Manteisio i’r eithaf ar eich Adborth

Asesu ac adborth

Pan fydd adborth ar aseiniadau a marciau yn cael eu rhyddhau, mae’n demtasiwn edrych ar y marc a symud ymlaen yn syth i’r darn nesaf o waith. Fodd bynnag, gall rhoi amser i ddarllen a deall eich adborth eich helpu i wella a chael canlyniadau gwell mewn aseiniadau yn y dyfodol.

Dyma ein prif awgrymiadau ar gyfer manteisio i’r eithaf ar eich adborth. A chofiwch, mae yna ddigonedd o bobl a all helpu os nad ydych chi’n siŵr am unrhyw beth.

1. Dewch o hyd i’ch adborth

Edrychwch ar Blackboard i weld eich adborth a’ch marciau. Y ffordd orau o weld eich adborth yw clicio ar y ddolen yr oeddech chi’n ei defnyddio i gyflwyno. Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin ar Turnitin a Blackboard Assignment am ragor o wybodaeth.

2. Darllenwch eich holl adborth

Peidiwch ag edrych ar y marc yn unig. Darllenwch drwy’r holl sylwadau, gan gynnwys unrhyw gyfarwyddiadau marcio, adborth ar eich aseiniad, a sylwadau cyffredinol. Efallai y bydd gennych hefyd adborth sain ar gael i wrando arno.

3. Dathlwch yr hyn a aeth yn dda

Cymerwch sylw o’r sylwadau cadarnhaol a gewch. Mae’r rhain yn tynnu sylw at y sgiliau a’r dulliau sy’n gweithio’n dda ac sy’n werth eu parhau mewn aseiniadau yn y dyfodol.

4. Nodwch ffyrdd o wella

Chwiliwch am gyngor y gallwch ei gymhwyso y tro nesaf. Er enghraifft, os yw’ch adborth yn awgrymu gwella eich strwythur, defnyddio tystiolaeth gryfach, neu ddatblygu eich dadl ymhellach, gwnewch nodyn o’r pwyntiau hyn a cheisiwch eu defnyddio yn eich darn nesaf o waith.

5. Daliwch ati i ddod yn ôl at yr adborth

Bydd eich adborth yn dal i fod yno pan fyddwch chi’n dechrau eich aseiniad nesaf. Gall ailymweld ag adborth blaenorol fod yn ffordd wych o’ch atgoffa’ch hun o beth i’w wneud a beth i weithio arno.

6. Gofynnwch gwestiynau

Os oes unrhyw beth nad ydych chi’n ei ddeall, siaradwch â’ch darlithydd. Maen nhw yno i helpu a gallant esbonio’r adborth, egluro’r sylwadau, ac awgrymu ffyrdd o wella.

Gair i gall

Meddyliwch am adborth fel cyngor ar gyfer eich aseiniad nesaf, nid dim ond sylwadau ar eich aseiniad diwethaf. Po fwyaf y byddwch chi’n ymgysylltu ag ef, y mwyaf defnyddiol fydd yr adborth.

Eich Aseiniad Cyntaf

Chwe cham i gwblhau eich aseiniad:
1. Deall eich aseiniad
2. Dod o hyd i'ch deunyddiau
3. Gosod eich technoleg
4. Ysgrifennu
5. Cyflywno
6. Adborth

Ydych chi wedi cael eich aseiniad cyntaf? Rhwng 19 a 23 Hydref, byddwn yn rhannu cyngor, adnoddau a digwyddiadau i’ch helpu i ddechrau arni.

Byddwn yn eich tywys trwy bob cam o’r broses, o ddeall briff yr aseiniad a dod o hyd i’r wybodaeth gywir i gynllunio, ysgrifennu a chyflwyno eich gwaith yn hyderus.

Ac nid yw hyn ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn unig. Os ydych chi yn eich ail neu’ch trydedd flwyddyn, gweithio ar eich astudiaethau Ôl-raddedig neu’n dilyn cwrs Dysgu Gydol Oes, cewch awgrymiadau a chymorth defnyddiol i helpu gyda’ch aseiniadau.

