Croeso Megan!

Staff photo

Rwy’n cofio’n glir y balchder a deimlais pan gefais fy ngherdyn llyfrgell cyntaf yn blentyn, sawl degawd yn ddiweddarach ac mae llyfrgelloedd yn dal i fod yn rhan ganolog o fy mywyd. Mae gallu gweithio yn yr union lyfrgell wnaeth fy helpu i raddio yn dal i fod yn foment afreal! Heblaw darllen, rwyf hefyd yn mwynhau garddio, rhedeg a gwau.

Dyma gyflwyno: Adnodd Chwilio am Gronfeydd Data

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein hadnodd newydd i Chwilio am Gronfeydd Data ar Primo – catalog y llyfrgell. Mae wedi cael ei gyflwyno yn lle’r dudalen A-Y o Adnoddau Electronig.

Mae ein tudalen newydd ‘Chwiliad Cronfeydd Data’ yn rhan o brif adnodd chwilio’r llyfrgell a gellir ei gweld ar frig Primo, felly nid oes angen ichi gofio unrhyw gyfeiriadau gwe ar wahân.

Mae’r adnodd newydd i Chwilio am Gronfeydd Data wedi’i rannu’n bynciau gwahanol felly gallwch bori drwy’r adnoddau sy’n berthnasol i’ch cwrs chi. Neu gallwch chwilio yn ôl termau allweddol a chywain canlyniadau o’r casgliad cyfan.

Ceir disgrifiad byr o bob adnodd fel y gallwch archwilio sut y gallent fod o fudd i’ch astudiaethau.

Mae’r nodwedd chwilio newydd ar gael yma.