Eich Llyfrgellwyr Pwnc: Rhowch Hwb i’ch Astudiaethau gydag Arf Cyfrinachol y Llyfrgell!

Croeso (nôl) i’r Brifysgol! P’un a ydych yn fyfyriwr newydd neu’n dychwelyd am flwyddyn arall, mae eich Llyfrgellydd Pwnc yma i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar adnoddau’r llyfrgell yn Aberystwyth.

Mae gan bob adran lyfrgellydd pwnc (gellir dod o hyd i restr ohonynt yma)

Dyma rai o’r pethau y gallant eich helpu â hwy:

Dysgu eich ffordd o amgylch y llyfrgell.

Mynd i’r afael â chatalog y llyfrgell (Primo) gan gynnwys:

  • Dod o hyd i lyfrau ac erthyglau: Cael cymorth i ddod o hyd i lyfrau, erthyglau mewn cyfnodolion, a deunyddiau eraill ar gyfer eich gwaith.
  • Defnyddio Cronfeydd Data: Dysgu sut i lywio cronfeydd data academaidd i ddod o hyd i wybodaeth o safon uchel.

Deall sut i werthuso’r wybodaeth yr ydych chi’n dod o hyd iddi a sut i adnabod camwybodaeth bosibl.

Dysgu sut i gyfeirnodi a dyfynnu eich ffynonellau yn gywir mewn gwahanol arddulliau (APA, Harvard, MLA, ac ati)

Gallwch drefnu cyfarfod un-i-un gyda’ch llyfrgellydd yma, neu fel rheol bydd un o’r tîm ar ddesg Llawr F ar lawr uchaf Llyfrgell Hugh Owen rhwng 10yb a 5yp.

Am fwy o wybodaeth am wasanaethau’r llyfrgell gweler ein Canllawiau Llyfrgell yma.

Peidiwch â meddwl ein bod wedi anghofio am athrawon neu ymchwilwyr. Cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc gydag unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’r llyfrgell ac fe wnawn ein gorau i’ch helpu. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am ein Canllaw Llyfrgell i Athrawon yma, a’n Canllaw Llyfrgell i Ymchwilwyr yma.

DA a’r Llyfrgell – Wythnos dau. Adolygiad Offeryn: ChatGPT

Y dyddiau hyn mae’n teimlo fel na all munud basio heb i rywun sôn am Ddeallusrwydd Artiffisial. Mae fel pe bai wedi bod yn rhan o’n bywydau bob dydd erioed! Ond credwch neu beidio, dim ond ers tua 18 mis y mae ChatGPT OpenAI wedi ymddangos a chychwyn y chwyldro DA (neu’r holl chwiw DA, gan ddibynnu ar eich safbwynt!)

Pa bynnag derm sydd orau gennych, ni fydd DA yn diflannu yn fuan, felly yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn yn ystyried rhai o’r offer DA cynhyrchiol mwyaf poblogaidd. Byddwn yn adolygu rhai o’u nodweddion, yn trafod eu cyfyngiadau, ac yn darparu ychydig o awgrymiadau cyflym ar sut i’w defnyddio’n effeithiol.

Gan mai ChatGPT oedd yr offer DA cynhyrchiol cyntaf i ddal dychymyg pobl, beth am edrych yn agosach ar yr hyn y gall ei wneud, a sut y gallwch chi fanteisio i’r eithaf arno.

Fel y mae’r enw’n awgrymu, mae ChatGPT (yn yr un modd â nifer o’r offer DA y byddwn yn edrych arnynt yn y gyfres hon) wedi’i gynllunio ar gyfer sgwrsio. Mae ei ryngwyneb syml yn galluogi defnyddwyr i ryngweithio ag offer DA sydd wedi’i hyfforddi ar lawer iawn o ddata. Mae’r hyfforddiant hwn yn caniatáu iddo gynhyrchu ymatebion tebyg i ymatebion pobl i ysgogiadau (gall ysgogiad fod yn gwestiwn, yn ddatganiad, neu’n orchymyn sy’n llywio’r DA i gynhyrchu ymateb.) Am fwy o wybodaeth, ewch i’n Canllaw DA.

