Camwybodaeth (a Chwningod!)

Ydych chi’n cofio’r darn o ffilm o gamera golwg-nos a oedd yn boblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar, yr un sy’n dangos gang o gwningod yn neidio ar drampolîn? Roedd yn wych, yn doedd?

Yr unig broblem? Roedd yn ffug (fel y llun yma).

Er mai tipyn o hwyl yn unig oedd y ffilm o’r cwningod yn neidio ac roedd (i ddyfynnu’r diweddar Douglas Adams) yn ddiniwed yn bennaf, mae’n tynnu sylw at ba mor argyhoeddiadol y gall fideos a gynhyrchir gan DA fod, a pha mor gyflym y gallant ledaenu ledled y byd. Cofiwch, er na ddywedodd Mark Twain, “Gall celwydd deithio o amgylch y byd cyn i’r gwirionedd wisgo ei esgidiau,” mae’n dal i fod yn ddyfyniad gwych (ac oes, mae yna rywfaint o eironi mewn defnyddio llinell a gambriodolwyd mewn blog am gamwybodaeth, ond mae hynny’n dangos pa mor ofalus y mae angen i ni i gyd fod gyda’r hyn rydyn ni’n ei ddarllen ar-lein). Mae’r teimlad yn dal i gael ergyd, yn enwedig mewn oes lle gall cynnwys a gynhyrchir gan DA ledaenu’n gyflymach nag erioed ac edrych yn frawychus o real.

Mae’r darn o ffilm gyda’r cwningod yn enghraifft hwyliog, ond mae’n codi pwynt difrifol: mewn byd lle gall unrhyw un greu cynnwys sy’n edrych yn realistig gydag ambell glic, sut ydych chi’n gwybod beth sy’n real neu ddim? A beth mae hyn yn ei olygu i chi fel myfyriwr, yn enwedig pan fyddwch chi’n ymchwilio, ysgrifennu aseiniadau, neu sgrolio trwy’ch ffrwd?

Dyma lle gall eich llyfrgell wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Gall llywio byd o gynnwys a chamwybodaeth a gynhyrchir gan DA deimlo fel tasg amhosibl bron, ond nid oes raid i chi wneud hyn ar eich pen eich hun. Mae’r llyfrgell yma i gynnig cefnogaeth. P’un a ydych chi’n gweithio ar aseiniad, yn paratoi cyflwyniad, neu’n ceisio gwneud synnwyr o’r hyn sy’n real neu ddim ar-lein, gall staff y llyfrgell eich helpu i ddatblygu’r sgiliau beirniadol sydd eu hangen i werthuso gwybodaeth yn effeithiol.

I’ch helpu i lywio hyn i gyd, rydym wedi llunio Cwrs Llythrennedd DA pwrpasol, sydd ar gael yn yr adran Mudiadau ar Blackboard. Rydym hefyd wedi creu canllaw defnyddiol ar adnabod Newyddion ffug a chamwybodaeth. Mae canllaw arall yn esbonio sut mae offer DA yn gweithio a sut i werthuso gwybodaeth gan ddefnyddio’r enw gwych Prawf CRAAP, sy’n ddefnyddiol p’un a ydych chi’n defnyddio llyfrau, peiriannau chwilio, neu offer DA.

Mae’r holl adnoddau ar-lein hyn wedi’u cynllunio i’ch helpu i ddod yn ymchwilydd mwy hyderus a chraff. A chofiwch, os ydych chi’n ansicr ynghylch pa mor ddibynadwy yw rhywbeth, neu eisiau ail farn, gallwch bob amser ofyn i ni am gyngor. Rydyn ni yma i helpu.

