Cyfarchion yr ŵyl!

Cyfarchion yr ŵyl i holl gwsmeriaid Llyfrgelloedd y Brifysgol oddi wrth y tîm Cysylltiadau Academaidd.
Dyma ychydig o uchafbwyntiau i’w rhannu o flwyddyn orlawn

Ceir hyd i ystadegau defnyddio a rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau llyfrgell yr ydym yn eu darparu, gan gynnwys addysgu Llythrennedd Gwybodaeth a chymorth un-i-un, Digideiddio, SgiliauAber, Rhestrau Darllen Aspire, Canllawiau Llyfrgell a Sgiliau Digidol yng Nghynllun Gweithredu’r Llyfrgell 2024-2025.

Na, rwyt ti’n wych, neu Pam mai Deallusrwydd Artiffisial yw fy Edmygwr Mwyaf Brwd.

Mae’r rhan fwyaf o systemau Deallusrwydd Artiffisial (DA) wedi’u hyfforddi i fod yn gymwynasgar, cwrtais a dymunol, doed a ddelo. Mae hynny’n wych pan fyddwch chi’n gofyn am rysáit hawdd am lasagna neu’n chwilio am ‘bawen lawen’ rithiol ar ôl i chi redeg 5K yn nannedd y gwynt a’r glaw. Bydd bob amser “Da iawn!” yn aros amdanoch yn y blwch sgwrsio. Mae’n rhyw fath o sticer seren aur ddigidol ar eich cerdyn adroddiad oedolyn, yn cadarnhau’ch bod chi’n hollol anhygoel am yr holl ‘fod-yn-oedolyn’ beth.
Ond fe ddaw adeg pan ddechreuwch deimlo bod y DA wedi mynd yn rhyw fath o ffan eithafol ohonoch chi. Mae pob un o’ch cwestiynau’n “ardderchog,” pob un sylw yn “ddeallus,” a’ch dewisiadau’n “berffaith” (er, rhaid cyfaddef, nad oedd y streipiau llorweddol ar fy ffigwr braidd yn “arwrol” yn hollol berffaith, mewn gwirionedd. Beth yn y byd ddaeth dros dy ben, DA?!).

 

 

 

Mae’r seboni sy’n dod o Ddeallusrwydd Artiffisial yn gallu bod yn rhyfeddol o swynol. Mae clywed “Na, rwyt ti’n wych” yn gallu rhoi dogn o serotonin i chi, a’r hwb roedd ei wir angen arnoch. Ond y tu ôl i’r cadarnhad cyfeillgar hwnnw, mae’n bosib bod rhywbeth mwy tywyll yn llechu; pan fo peiriannau wedi’u cynllunio i’n plesio, fe allwn yn hawdd gamgymryd y cytuno hwnnw am gywirdeb.
A dyna le mae pethau’n mynd yn draed moch. Os aiff pethau o sgwrsio am siwmperi (neu am gathod fel arglwyddi newydd arnom) i bethau sydd angen eu cymryd o ddifri, boed hynny’n wleidyddiaeth, iechyd neu’r newyddion, mae’r un awydd i gytuno yn gallu arwain at ledaenu camwybodaeth. Nid yw DA wedi’i lunio i ddadlau; mae wedi’i lunio i’n cadw ni’n hapus. Nid y gwirionedd mo’i nod, ond bodlonrwydd. Ac rydyn ni, bodau dynol, wrth ein bodd pan gytunir â ni, yn enwedig gan beiriannau sy’n ein canmol ni fel ffrindiau gor-frwd.
A’r canlyniad? Siambr atseinio gyfeillgar fach sy’n ein gwenieithu nes ein bod ni’n teimlo’n fwyfwy clyfar wrth i’n galluoedd meddwl yn feirniadol ar yr un pryd fynd yn wannach. Os yw popeth a wnawn yn hollol wych, efallai y dechreuwn ddrysu rhwng cadarnhad a dealltwriaeth, boed hynny’n perthyn i ni neu’r Deallusrwydd Artiffisial.
Rwy’n deall, mae’n braf cael eich clodfori. Ond mae’n rhaid gwthio heibio iddo weithiau a chraffu’n fanwl ar yr hyn mae’r DA yn ei gynnig i ni. Meddyliwch amdani fel coginio’r lasagna hwnnw gyda ffrind cwrtais a chymwynasgar iawn sy’n dweud, “Perffaith!” drwy’r amser. Weithiau, mae angen i chi ei flasu’ch hunan er mwyn cael gwybod a ydyw’n dda mewn gwirionedd.

DA @ PA

DA @ PA? Rhowch gynnig ar ein Cwrs Llythrennedd DA newydd.

Mae defnyddio DA yn fedrus yn golygu mwy na chael atebion cyflym.  Mae’n golygu meddwl yn feirniadol am y cynnyrch, gwirio ffeithiau, a chadw o fewn y rheolau o ran uniondeb academaidd.

 

 

 

 

 

Mae ein Cwrs Llythrennedd DA yn rhoi’r hanfodion i chi:

  • Y rheolau y mae angen i chi eu dilyn
  • Y moeseg sy’n sail i ddefnydd cyfrifol
  • Sut i gloriannu cynnyrch DA yn feirniadol
  • Awgrymiadau ar gyfer defnyddio DA yn effeithiol yn eich astudiaethau
  • A lle mewn gwirionedd mae terfynau defnyddioldeb DA 

Os ydych chi’n chwilfrydig am DA, yn bwyllog, neu am osgoi mynd i drafferthion, y cwrs yma yw eich canllaw i ddefnyddio DA yn gyfrifol, yn foesegol ac yn ddiogel yn y brifysgol.  

Mae’r holl fyfyrwyr a staff wedi’u cofrestru ar y Cwrs Llythrennedd DA.  Mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg.  Ewch i www.blackboard.aber.ac.uk ac mae wedi’i gynnwys yn yr adran Mudiadau.

Camwybodaeth (a Chwningod!)

Ydych chi’n cofio’r darn o ffilm o gamera golwg-nos a oedd yn boblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar, yr un sy’n dangos gang o gwningod yn neidio ar drampolîn? Roedd yn wych, yn doedd?

Yr unig broblem? Roedd yn ffug (fel y llun yma).

Er mai tipyn o hwyl yn unig oedd y ffilm o’r cwningod yn neidio ac roedd (i ddyfynnu’r diweddar Douglas Adams) yn ddiniwed yn bennaf, mae’n tynnu sylw at ba mor argyhoeddiadol y gall fideos a gynhyrchir gan DA fod, a pha mor gyflym y gallant ledaenu ledled y byd. Cofiwch, er na ddywedodd Mark Twain, “Gall celwydd deithio o amgylch y byd cyn i’r gwirionedd wisgo ei esgidiau,” mae’n dal i fod yn ddyfyniad gwych (ac oes, mae yna rywfaint o eironi mewn defnyddio llinell a gambriodolwyd mewn blog am gamwybodaeth, ond mae hynny’n dangos pa mor ofalus y mae angen i ni i gyd fod gyda’r hyn rydyn ni’n ei ddarllen ar-lein). Mae’r teimlad yn dal i gael ergyd, yn enwedig mewn oes lle gall cynnwys a gynhyrchir gan DA ledaenu’n gyflymach nag erioed ac edrych yn frawychus o real.

Mae’r darn o ffilm gyda’r cwningod yn enghraifft hwyliog, ond mae’n codi pwynt difrifol: mewn byd lle gall unrhyw un greu cynnwys sy’n edrych yn realistig gydag ambell glic, sut ydych chi’n gwybod beth sy’n real neu ddim? A beth mae hyn yn ei olygu i chi fel myfyriwr, yn enwedig pan fyddwch chi’n ymchwilio, ysgrifennu aseiniadau, neu sgrolio trwy’ch ffrwd?

Dyma lle gall eich llyfrgell wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Gall llywio byd o gynnwys a chamwybodaeth a gynhyrchir gan DA deimlo fel tasg amhosibl bron, ond nid oes raid i chi wneud hyn ar eich pen eich hun. Mae’r llyfrgell yma i gynnig cefnogaeth. P’un a ydych chi’n gweithio ar aseiniad, yn paratoi cyflwyniad, neu’n ceisio gwneud synnwyr o’r hyn sy’n real neu ddim ar-lein, gall staff y llyfrgell eich helpu i ddatblygu’r sgiliau beirniadol sydd eu hangen i werthuso gwybodaeth yn effeithiol.

I’ch helpu i lywio hyn i gyd, rydym wedi llunio Cwrs Llythrennedd DA pwrpasol, sydd ar gael yn yr adran Mudiadau ar Blackboard. Rydym hefyd wedi creu canllaw defnyddiol ar adnabod Newyddion ffug a chamwybodaeth. Mae canllaw arall yn esbonio sut mae offer DA yn gweithio a sut i werthuso gwybodaeth gan ddefnyddio’r enw gwych Prawf CRAAP, sy’n ddefnyddiol p’un a ydych chi’n defnyddio llyfrau, peiriannau chwilio, neu offer DA.

Mae’r holl adnoddau ar-lein hyn wedi’u cynllunio i’ch helpu i ddod yn ymchwilydd mwy hyderus a chraff. A chofiwch, os ydych chi’n ansicr ynghylch pa mor ddibynadwy yw rhywbeth, neu eisiau ail farn, gallwch bob amser ofyn i ni am gyngor. Rydyn ni yma i helpu.