Mae rhestrau darllen gwag yn cael eu creu yn Aspire ar gyfer modiwlau newydd a’r rhai sy’n dychwelyd sydd angen rhestrau. Pan fyddwch wedi ychwanegu rhywfaint o gynnwys at eich rhestr ddarllen, caiff ei chysylltu â’r modiwl Blackboard priodol gan staff y Llyfrgell.
Wrth ddiweddaru cynnwys eich rhestr ddarllen Aspire ar gyfer y flwyddyn i ddod, gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru rhifyn 2024-2025 o’ch rhestr ddarllen. Os byddwch yn ychwanegu llyfrau at restrau darllen 2023-2024 ni fyddant yn cael eu prynu. Er gwybodaeth, bydd rhestrau darllen Aspire 2023-2024 yn parhau i fod ar gael ym modiwlau Blackboard 2023-2024 tan ddiwedd mis Awst ac yna byddant yn cael eu harchifo.
Rydym wedi lansio map a chanllaw llyfrgell newydd i’ch helpu i lywio eich ffordd o gwmpas Llyfrgell Hugh Owen a dod o hyd i’ch llyfrau ac adnoddau eraill ar y silffoedd.
Porwch y map ar-lein yn libraryfloormap.aber.ac.uk i ddarganfod lle mae popeth, i gael rhagor o wybodaeth am adnoddau a mannau’r llyfrgell ac i ymgyfarwyddo â’r cynllun llawr – peidiwch byth â mynd ar goll eto!
Mae Map Llawr y Llyfrgell hefyd wedi’i integreiddio â Primo, catalog y llyfrgell. Pan fyddwch yn edrych ar eitem yn Primo, cliciwch ar ddolen Map Llawr y Llyfrgell i agor y map a bydd lleoliad eich eitem yn cael ei amlygu.
Mae angen eich adborth arnom
Adnodd newydd yw Map Llawr y Llyfrgell felly rydym am ichi ddweud wrthym sut y gallem ei wneud mor ddefnyddiol â phosibl. Rhowch wybod inni yma neu drwy e-bostio adborth-gg@aber.ac.uk
Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein hadnodd newydd i Chwilio am Gronfeydd Data ar Primo – catalog y llyfrgell. Mae wedi cael ei gyflwyno yn lle’r dudalen A-Y o Adnoddau Electronig.
Mae ein tudalen newydd ‘Chwiliad Cronfeydd Data’ yn rhan o brif adnodd chwilio’r llyfrgell a gellir ei gweld ar frig Primo, felly nid oes angen ichi gofio unrhyw gyfeiriadau gwe ar wahân.
Mae’r adnodd newydd i Chwilio am Gronfeydd Data wedi’i rannu’n bynciau gwahanol felly gallwch bori drwy’r adnoddau sy’n berthnasol i’ch cwrs chi. Neu gallwch chwilio yn ôl termau allweddol a chywain canlyniadau o’r casgliad cyfan.
Ceir disgrifiad byr o bob adnodd fel y gallwch archwilio sut y gallent fod o fudd i’ch astudiaethau.
I ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae eleni, rydym yn rhannu blog gan ein blogiwr gwadd, Pencampwr Digidol Myfyrwyr, Laurie Stevenson, ac yn cael cip sydyn ar rai adnoddau llyfrgell i’ch helpu i ymarfer a datblygu eich sgiliau darllen a siarad Cymraeg.
Laurie Stevenson
Dw i’n dysgu Cymraeg!
Ar y 15fed o Hydref bydd hi’n Ddiwrnod Shwmae Su’mae, sy’n ddiwrnod o ddathlu a hyrwyddo’r Gymraeg. Felly roedd arna i eisiau manteisio ar y cyfle hwn fel un o Bencampwyr Digidol y Myfyrwyr i ddefnyddio’r blog i rannu fy mhrofiadau fy hun fel dysgwr Cymraeg.
Pam y gwnes i benderfynu cael gwersi Cymraeg?
Fe wnes i syrthio mewn cariad â Chymru o fewn dim imi symud yma ac roeddwn i’n gwybod ers cychwyn cyntaf fy nghwrs gradd bod arna i eisiau dysgu mwy am ddiwylliant Cymru a dysgu’r iaith fel ffordd o barchu’r diwylliant a theimlo fy mod i’n perthyn yma. Rwy’n mwynhau heriau deallusol ond wnes i erioed weld diben dysgu ieithoedd fel Ffrangeg neu Sbaeneg os nad oeddwn i am allu eu defnyddio mewn bywyd go iawn. Trwy gydol fy nyddiau ysgol, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd teimlo unrhyw fath o frwdfrydedd tuag at ddysgu ieithoedd fel yna. Ond pan gefais gyfle i ddysgu Cymraeg roeddwn i’n hynod o awyddus. Rydw i wrth fy modd yn gallu cynnal sgyrsiau syml ar y bws neu mewn siop neu gaffi ac rydw i wir yn mwynhau’r wên sy’n dod i wynebau pobl pan maen nhw’n sylweddoli fy mod i’n dysgu’r iaith.
Sut y gwnes i fynd ati i ddysgu Cymraeg?
Fe wnes i ofyn am wersi Cymraeg yn fy mlwyddyn gyntaf ond oherwydd Covid doedden nhw ddim yn cael eu cynnal. Ond pan es i i Ffair y Glas yn fy ail flwyddyn siaradais gyda rhywun ar stondin UMCA – Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth – a rhoi fy enw i lawr. Mae’r gwersi’n cael eu darparu gan dysgucymraeg.cymru ac fe ddechreuais i gyda’u cwrs blasu, gyda sesiynau awr o hyd bob wythnos. Eleni rydw i wedi symud ymlaen i’r cwrs lefel mynediad, sydd yn cael ei achredu, ac mae hwnnw’n ddwyawr yr wythnos. Rydw i hefyd yn defnyddio Duolingo i gyd-fynd â’r gwersi ac mae hynny’n help er mwyn cofio gwybodaeth rhwng y gwersi.
Pa adnoddau defnyddiol ydw i wedi dod o hyd iddynt ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Drwy UMCA y gwnes i ddod o hyd i’r cyrsiau, ac maen nhw hefyd yn cynnal digwyddiadau Cymraeg eu hiaith a digwyddiadau diwylliannol, ac yn rhoi cyfle i ddysgwyr gwrdd ac ymarfer eu Cymraeg gyda siaradwyr Cymraeg. Mae dolenni i’r cyrsiau ar gael ar wefan y Brifysgol hefyd, a dolenni i adnoddau ar-lein i’ch helpu wrth ichi ddysgu. Mae gan y llyfrgell adnoddau gwych hefyd, gan gynnwys llyfrau, geiriaduron a llyfrau o ymadroddion er mwyn dysgu’r iaith.
Laurie Stevenson
Dysgwch ragor am Laurie a gwaith y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr ar y Blog Galluoedd Digidol
Adnoddau Llyfrgell
Os ydych wedi cychwyn ar eich taith i ddysgu Cymraeg, yn meddwl am fentro, neu os ydych yn siaradwr Cymraeg ac am roi sglein ar eich sgiliau, mae gan y llyfrgell ystod eang o adnoddau defnyddiol.
Ewch i’r Casgliad Celtaidd ar Lefel F yn Llyfrgell Hugh Owen ac mi ddewch o hyd i filoedd o lyfrau i’ch helpu i ymarfer a datblygu eich sgiliau darllen a siarad – o nofelau gyda geirfa, i lyfrau gramadeg, i gyrsiau iaith cyflawn.