{"id":872,"date":"2021-10-01T09:42:00","date_gmt":"2021-10-01T08:42:00","guid":{"rendered":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/research-festival\/?p=872"},"modified":"2021-10-12T09:43:28","modified_gmt":"2021-10-12T08:43:28","slug":"darlith-gyhoeddus-i-ystyried-gwleidyddiaeth-ryngwladol-yng-nghyd-destun-newid-yn-yr-hinsawdd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/research-festival\/cy\/2021\/10\/01\/darlith-gyhoeddus-i-ystyried-gwleidyddiaeth-ryngwladol-yng-nghyd-destun-newid-yn-yr-hinsawdd\/","title":{"rendered":"Darlith gyhoeddus i ystyried gwleidyddiaeth ryngwladol yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"881\" height=\"881\" src=\"http:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/research-festival\/files\/2021\/10\/Professor-Jan-Selby-cropped.jpg\" alt=\"Yr Athro \/ Professor Jan Selby\" class=\"wp-image-805\" \/><figcaption>Yr Athro \/ Professor Jan Selby<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Goblygiadau newid yn yr hinsawdd i wleidyddiaeth ryngwladol fydd pwnc Darlith Goffa Kenneth Waltz eleni, a gynhelir ddydd Iau, 14 Hydref.<\/p>\n\n\n\n<p>Trefnir Darlith Goffa Kenneth Waltz 2021 gan Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Bydd a bydd yn cael ei thraddodi gan yr Athro Jan Selby o Brifysgol Sheffield.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae newid yn yr hinsawdd a heriau ecolegol wedi ein gorfodi i ailfeddwl amrywiol agweddau ar wleidyddiaeth ryngwladol: nid yn unig sut i hwyluso cydweithio yn y system wleidyddol ryngwladol ond hefyd, yn fwy sylfaenol, sut rydym ni\u2019n deall hanfod natur a hanes gwleidyddiaeth ryngwladol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ei ddarlith bydd yn cynnig, yn herfeiddiol, y dylem ystyried gwleidyddiaeth ryngwladol yn \u2018rhyng-garbonig\u2019: gwleidyddiaeth ryngwladol wedi\u2019i chlymu yn ei hanfod \u00e2 charbon. Mae goblygiadau pwysig yn codi o ran sut rydym ni\u2019n deall hanes gwleidyddiaeth ryngwladol, disgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol, her yr hinsawdd a phosibiliadau ar gyfer gwleidyddiaeth y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywed yr Athro Milja Kurki o\u2019r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: \u2018does dim un her sy\u2019n fwy pwysig nac \u00e2 mwy o frys nag ystyried oblygiadau newid yn yr hinsawdd i wleidyddiaeth ryngwladol ac, fel rhan o\u2019r broses hon, sut rydym ni\u2019n ynghlwm wrth y Ddaear a\u2019i deunyddiau mewn amrywiol ffyrdd pwysig, ond trafferthus hefyd. Rydym ni\u2019n falch iawn o gael croesawu\u2019r Athro Selby i\u2019n helpu i feddwl drwy heriau deallusol ac ymarferol y \u2018cysylltiadau rhyng-garbonig\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Cynhelir Darlith Goffa Kenneth Waltz 2021, \u2018<em>International\/Inter-Carbonic Relations\u2019<\/em>, ar-lein am 7 yr hwyr ddydd Iau 14 Hydref. Mae\u2019r ddarlith ar agor i unrhyw aelodau o\u2019r cyhoedd, myfyrwyr a staff sydd \u00e2 diddordeb. I gofrestru, cliciwch:&nbsp;<a href=\"https:\/\/eur02.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fevent.webinarjam.com%2Fchannel%2Fpub-lec-interpol&amp;data=04%7C01%7C%7C712e238c75234e97b4d308d98419ab02%7Cd47b090e3f5a4ca084d09f89d269f175%7C0%7C0%7C637686068033295795%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJWIjoiMC4wLjAwMDAiLCJQIjoiV2luMzIiLCJBTiI6Ik1haWwiLCJXVCI6Mn0%3D%7C1000&amp;sdata=GMF11wg%2FpetuaErc8lQvh18MPT67aNPpx0TiFs0vqK4%3D&amp;reserved=0\">https:\/\/event.webinarjam.com\/channel\/pub-lec-interpol<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Mae Darlith Goffa Kenneth Waltz eleni yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau a thrafodaethau arbennig ar newid yn yr hinsawdd a drefnir gan Brifysgol Aberystwyth wrth edrych ymlaen at gynhadledd COP26 y Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys&nbsp;<a href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/research-festival\/\">G\u0175yl wythnos o hyd yn canolbwyntio ar ymchwil i newid yn yr hinsawdd<\/a>&nbsp;sy\u2019n dechrau ar 18 Hydref.<\/p>\n\n\n\n<p><strong><br>Y Siaradwr&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae Jan Selby yn Athro Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Sheffield. Mae\u2019r Athro Selby yn arbenigwr ar wleidyddiaeth newid yn yr hinsawdd, d\u0175r ac ynn,i ac yn arbennig ar sut mae cwestiynau grym yn gysylltiedig \u00e2 phob un. Mae wedi ysgrifennu\u2019n helaeth ar oblygiadau gwrthdaro a diogelwch newid yn yr hinsawdd a gwleidyddiaeth d\u0175r, yn enwedig yng nghyd-destun Israel-Palestina a Syria, yn ogystal ag ar gwestiynau militariaeth, adeiladu heddwch, datblygu a llywodraethu byd-eang.