Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein hadnodd newydd i Chwilio am Gronfeydd Data ar Primo – catalog y llyfrgell. Mae wedi cael ei gyflwyno yn lle’r dudalen A-Y o Adnoddau Electronig.
Mae ein tudalen newydd ‘Chwiliad Cronfeydd Data’ yn rhan o brif adnodd chwilio’r llyfrgell a gellir ei gweld ar frig Primo, felly nid oes angen ichi gofio unrhyw gyfeiriadau gwe ar wahân.
Mae’r adnodd newydd i Chwilio am Gronfeydd Data wedi’i rannu’n bynciau gwahanol felly gallwch bori drwy’r adnoddau sy’n berthnasol i’ch cwrs chi. Neu gallwch chwilio yn ôl termau allweddol a chywain canlyniadau o’r casgliad cyfan.
Ceir disgrifiad byr o bob adnodd fel y gallwch archwilio sut y gallent fod o fudd i’ch astudiaethau.
Estyniad porwr gwe i’w lawrlwytho yw LibKey Nomad. Mae’n darparu dolenni at erthyglau o gyfnodolion y mae eich llyfrgell yn tanysgrifio iddynt yn awtomatig. Bydd mynediad un-clic LibKey Nomad at erthyglau sy’n cael eu cyfeirnodi ar wefannau ysgolheigaidd a pheiriannau chwilio yn gwneud eich ymchwil a dod o hyd i ffynonellau yn gyflymach ac yn haws o lawer.
Mae LibKey Nomad yn hawdd i’w ddefnyddio. Ewch i’r dudalen lawrlwytho ac ychwanegwch yr estyniad at eich porwr o ddewis. Ar ôl ei osod, bydd gofyn ichi ddewis eich sefydliad. Dewiswch Prifysgol Aberystwyth a bydd LibKey Nomad yn rhoi gwybod ichi am erthyglau sydd ar gael trwy’r llyfrgell lle bynnag y byddwch chi’n crwydro ar-lein.
Bydd LibKey Nomad hefyd yn cyfoethogi eich profiad ar safleoedd poblogaidd fel PubMed, Wikipedia, Scopus, Web of Science a mwy.
Cymhariaeth
Dyma enghraifft o restr gyfeirnodau ar Wikipedia cyn i LibKey Nomad gael ei osod ac ar ôl ei osod (sgroliwch ar draws i gymharu):
Gallwch weld bod LibKey Nomad yn ychwanegu dolen at yr erthygl os oes mynediad gan y llyfrgell. Mae clicio ar y ddolen yn mynd â chi’n uniongyrchol i’r ffynhonnell.
Dysgwch ragor am LibKey Nomad yn y fideo isod:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth am LibKey Nomad, anfonwch e-bost atom ar llyfrgellwyr@aber.ac.uk. Fel bob amser, os oes angen help arnoch i ddod o hyd i adnoddau ar gyfer eich astudiaethau, cysylltwch â’ch Llyfrgellydd Pwnc.
Mae BrowZine yn ffordd newydd o bori a chwilio miloedd o gyfnodolion electronig sydd ar gael i chi fel aelod o Brifysgol Aberystwyth.
Tudalen hafan BrowZine
Gan ddefnyddio BrowZine gallwch:
Pori neu chwilio yn ôl maes pwnc i ddod o hyd i e-gyfnodolion o ddiddordeb
Chwilio am deitl penodol
Creu eich silff lyfrau eich hun o’ch hoff e-gyfnodolion a’u trefnu sut y dymunwch
Dilyn eich hoff deitlau a derbyn hysbysiadau pan fydd rhifyn newydd yn cael ei gyhoeddi
Cadw erthyglau yn eich llyfrgell bersonol a fydd yn cysoni ar draws eich dyfeisiau
Gallwch ddefnyddio BrowZine ar eich cyfrifiadur, neu lawrlwythwch yr ap i’w ddefnyddio ar ddyfais Android neu Apple. Bydd BrowZine yn cysoni ar draws sawl dyfais fel y gallwch chi ddarllen eich e-gyfnodolion lle bynnag y byddwch.
Dewch o hyd iddo ar Primo, catalog y llyfrgell, drwy glicio ar y botwm Chwiliad e-gyfnodolion ar frig y dudalen neu lawrlwythwch yr ap o’ch siop apiau.
Thema Wythnos Llyfrgelloedd eleni yw’r rhan ganolog sydd gan lyfrgelloedd yn cefnogi dysgu gydol oes.
Heddiw, rydym yn canolbwyntio ar ein myfyrwyr Dysgu Gydol Oes a’n defnyddwyr allanol.
Dysgu Gydol Oes
Ein canllaw Dysgu Gydol Oes yw eich canllaw cyflawn i’r llyfrgell a’r adnoddau dysgu ar gyfer eich pynciau. Yma cewch fanylion am adnoddau allweddol a chanllawiau ar sut i ddefnyddio’r llyfrgell a chysylltiadau cymorth.
Casgliad Astudio Effeithiol Mae’r Casgliad Astudio Effeithiol wedi’i gynllunio i’ch helpu chi astudio. Mae’n ymdrin â phynciau fel sut i wneud ymchwil a sut i astudio, sgiliau ysgrifennu, ysgrifennu academaidd, defnyddio’r Saesneg, rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a rhai canllawiau cyffredinol ynglŷn ag ymchwil ac astudio ym maes y celfyddydau.
Os ydych yn dychwelyd i fyd addsyg ar ôl seibiant, mynnwch olwg.
Mannau astudio a chyfleusterau TG yn y llyfrgell Peidiwch anghofio y gall myfyrwyr Dysgu Gydol Oes ddefnyddio holl gyfleusterau’r llyfrgell megis mannau astudio tawel, cyfrifiaduron, Wi-Fi ardderchog, a’r argraffwyr / copïwyr. Porwch yr A i Y o Wasanaethau’r Llyfrgell yma.
Y Casgliad Celtaidd Mae’r Casgliad Celtaidd yn cynnwys tua 25,000 o lyfrau yn ymwneud â Llydaw, Cernyw, Ynys Manaw, Iwerddon, yr Alban a Chymru. Mae’r casgliad yn cynnwys deunydd ar bob pwnc sy’n ymwneud â’r gwledydd Celtaidd, ac mae’n adnodd bendigedig i ymchwilwyr a selogion.
Dysgu Cymraeg neu am wella eich sgiliau? Dewch chi o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch i ymarfer a datblygu’ch sgiliau darllen a siarad yn y casgliad hwn – o nofelau graddedig gyda geirfa i wers-lyfrau.
Dewch o hyd i’r casgliad ar Lefel F, Llyfrgell Hugh Owen:
Rhai o adnoddau dysgu Cymraeg yn y Casgliad Celtaidd
Digimap Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu data mapiau Arolwg Ordnans llawn a chynhwysfawr a mapiau hanesyddol yn ogystal â data daearegol. Mae Digimap yn adnodd hudol ac yn ddefnyddiol tu hwnt i ymchwilwyr hanes lleol a Gwyddorau Daear fel ei gilydd. Yr unig beth sydd angen arnoch yw cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth i gofrestru i’w weld.
Linkedin Learning Caiff holl fyfyrwyr ddefnyddio’r cyfoeth o gyrsiau gan arbenigwyr sydd ar gael ar-lein am ddim ac yn ddiderfyn 24/7 trwyLinkedin Learning.
Dyma ddetholiad o gyrsiau ddewiswyd gan ein Pencampwr Digidol Myfyrwyr, Urvashi Verma, a allai fod o ddefnydd i fyfyrwyrDysgu Gydol Oes
Casgliad Dysgu Gydol Oes Casgliad o gyrsiau a fideos byrion i’ch helpu chi ddatbygu’ch sgiliau astudio a rheoli’ch amser yn well.