Dyma edrych yn agosach ar yr hyn y gall ChatGPT (ac offer DA eraill) ei wneud:

  • Ateb cwestiynau: Gall ChatGPT ddarparu gwybodaeth ac esboniadau ar amrywiaeth o bynciau, gan ei wneud yn adnodd defnyddiol ar gyfer dysgu.
  • Cynhyrchu Cynnwys Ysgrifenedig: Mae ChatGPT yn wych ar gyfer goresgyn rhwystrau awdur (writer’s block) ac ar gyfer gwirio eich ysgrifennu o ran gramadeg, sillafu, eglurder, ac arddull.
  • Crynhoi Gwybodaeth: Gall gymryd testunau hir a’u cyddwyso i grynodebau byrrach, gan eich helpu i amgyffred y prif bwyntiau’n gyflym.
  • Cyfieithu Ieithoedd: Gall ChatGPT gyfieithu testun o un iaith i’r llall, gan ei gwneud hi’n haws i bobl gyfathrebu a deall ei gilydd.
  • Cymryd rhan mewn sgyrsiau: Gall yr offer efelychu sgyrsiau, gan ei gwneud hi’n ffordd hwyliog o ymarfer sgiliau iaith, paratoi ar gyfer cyfweliad swydd, neu gael sgwrs gyfeillgar.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gall offer DA megis ChatGPT ei wneud, ewch i’n Canllaw DA.

Gall defnyddio ChatGPT fod yn ddefnyddiol (ac yn hwyl!) ond cofiwch fod yna anfanteision i’w ddefnyddio hefyd.

Er enghraifft:

  • Gwybodaeth gamarweiniol: Gall ChatGPT weithiau ddarparu atebion anghywir, hen neu ragfarnllyd, a allai effeithio ar ansawdd eich gwaith neu eich dealltwriaeth.
  • Gor-ddibyniaeth ar dechnoleg: Gall dibynnu gormod ar ChatGPT lesteirio meddwl beirniadol a chreadigrwydd, gan y gallai defnyddwyr ddibynnu arno am atebion yn hytrach na datblygu eu syniadau eu hunain.
  • Risgiau Llên-ladrad: Gall myfyrwyr ddefnyddio DA i gynhyrchu cynnwys nad yw’n eiddo iddynt hwy, gan arwain at broblemau llên-ladrad.

I gael rhagor o wybodaeth am anfanteision defnyddio offer DA megis ChatGPT, ewch i’n Canllaw DA.

 

Awgrymiadau Da ar gyfer Defnyddio Chat GPT:

  • Byddwch yn glir ac yn benodol: Pan fyddwch chi’n gofyn cwestiwn i ChatGPT neu’n rhoi tasg iddo, byddwch mor glir a manwl â phosibl. Po fwyaf penodol ydych chi, gorau oll y gall y DA ddeall yr hyn sydd ei angen arnoch a darparu ymateb perthnasol.
  • Dechreuwch yn syml: Dechreuwch gyda cheisiadau syml. Os oes gennych gwestiwn neu dasg gymhleth, torrwch hwy i lawr i rannau llai. Mae hyn yn helpu ChatGPT i ganolbwyntio ar un peth ar y tro, gan arwain at atebion gwell.
  • Defnyddiwch gwestiynau dilynol: Gall ChatGPT gynnal cyd-destun sgwrs felly peidiwch ag oedi cyn gofyn cwestiynau dilynol neu roi manylion ychwanegol ar ôl yr ymateb cychwynnol. Mae hyn yn eich galluogi i fireinio’r sgwrs a chael gwybodaeth fwy cywir neu wedi’i theilwra.

I gael rhagor o wybodaeth am y ddefnyddio ChatGPT yn effeithiol, ewch i’n Canllaw DA.