<\/p>\n\n\n\n<p><strong><br>Crynodeb o Ddarlith Kenneth Waltz 2021: Yr Athro Jan Selby \u2018International\/Inter-Carbonic Relations\u2019<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Os gellir damcaniaethu bod cysylltiadau rhyngwladol yn \u2018rhyng-destunol\u2019, fel y mae llawer o \u00f4l-strwythurwyr yn ei ddadlau, felly pam lai hefyd \u2013 neu, yn wir, yn well byth &#8211; \u2018rhyng-garbonig\u2019?&nbsp; Oherwydd, yn ogystal \u00e2\u2019r ffaith bod hanes modern carbon i raddau helaeth yn rhyngwladol, mae hefyd llawer o\u2019r cysylltiadau hanesyddol allweddol a nodweddion diffiniol gwleidyddiaeth ryngwladol fodern wedi\u2019u gwreiddio mewn carbon. Neu, yn fwy penodol, yn yr amrywiol arferion a phrosesau ecolegol-gymdeithasol a ddefnyddiwyd i gloddio a dyddodi, ailgylchu a defnyddio, cynrychioli a thrawsnewid carbon. Bydd y ddarlith yn ceisio cyflwyno\u2019r achos hwn, gan ddadlau bod carbon a chysylltiadau rhyngwladol yn gyd-gyfansoddol byth ers y gwawriodd moderniaeth yn 1492, ac y byddant yn anochel yn parhau felly ymhell i\u2019r dyfodol, wrth i\u2019r economi fyd-eang ddal i ddibynnu ar garbon ffosil barhau heb ostegu ac wrth i\u2019r blaned gynhesu\u2019n ddidostur. A fydd newid yn yr hinsawdd yn cynhyrchu gwrthdaro eang, neu hyd yn oed gwymp gwareiddiad? Sut mae dynameg grym gyfoes yn ffurfio ymatebion i newid yn yr hinsawdd? A sut, i\u2019r gwrthwyneb, gallai datgarboneiddio drawsnewid trefn y byd yn yr unfed ganrif ar hugain?&nbsp; Gan adeiladu ar ymchwil mewn ecoleg wleidyddol, bydd y ddarlith yn dadlau mai dim ond drwy ddadansoddiad dilechdidol o \u2018gysylltiadau rhyng-garbon\u2019 y gallwn ddechrau ateb y cwestiynau hyn yn iawn. Bydd yn dadlau bod angen i fyfyrwyr Cysylltiadau Rhyngwladol wynebu her newid yn yr hinsawdd drwy osod yr elfen C wrth ganol yn eu dadansoddiadau.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Goblygiadau newid yn yr hinsawdd i wleidyddiaeth ryngwladol fydd pwnc Darlith Goffa Kenneth Waltz eleni, a gynhelir ddydd Iau, 14 Hydref. Trefnir Darlith Goffa Kenneth Waltz 2021 gan Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Bydd a bydd yn cael ei thraddodi gan yr Athro Jan Selby o Brifysgol Sheffield. Mae newid yn yr hinsawdd a heriau ecolegol wedi&hellip; <a class=\"more-link\" href=\"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/research-festival\/cy\/2021\/10\/01\/darlith-gyhoeddus-i-ystyried-gwleidyddiaeth-ryngwladol-yng-nghyd-destun-newid-yn-yr-hinsawdd\/\">Continue reading <span class=\"screen-reader-text\">Darlith gyhoeddus i ystyried gwleidyddiaeth ryngwladol yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":42508,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":""},"categories":[41],"tags":[],"class_list":["post-872","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorised-cy","entry"],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/research-festival\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/872","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/research-festival\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/research-festival\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/research-festival\/wp-json\/wp\/v2\/users\/42508"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/research-festival\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=872"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/research-festival\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/872\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":873,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/research-festival\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/872\/revisions\/873"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/research-festival\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=872"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/research-festival\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=872"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wordpress.aber.ac.uk\/research-festival\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=872"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}