Urvashi Verma
Defnyddwyr Allanol
Mae ein llyfrgelloedd yn croesawu gwahanol gategorïau o ddefnyddwyr allanol, o gyn-fyfyrwyr ac aelodau o staff sydd wedi ymddeol ac sy’n awyddus i ddal i ddefnyddio adnoddau’r llyfrgell, myfyrwyr o sefydliadau eraill sy’n ymweld ag Aber ac angen lle i astudio neu drigolion lleol.
Casgliadau Arbennig Gall Ddefnyddwyr Allanol wneud cais i ddefnyddio cyfleusterau TG a mannau astudio’r llyfrgell ac hefyd drefnu i weld eitemau hardd yn einCasgliadau Arbennig.
Thema Wythnos Llyfrgelloedd eleni ydy’r rhan ganolog sydd gan lyfrgelloedd yn cefnogi dysgu gydol oes.
Heddiw byddwn yn canolbwyntio ar holl staff Prifysgol Aberystwyth a rhai o adnoddau’r llyfrgell sy’n cynorthwyo unigolion i ddatgloi a chyflawni eu potensial ar bob cam o’u bywydau a’u gyrfaoedd.
Gale OneFile News Gallwch weld y newyddion ar-lein, gan gynnwys gweisg masnachol proffesiynol. Mae Newyddion Gale OneFile yn caniatáu ichi chwilota drwy 2,300 o bapurau newydd mawr, gan gynnwys miloedd o ddelweddau, darllediadau radio a theledu a thrawsgrifiadau.
Digimap Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu data mapiau Arolwg Ordnans llawn a chynhwysfawr a mapiau hanesyddol yn ogystal â data daearegol. Adnodd hynod ddefnyddiol a difyr yw Digimap, a fydd yn diddanu ymchwilwyr hanes lleol a phobl sy’n ymwneud â’r Gwyddorau Daear fel ei gilydd. Yr unig beth sydd angen arnoch yw cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth i gofrestru i ddefnyddio’r adnodd.
Box of Broadcasts Ydych chi’n gwneud rhywfaint o ymchwil? Mae Box of Broadcasts (BoB) yn wasanaeth teledu a radio ar alw i staff a myfyrwyr at ddefnydd academiadd, sy’n cynnig mynediad at ddwy filiwn o ddarllediadau o dros 65 o sianeli teledu am ddim. Erbyn hyn mae BoB hefyd yn cynnwys archif y BBC, sef rhaglenni radio a theledu hanesyddol.
Y Weithfan Ystafell astudio 24 awr yw’r Weithfan, sydd yn darparu cyfrifiaduron, peiriannau argraffu, WiFi, ac ystafell astudio i grwpiau / ystafell gyfarfod i fyfyrwyr a staff PA. Dewch o hyd i’r Weithfan wrth ymyl y Wetherspoons ger gorsaf drenau Aberystwyth a dewch â’ch Cerdyn Aber i gael mynediad.
Gwasanaethau Gyrfaoedd i holl staff PA A wyddoch y gall aelodau staff Prifysgol Aberystwyth hefyd fanteisio ar wasanaethau gyrfaoedd arbenigol y Brifysgol? Ewch draw i’n Canllaw Cyflogadwyeddi ddechrau arni.
Darllen er pleser Mae gan y llyfrgell gasgliadau sylweddol o ffuglen, llyfrau ffeithiol a barddoniaeth ar gyfer darllen er pleser. Porwch ein casgliad Ffuglen Gyfoes wrth ymyl y Ddesg Ymholiadau ar Lefel F neu ewch at y silffoedd o’r nod dosbarth PN (neu catalog y llyfrgell, Primo).
Casgliad Ffuglen Gyfoes
Y Casgliad Celtaidd Os ydych yn chwilio am nofel, barddoniaeth, llyfr hanes neu lyfrau i’ch helpu ddysgu neu loywi’ch Cymraeg, cofiwch fod miloedd o lyfrau Cymraeg ar bob pwnc dan haul yn y Casgliad Celtaidd. Mae’r casgliad yn cynnwys cannoedd o lyfrau i’ch helpu i ddatblygu eich Cymraeg, o gyrsiau iaith cyflawn a llyfrau gramadeg i ffuglen gyda geirfa ddefnyddiol. Dewch o hyd i’r casgliad ar Lefel F.
