Mae croeso i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ar unrhyw lefel astudio (o fyfyrwyr y flwyddyn 1af i fyfyrwyr ôl-raddedig) – a staff – drefnu sesiwn.
Mae Cymrodorion Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol yn awduron proffesiynol, cyhoeddedig a’u swyddogaeth yw eich cynorthwyo i wella eich sgiliau ysgrifennu. Mewn sesiynau un-i-un, gall Samantha eich helpu i:
Strwythuro eich dadl
Ysgrifennu rhyddiaith sy’n fwy clir a thrawiadol
Ailysgrifennu a golygu
Cynllunio a rheoli amser
Ymdrin â chyfrif geiriau
Meddwl yn feirniadol
Aralleirio
Mae Samantha’n gweithio ar ddydd Mercher a dydd Iau yn ystod y tymor. Mae’r sesiynau’n para 50 munud ac yn cael eu cynnal yn Llyfrgell Hugh Owen ar ddydd Mercher ac yn Adeilad Llandinam ar ddydd Iau.
Noder nad yw Cymrawd Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol yn prawfddarllen nac yn rhoi hyfforddiant EAP (Saesneg at Ddibenion Academaidd) na TEFL (Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor).
Noder: Mae sesiynau Samantha yn Saesneg. I siarad â thiwtor sgiliau ysgrifennu academaidd cyfrwng Cymraeg sy’n cynnig cefnogaeth academaidd 1:1, cysylltwch â Dr Tamsin Davies, ted@aber.ac.uk
Heddiw (21 Mai) yw Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang.
O fewn Taith y Myfyriwr, mae gennym Dîm Hygyrchedd a Lles sy’n gweithio gyda myfyrwyr trwy gydol y flwyddyn. Mae’r Tîm yn cynnwys dros 50 o staff cynorthwyol anfeddygol sy’n darparu cymorth mentora neu sgiliau astudio 1:1 i fyfyrwyr ag anabledd neu wahaniaeth dysgu.
Y llynedd fe wnaethant gefnogi dros 800 o’n myfyrwyr – mae nifer y myfyrwyr y maent yn eu cefnogi wedi cynyddu 34% yn y pum mlynedd diwethaf.
Dyma beth mae ein myfyrwyr wedi bod yn ei ddweud am y tîm eleni:
… hynod o werthfawr, gan ganiatáu i mi… aros yn y brifysgol trwy gydol yr heriau niferus sydd wedi codi yn ystod fy nghwrs.
… wir wedi gwerthfawrogi … [cael]… cefnogaeth barhaus trwy gydol ein gradd gyfan gan yr un bobl (yn hytrach na staff gwahanol bob blwyddyn). Rwy’n awtistig ac mae hynny’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i mi.
[Y gweithiwr cymorth] oedd yr unigolyn pwysicaf yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol… heb y gwasanaethau byddwn yn cael llai o drefn a diddordeb gan eraill, sef y ddwy elfen fwyaf hanfodol yn fy llwyddiant yn y brifysgol.
Credwn fod y myfyriwr hwn yn crynhoi’r gwasanaeth yn berffaith: “Anhygoel… Hollol wych… Ffantastig… Rhyfeddol… Amhrisiadwy… o’r radd flaenaf”
Ond nid y staff hyn yn unig sy’n gwneud yn siŵr bod yr hyn a wnawn mor hygyrch â phosibl. Dyma rai o’r pethau y mae ein timau eraill yn eu gwneud.
Cynnwys Blackboard
Mae Blackboard Ally ar gael i bob myfyriwr a staff yn y brifysgol. Eleni mae 59,541 o ddogfennau wedi’u lawrlwytho mewn fformat amgen gan 3,894 o ddefnyddwyr. Y fformat mwyaf cyffredin yw’r PDF wedi’i dagio.
Mae staff wedi gwneud 3,417 o atgyweiriadau i’r cynnwys – dyna 3,417 o newidiadau sy’n gwneud deunyddiau addysgu yn fwy hygyrch i’w defnyddio.
Sgôr cwrs cyfartalog Ally ar gyfer cyrsiau 2025-26 yn Blackboard yw 72%.
Ym mis Tachwedd 2025, cymerodd PA ran yn Niwrnod Trwsio’ch Cynnwys Blackboard a daethant yn 3ydd yn y DU am nifer yr atgyweiriadau i gynnwys Blackboard a wnaed.