Pam na ddylech chi adael i DA greu eich llyfryddiaeth i chi

Clywch, rydw i wedi bod yn y sefyllfa hon.  Mae’n 2 o’r gloch y bore ac mae gennych aseiniad i’w gyflwyno yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.  Mae’ch rhestr gyfeirnodi yn edrych braidd yn denau, ac mae’n gallu bod yn amhosib gwrthsefyll y demtasiwn i ofyn i offeryn DA gael gafael ar ambell ddyfyniad i chi.  O ganlyniad i ofyn un cwestiwn mae gennych restr daclus o erthyglau o gyfnodolion a llyfrau.  Perffaith, yn dydy?  Wel… nid bob amser.

Dyma’r anfantais (ac mae yna anfantais bob amser!):  mae offer DA yn wych am gynhyrchu cyfeirnodau sy’n gallu argyhoeddi.  Mae’r teitlau’n swnio’n gredadwy, mae enwau’r awduron yn gyfarwydd, ac mae’r cyfnodolion yn edrych yn ddilys.  Ond weithiau mae golwg rhywbeth yn gallu bod yn dwyllodrus, ac nid oes gan y cyfeiriadau unrhyw gysylltiad â realiti.  Dyma beth mae pobl yn ei olygu pan maen nhw’n siarad am Rithwelediadau DA.  Mae’r offeryn yn dyfeisio ffynhonnell sy’n edrych yn berffaith gredadwy ond nad yw’n bodoli mewn gwirionedd.

Pam mae hyn yn bwysig?

  • Y rheswm pwysicaf yw: na ddylech roi unrhyw beth yn eich llyfryddiaeth nad ydych wedi’i ddarllen mewn gwirionedd.  Nid rhestr o bethau sydd o bosib yn cefnogi eich dadl yn unig yw llyfryddiaeth; mae’n gofnod o’r ffynonellau rydych chi wedi ymwneud â nhw mewn gwirionedd.  Os nad ydych chi wedi darllen y llyfr, yr erthygl neu’r papur, dydy hi ddim yn bosib i chi wybod mewn gwirionedd a yw’n dweud yr hyn rydych chi’n meddwl ei fod yn ei ddweud, neu a yw’n cyd-fynd â’ch dadl o gwbl.   
  • Mae rhoi dyfyniad ffug yn eich gwaith yn tanseilio hygrededd eich holl aseiniad.
  • Gall eich darlithwyr a’ch tiwtoriaid wirio eich cyfeirnodau (a byddant yn gwneud hynny yn aml).   Os na allant ddod o hyd iddyn nhw, mae’n broblem.
  • Nid rhoi tic mewn bocs yn unig yw cyfeirnodi da, dyma sut rydych chi’n dangos eich bod wedi darllen y deunydd ac yn gallu cefnogi eich syniadau.  Mae hefyd yn ymwneud â rhoi cydnabyddiaeth briodol ac ymuno â’r sgwrs ysgolheigaidd.
  • Mae prifysgolion yn cymryd cyfeirnodi o ddifrif: gallant dynnu sylw at gamddefnyddio neu ddyfeisio ffynonellau a’u nodi fel arfer academaidd gwael neu hyd yn oed yn ymddygiad academaidd annerbyniol, gan effeithio o ddifrif ar eich marciau.

Felly, beth ddylech chi ei wneud?

  • Gwirio, gwirio, gwirio!  Os yw DA yn rhoi cyfeirnod i chi, gwiriwch ef bob amser ar sail ffynhonnell ddibynadwy – yn y catalog llyfrgell, Google Scholar, neu gronfa ddata pwnc.
  • Gofynnwch i’ch llyfrgellydd. Dyna pam rydyn ni yma.  Gallwn eich helpu i ddod o hyd i ffynonellau dilys y gallwch eu dyfynnu, gallwn ddangos i chi sut i chwilio cronfeydd data yn effeithiol, a’ch tywys trwy’r dulliau cyfeirio priodol fel nad oes rhaid i chi ymgodymu â fformatio am 2 o’r gloch y bore.

Mae gan DA lawer o ddefnyddiau, ond nid yw’n ddi-ffael, ac yn bendant nid yw’n disodli meddwl beirniadol (neu chwiliad llyfrgell da). 