Casgliad Astudio Effeithiol Efallai y bydd ambell deitl yn ein Casgliad Astudio Effeithiol o ddefnydd ichi wrth ddatblygu’ch sgiliau astudio neu’ch sgiliau proffesiynol, megis sgiliau cyflwyno neu ymchwil.
Linkedin Learning Gall pob myfyriwr ac aelod o staff PA ddefnyddio’r cyfoeth o gyrsiau sydd ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim ac sydd wedi’u harwain gan arbenigwyr trwy Linkedin Learning.
Dyma ddetholiad bach o gyrsiau a allai fod yn ddefnyddiol i staff PA a grëwyd gan Jeffrey Clark, Pencampwr Digidol Myfyrwyr:
Casgliad Datblygiad Personol a Phroffesiynol– Mae’r casgliad hwn yn cynnwys cyfres o gyrsiau sydd wedi’u cynllunio i gynorthwyo aelodau o staff i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol a phersonol.
Cameron Garty ‘Oxidative Heterodimerisation Of 4’- Hydroxycinnamate Esters With 4’-Hydroxycinnamic Acids As Potential HIV-1 Integrase Inhibitors And Identification Of Two Novel Homoisoflavonoids With Anti-cancer Potential’ http://hdl.handle.net/2160/6f2a9a52-4d49-4af7-8155-f4ac7d92d781
Paratowyd y modiwl Aseiniadau: O Adnoddau i Gyfeirnodau gan y Llyfrgellwyr Pwnc yn y Brifysgol i ddatblygu sgiliau llythrennedd gwybodaeth allweddol sy’n hanfodol ar gyfer astudiaeth academaidd – o ddod o hyd i ddeunyddiau academaidd o safon uchel i ddyfynnu adnoddau’n gywir yn eich aseiniadau. Mae’r modiwl ar gael ar Blackboard i bob myfyriwr.
Ar hyn o bryd mae’r modiwl yn cynnwys tair adran:
Canllaw y Llyfrgell a TG
• Darparu popeth y mae angen i chi ei wybod am ddechrau arni gyda gwasanaethau a chasgliadau llyfrgell.
• Cwis i ymarfer defnyddio adnoddau’r llyfrgell.
Cyfeirnodi ac ymwybyddiaeth Llên-ladrad
• Eich helpu i ddeall pwysigrwydd cyfeirnodi cywir; sut i greu dyfyniadau a chyfeiriadau cywir; sut i reoli eich dyfyniadau gan ddefnyddio offer meddalwedd cyfeirnodi a sut i ddehongli eich Adroddiad Tebygrwydd Turnitin.
• Mae’r canllaw hwn yn cynnwys cwis sy’n eich galluogi i ymarfer y sgiliau yr ydych wedi’u dysgu gan ddefnyddio’r dull cyfeirio penodol a bennwyd gan eich adran
Llythrennedd Newyddion a’r Cyfryngau
• Mae’r canllaw hwn yn helpu i ddatblygu sgiliau hanfodol wrth werthuso’r wybodaeth a ddefnyddiwn ar-lein. Byddwch yn dysgu sut i ddiffinio cysyniadau allweddol megis rhyddid i lefaru, camwybodaeth, twyllwybodaeth a sensoriaeth; deall cysyniadau dethol a rhagfarn yn y cyfryngau a sut i adnabod newyddion ffug.
• Mae’r canllaw hwn yn cynnwys cwis sy’n eich galluogi i brofi’r wybodaeth yr ydych wedi’i chael.
Bydd canllawiau a chwisiau pellach yn cael eu hychwanegu at y modiwl yn y dyfodol.
Os oes angen arweiniad arnoch wrth ddefnyddio’r modiwl, os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddefnyddio casgliadau a gwasanaethau’r llyfrgell neu os oes gennych unrhyw adborth, cysylltwch â: llyfrgellwyr@aber.ac.uk / 01970 621896