Llyfrau ac erthyglau mewn cyfnodolion
Mae’r holl sganiau o benodau o lyfrau ac erthyglau mewn cyfnodolion y mae ein gwasanaeth digido yn eu paratoi ar gyfer rhestrau darllen mewn fformat hygyrch. Maent yn defnyddio sganio OCR (Adnabod Nodau Gweledol), sy’n golygu bod sganiau wedi’u huwchlwytho o benodau o lyfrau ac erthyglau mewn cyfnodolion mewn rhestrau darllen yn gwbl ddarllenadwy, chwiliadwy a hygyrch. Yn ogystal â chydymffurfio â deddfwriaeth, mae’r sganiau hyn yn hygyrch i bob dysgwr. Mae dogfennau OCR wedi’u sganio yn gydnaws â thechnolegau cynorthwyol megis darllenwyr sgrin, ac mae ganddynt gyfleusterau llywio testun hefyd.
Yn ogystal â sganio eitemau ar gyfer rhestrau darllen, gall y tîm hefyd greu copïau hygyrch ar gyfer llyfrau i fyfyrwyr sydd wedi datgan anabledd i’r brifysgol. Mae gennym drwydded sy’n galluogi i ni wneud neu ddod o hyd i gopïau hygyrch o lyfrau os nad oes fersiwn hygyrch addas ar gael i’w brynu. Os nad yw testun wedi’i gynnwys gan y drwydded ond ein bod yn berchen ar gopi gwreiddiol, efallai y byddwn yn dal i gynhyrchu copi hygyrch ar gyfer astudiaeth bersonol neu ymchwil.
Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr cymwys a gellir ei ddefnyddio drwy e-bostio digideiddio@aber.ac.uk.
Eitemau synhwyraidd ar gyfer sesiynau lles
Cyflwynodd y staff yn ein Gwasanaeth Lles focsys o eitemau synhwyraidd y gellir eu cynnig i fyfyrwyr mewn sesiynau Lles i’w helpu i reoli’r angen am hunan-ysgogi (stimio). Dyma enghraifft o’r eitemau sydd ar gael:
Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial
Mae ein llyfrgell ysgogiadau DA newydd sydd ar gael i bawb yn cynnwys gwybodaeth am ddefnyddio DA i ddefnyddwyr sydd â gofynion hygyrchedd. Gallwch weld rhai enghreifftiau o hyn mewn rhai enghreifftiau o’r llyfrgell ysgogiadau
Ailysgrifennu mewn Iaith Eglur
“Ailysgrifennwch y testun canlynol mewn iaith eglur, hawdd ei deall gan gadw’r ystyr gwreiddiol. Torrwch frawddegau cymhleth yn gamau byrrach a thynnwch unrhyw jargon diangen. Tynnwch sylw at unrhyw dermau a allai fod angen esboniad o hyd.”
Canllaw Cam wrth Gam Niwroamrywiaeth-Gyfeillgar
“Trowch y dasg hon yn ganllaw cam wrth gam sy’n addas ar gyfer dysgwyr niwrowahanol. Cofiwch gynnwys camau byr, clir, delweddau neu drosiadau dewisol, a chrynodeb o bwyntiau allweddol. Osgowch fanylder llethol iawn. Peidiwch ag ychwanegu cynnwys nad yw’n gysylltiedig â’r dasg.”
Dod o hyd i’ch ffordd o amgylch y llyfrgell.
Mae AccessAble yn adnodd gwych sy’n helpu i hwyluso’r broses o gynllunio ar gyfer, a llywio’r Campws yma yn Aberystwyth. Mae’n darparu gwybodaeth i bobl am bethau megis lle parcio hygyrch, mynediad ramp, ble mae’r dolenni clyw a ble y gallant ddod o hyd i doiledau hygyrch. Gall hyn fod yn wirioneddol galonogol i bobl wrth iddynt gynllunio i fynychu rhywle sy’n newydd a/neu’n anghyfarwydd.
DA @ PA? Rhowch gynnig ar ein Cwrs Llythrennedd DA newydd.
Mae defnyddio DA yn fedrus yn golygu mwy na chael atebion cyflym. Mae’n golygu meddwl yn feirniadol am y cynnyrch, gwirio ffeithiau, a chadw o fewn y rheolau o ran uniondeb academaidd.
Mae ein Cwrs Llythrennedd DA yn rhoi’r hanfodion i chi:
Y rheolau y mae angen i chi eu dilyn
Y moeseg sy’n sail i ddefnydd cyfrifol
Sut i gloriannu cynnyrch DA yn feirniadol
Awgrymiadau ar gyfer defnyddio DA yn effeithiol yn eich astudiaethau
A lle mewn gwirionedd mae terfynau defnyddioldeb DA
Os ydych chi’n chwilfrydig am DA, yn bwyllog, neu am osgoi mynd i drafferthion, y cwrs yma yw eich canllaw i ddefnyddio DA yn gyfrifol, yn foesegol ac yn ddiogel yn y brifysgol.
Mae’r holl fyfyrwyr a staff wedi’u cofrestru ar y Cwrs Llythrennedd DA. Mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Ewch i www.blackboard.aber.ac.uk ac mae wedi’i gynnwys yn yr adran Mudiadau.