Dydd Llun 19eg: Deall eich aseiniad

  • Sesiwn galw heibio SgiliauAber gyda Non rhwng 10:00 a 12:00 (Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)
  • Dehongli eich aseiniad gyda Tamsin (Teams, 13.30-14.00)

Dydd Mawrth 20fed: Dod o hyd i’ch deunyddiau

  • Finding the Good Stuff: Peer-Reviewed Articles gydag Anita, 10:00-10:10, 11:00- 11:10 a 12:00 – 12:10 (Teams).
  • Taith y llyfrgell gyda Simon am 14:00 (cwrdd ar Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)

Dydd Mercher 21ain: Paratoi’r dechnoleg

  • Caffi Sgiliau Digidol gyda Keziah rhwng 13:30 a 15:30 (Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)
  • Offer cyfrifiadurol ar gyfer ysgrifennu Cymraeg gyda Tamsin, 14.00-15.00 (Teams)

Dydd Iau 22ain: Ysgrifennu Eich Aseiniad

  • Cwrdd â Samanatha Wynne-Rhydderch, Cymrawd y Gronfa Lenyddol Frenhinol ac awdur cyhoeddedig rhwng 10:30 a 13:30 (Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)
  • Ymwelwch â Tamsin Davies, Tiwtor Sgiliau Cymraeg, i gael cyngor am ysgrifennu eich aseiniad yn Gymraeg, 12.00-14.00 (Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)
  • Taith o amgylch y llyfrgell gyda Simon am 14:00 (cwrdd ar Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)

Dydd Gwener 23ain: Cyflwyno Eich Aseiniad

  • Sesiwn galw heibio i drafod cyflwyno gyda Luke rhwng 10 a 12 (Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen)

Trwy’r Wythnos:

  • Desg ymholiadau Lefel F: 11:00 – 15:00
  • Arddangosfeydd llyfrau yn Llyfrgell Hugh Owen a Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol

Bydd popeth ar gael ar Ffrwd, felly cadwch lygad yn ystod yr wythnos. Pob lwc!

Gwasanaeth cyfrinachol am ddim i’ch helpu i wella eich sgiliau ysgrifennu

Cyfle i wella’ch ysgrifennu academaidd eleni gyda Chymrawd Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol, Samantha Wynne-Rhydderch. I wneud apwyntiad, anfonwch e-bost i gael dolen archebu: samantha.wynne-rhydderch@rlfeducation.org.uk

Gwasanaeth cyfrinachol am ddim i’ch helpu i wella eich sgiliau ysgrifennu

Mae croeso i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ar unrhyw lefel astudio (o fyfyrwyr y flwyddyn 1af i fyfyrwyr ôl-raddedig) – a staff – drefnu sesiwn.

Mae Cymrodorion Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol yn awduron proffesiynol, cyhoeddedig a’u swyddogaeth yw eich cynorthwyo i wella eich sgiliau ysgrifennu. Mewn sesiynau un-i-un, gall Samantha eich helpu i:

  • Strwythuro eich dadl
  • Ysgrifennu rhyddiaith sy’n fwy clir a thrawiadol
  • Ailysgrifennu a golygu
  • Cynllunio a rheoli amser
  • Ymdrin â chyfrif geiriau
  • Meddwl yn feirniadol
  • Aralleirio

Mae Samantha’n gweithio ar ddydd Mercher a dydd Iau yn ystod y tymor. Mae’r sesiynau’n para 50 munud ac yn cael eu cynnal yn Llyfrgell Hugh Owen ar ddydd Mercher ac yn Adeilad Llandinam ar ddydd Iau.

Samantha Wynne-Rhydderch

Noder nad yw Cymrawd Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol yn prawfddarllen nac yn rhoi hyfforddiant EAP (Saesneg at Ddibenion Academaidd) na TEFL (Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor).

Noder: Mae sesiynau Samantha yn Saesneg. I siarad â thiwtor sgiliau ysgrifennu academaidd cyfrwng Cymraeg sy’n cynnig cefnogaeth academaidd 1:1, cysylltwch â Dr Tamsin Davies, ted@aber.ac.uk