Heddiw (y 19eg o Fai) yw Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang (GAAD). Diben GAAD yw cael pawb i siarad, meddwl a dysgu am fynediad a chynhwysiant digidol, ac i ystyried y biliwn o bobl a mwy sydd ag anabledd neu gyflwr. Pan fyddwn yn gwneud ein cynnwys digidol yn fwy hygyrch, rydym yn codi rhwystrau ac yn sicrhau y gall ein holl ddefnyddwyr fanteisio i’r eithaf ar y cynnwys hwnnw.
Beth am gymryd rhan yn GAAD drwy fwrw golwg ar y cynnwys rydych yn gyfrifol amdano, a gwella rhywfaint arno?
Gallai’r rhai sy’n defnyddio’r System Rheoli Cynnwys ddefnyddio ein Rhestr Wirio Hygyrchedd Cynnwys y We i fwrw golwg ar eu cynnwys. Yna, gallant ddarllen Dogfen Datrys Materion Hygyrchedd Cyffredin i’w helpu i wella eu tudalennau.
Os ydych chi’n creu dogfennau yn rhan o’ch dysgu neu i’w rhannu ar wefan PA, beth am i chi weithio drwy’r Rhestr Wirio Hygyrchedd Digidol i weld a oes ffyrdd y gallech wneud eich dogfennau’n fwy hygyrch?
Dylai pawb sy’n defnyddio’r System Rheoli Cynnwys eisoes fod wedi cwblhau hyfforddiant hygyrchedd digidol, ond os nad ydych wedi gwneud hyn ers peth amser, beth am gael golwg arall ar yr hyfforddiant ar-lein a’ch atgoffa eich hun o sut y gallwch sicrhau bod eich tudalennau’n hygyrch?
Hefyd, drwy roi cynnwys i ddefnyddwyr y System Rheoli Cynnwys ei roi ar y wefan, rydych yn sicrhau eich bod yn eu helpu i sicrhau y gall cynifer o bobl â phosib ddefnyddio’r cynnwys hwnnw. Mae gennym hyfforddiant ar-lein penodol ar gyfer hynny: Hygyrchedd Digidol i Reolwyr.
Cofiwch, nid ticio rhyw flwch cyfreithiol yw diben gwneud ein cynnwys yn hygyrch. Rydym yn sicrhau bod pawb yn gallu dod o hyd i’n cynnwys, ei ddarllen a’i ddeall, a sicrhau nad oes neb wedi’i eithrio.
Os oes gennych unrhyw bryderon am hygyrchedd digidol, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn digital-accessibility@aber.ac.uk.