CROESO

Croeso i flog Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ysgol cyfraith gyntaf Cymru ac un o’r hynaf yn y Deyrnas Gyfunol.

Dyma ofod lled anffurfiol i aelodau o staff academaidd yr Adran i bostio erthyglau byrion am y gyfraith a throseddeg. O dro i dro, byddwn yn cynnwys eitemau gan ein myfyrwyr ymchwil a chyfranwyr gwadd hefyd. Bydd y pynciau yn rhychwantu diddordebau eang aelodau’r Adran ym meysydd y gyfraith a throseddeg, yn lleol ac yn rhyngwladol. Byddwn hefyd yn dod â newyddion i chi am ddatblygiadau oddi mewn i’r Adran.

Ein hamcan yw arddangos gwaith yr Adran, gan gyfuno hefyd fynediad i wybodaeth am y gyfraith a throseddeg gyda dadansoddiad beirniadol, a thrwy hynny gwell dealltwriaeth, ohonynt.

Bwriadwn gyhoeddi eitemau yn gyson ar draws y flwyddyn, gan adlewyrchu gweithgaredd ein seminarau ymchwil adrannol wythnosol yn ystod y tymor academaidd, a hefyd ymateb i ddigwyddiadau’r dydd.
Gobeithio y gwnewch chi fwynhau pori yn y blog, a’i gael yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol.

Yr Athro Emyr Lewis
Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg