Cyfarchion yr ŵyl i holl gwsmeriaid Llyfrgelloedd y Brifysgol oddi wrth y tîm Cysylltiadau Academaidd.
Dyma ychydig o uchafbwyntiau i’w rhannu o flwyddyn orlawn
- Roedd ein myfyriwr Llwybrau Proffesiynol, Kirill Kulikovskii, ar y rhestr fer ar gyfer Aelod Staff sy’n Fyfyriwr y Flwyddyn 2025 Undeb y Myfyrwyr am ei waith ar brosiect sy’n canfod dolenni sydd wedi torri yn rhestrau darllen Aspire
- Lansiwyd Cwrs Llythrennedd DA newydd ar-lein a luniwyd ac a gyflwynwyd gan y Tîm, ac enillodd Wobr Tîm y Flwyddyn CILIP Cymru 2025
- Roedd crynodeb o fentrau cymorth DA a ddatblygwyd gan y Tîm yn destun cyflwyniad grŵp yng Nghynhadledd Dysgu ac Addysgu PA 2025
- Mae staff y llyfrgell wedi bod yn paratoi i ymuno â’r adran Taith y Myfyriwr newydd ym mis Ionawr 2026 a bydd y Tîm yn rhannu proffil newydd o gyfrifoldebau llyfrgellydd pwnc
Ceir hyd i ystadegau defnyddio a rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau llyfrgell yr ydym yn eu darparu, gan gynnwys addysgu Llythrennedd Gwybodaeth a chymorth un-i-un, Digideiddio, SgiliauAber, Rhestrau Darllen Aspire, Canllawiau Llyfrgell a Sgiliau Digidol yng Nghynllun Gweithredu’r Llyfrgell 2024-2025.