Ychydig o gafeatau:

  • Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn cymeradwyo unrhyw un o’r offer DA hyn ar hyn o bryd.
  • Rhaid i chi ddilyn y canllawiau ar ddefnyddio DA a gyhoeddir gan eich adran (lle bônt ar gael)

Yn ein blog nesaf: byddwn yn edrych ar beirianneg ysgogiadau, a byddwn yn rhannu rhai awgrymiadau gwerthfawr ar sut y gall dylunio ysgogiadau effeithiol wella cywirdeb a pherthnasedd allbynnau DA.

SgiliauAber. Eich hyb sgiliau chi

Ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau ysgrifennu academaidd, dysgu am y llyfrgell a’i hadnoddau, mynd i’r afael â chyfeirio, neu wella eich sgiliau cyflogadwyedd?

Newyddion da! Mae’r pynciau hyn a mwy yn cael sylw yn rhaglen Semester 1 SgiliauAber, sydd ar gael am ddim i bob myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cynhelir Gweithdai SgiliauAber drwy gydol y flwyddyn academaidd ac maent yn gymysgedd o sesiynau wyneb yn wyneb a sesiynau ar-lein. Mae’r rhan fwyaf o’r sesiynau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Cewch weld rhestr o’r holl weithdai ar wefan SgiliauAber. Ewch draw i weld beth sydd ar gael ac archebwch eich lle gyda chlic.

Os byddwch yn colli sesiwn ac eisiau dal i fyny, mae deunyddiau addysgu’r gweithdai sgiliau academaidd a llyfrgell ar gyfer 2023-2024 ar gael ar Blackboard o dan Mudiadau. Bydd deunyddiau addysgu’r gweithdai 2024-2025 yn cael eu llwytho yn fuan ar ôl y sesiynau.

DA a’r Llyfrgell – Wythnos Un. Ein Canllaw a’n Cyfres Blogbost Newydd

Mae’r tîm o Lyfrgellwyr Pwnc wedi bod yn gweithio’n galed dros yr “haf” (os gallwn ni ei alw’n haf gyda’r holl law!) i ddod â Chanllaw diweddaredig i chi sy’n amlinellu sut y gallwch ddefnyddio DA i fanteisio i’r eithaf ar adnoddau’r llyfrgell.

Sgrinlun o’r Canllaw DA a’r Llyfrgell newydd

Mae’r Canllaw yn cynnig cyngor ar:

  • Sut y gallwch ddefnyddio DA.
  • Rhai o’r offer DA a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
  • Manteision defnyddio DA dros beiriannau chwilio traddodiadol.
  • Defnydd priodol a moesegol o offer DA.
  • Adeiladu anogwyr yn effeithiol.
  • Rhai o’r risgiau posibl o ddefnyddio DA (gan gynnwys materion sy’n ymwneud â thorri hawlfraint, rhagfarn a diogelu data).
  • Effaith DA ar uniondeb academaidd

Gellir gweld Dolenni i’r Canllaw yma:

Fel cydymaith i’r Canllaw, rydym yn mynd i gynnig cyfres o bostiadau blog a fydd yn edrych ar y cyngor a roddir yn y canllaw yn fanylach ac yn cynnig rhai awgrymiadau ymarferol ar gyfer defnyddio DA.

Dyma gipolwg o’r hyn y gallwch ei ddisgwyl yn ystod yr wythnosau nesaf:

  • Adolygiadau o offer DA.
  • Cyngor ymarferol ar adeiladu anogwyr effeithiol.
  • Datblygu chwiliadau allweddair clyfar.
  • Darganfod adnoddau sy’n gysylltiedig â’ch maes astudio.
  • Gwerthuso allbynnau DA trwy gymhwyso’r prawf CCAPP.
  • Risgiau defnyddio DA.

Gobeithiwn y bydd y Canllaw a’r gyfres o bostiadau blog yn ddefnyddiol. Mae’n bwysig pwysleisio serch hynny ei bod hi’n rhaid i chi ddilyn y canllawiau ar ddefnyddio DA a gyhoeddir gan eich adran (lle bônt ar gael).