Cwrdd â’ch Llyfrgellwyr

Ar ôl treulio llawer o oriau yn gwirfoddoli yn fy llyfrgell gyhoeddus leol ers 14 oed (nid yw pob merch Essex yn treulio ei hamser yn mynd allan), roedd fy ngyrfa yn y Llyfrgell yn dechrau datblygu. Y cam nesaf oedd swydd â thâl yn y llyfrgell gyhoeddus cyn mynd i’r gorllewin ac astudio ar gyfer gradd Llyfrgellyddiaeth yn Aberystwyth. Cyn bo hir, dechreuais weithio fel Llyfrgellydd Cynorthwyol yn y Swyddfa Gartref, ac yna ymunais â’r Gwasanaethau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2003. Pan nad wyf yn gweithio mae gen i blentyn bach egnïol i gadw i fyny ag ef ac yn yr ychydig amser sbâr sy’n weddill, rwy’n dysgu nofio ac yn mwynhau cerdded, beicio a bod yn yr awyr agored.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*