Felly, y tro nesaf y byddwch chi’n cael eich temtio i gynnwys y dyfyniadau hynny a gynhyrchir gan DA a’u rhoi yn syth yn eich llyfryddiaeth, arhoswch, gwiriwch ddwywaith, ac os oes angen help arnoch, trowch at eich llyfrgellydd, ond os 2 o’r gloch y bore yw hi, mae’n debyg mai’r catalog llyfrgell yw eich dewis gorau!

Cewch ragor o fanylion yma:

Hwyl fawr i Lloyd Roderick

Llongyfarchiadau mawr a hwyl fawr i Lloyd Roderick sy’n ymgymryd â rôl newydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ôl deng mlynedd o wasanaeth rhagorol yn y tîm Ymgysylltu Academaidd.

Cyn ymuno â ni, roedd Lloyd wedi ennill PhD mewn Celfyddyd Gain yn Aberystwyth ac wedi cael profiad eang yn y sector, gan weithio yn yr Advanced Institute of Legal Studies, Llyfrgell Courtauld a llyfrgelloedd cyhoeddus Casnewydd ymhlith eraill. 

Fel Llyfrgellydd Pwnc Celf, Hanes a Hanes Cymru, y Gyfraith a Throseddeg a’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth, mae Lloyd wedi meithrin perthynas ardderchog rhwng Llyfrgell y Brifysgol ac adrannau academaidd a bydd pawb sydd wedi gweithio gydag ef ar draws y Brifysgol yn gweld ei eisiau yn fawr. Mae wedi bod yn aelod penigamp o’r tîm, yn athro arbennig o sgiliau gwybodaeth ac wedi dod â gwybodaeth bwnc ddofn i’w gyfrifoldebau.

Un etifeddiaeth y mae’n ei adael i’r tîm Ymgysylltu Academaidd yw’r cwis “dyfalu faint o bobl sydd yn y llyfrgell” – dim gwobrau, dim ond hwyl i bawb sy’n cymryd rhan!  Byddwn yn parhau â’r cwis bob dydd Gwener er anrhydedd i ti, Lloyd!

Pob lwc yn dy swydd newydd gan bob un ohonom. Rydym yn falch nad wyt ti’n mynd yn bell ac yn edrych ymlaen at dy weld eto cyn bo hir.

Edrych yn ôl a symud ymlaen: Adolygu Blwyddyn Gwasanaethau Llyfrgell

Gan gyflwyno ein Cynllun Gweithredu’r Llyfrgell 2024 – 2025

Wrth i flwyddyn academaidd arall ddod i ben, rydym yn gyffrous i rannu rhai o gyflawniadau a datblygiadau allweddol eich Gwasanaethau Llyfrgell yn 2024–25.

Mae wedi bod yn flwyddyn brysur arall i’r llyfrgell wrth i’n defnyddwyr barhau i fenthyg miloedd o lyfrau ac e-lyfrau, cyrchu miloedd o erthyglau cyfnodolion, a defnyddio ein hystod ehangach o adnoddau digidol a mannau llyfrgell. Mae rhestrau darllen yn parhau i fod yn rhan greiddiol o’ch gwaith academaidd ac mae ein staff yn gweithio i wneud yn siŵr bod y llyfrau, yr erthyglau a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch fwyaf ar flaenau eich bysedd bob amser. Mae ein Llyfrgellwyr Pwnc yn parhau i ddarparu cymorth a chyngor arbenigol i’r holl staff a myfyrwyr ac mae ein tîm Darganfod Adnoddau yn helpu i hwyluso a lledaenu ymchwil o’r radd flaenaf y Brifysgol.

Porwch ein Cynlluniau Gweithredu’r Llyfrgell i ddarganfod sut mae Gwasanaethau Llyfrgell wedi cefnogi eich addysgu, eich dysgu a’ch ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth dros y flwyddyn ddiwethaf.