
Y Bydoedd a Garem
21 Tachwedd – 3 Rhagfyr
Darlith Gyhoeddus Prifysgol Aberystwyth
Yr Athro Olivette Otele
Cyfiawnder adferol, y cam nesaf tuag at y byd yr hoffem ei weld?
Mae Olivette Otele Ph.D., FRHistS, FLSW yn Athro Nodedig ym maes Etifeddiaeth a Chof ynghylch Caethwasiaeth yn SOAS, Prifysgol Llundain.
Newyddion Ymchwil ↗
Straeon am ein hymchwil ar newid hinsawdd.
Rhaglen ↗
Manylion llawn am raglen yr ŵyl a sut i gadw lle.
Gweithgareddau ar gyfer ysgolion ↗
Rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau ac adnoddau eraill ar gyfer ysgolion.
Mae’r ŵyl flynyddol yn tynnu sylw at yr ymchwil o safon fyd-eang ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae’r un eleni’n cael ei chynnal fel rhan o’i dathliadau 150 mlwyddiant.
Mae’n wych gweld ystod eang o siaradwyr mewn amrywiaeth o feysydd yn cymryd rhan ar gynifer o bynciau difyr. Mae’r Ŵyl Ymchwil yn gyfle gwych i ddod â rhywfaint o’r gwaith pwysig a wneir yma yn y Brifysgol at sylw cynulleidfaoedd lleol a chenedlaethol.
Wrth i ni ddathlu ein 150 mlwyddiant fel prifysgol gyntaf Cymru, mae’n amser addas i edrych ymlaen at yr heriau sy’n ein hwynebu a thrafod y bydoedd rydyn ni eisiau byw ynddyn nhw.”
Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth
Un o brif amcanion yr Ŵyl yw ymgysylltu â chymunedau lleol ynghyd â rhannu syniadau a mewnwelediadau. Rydyn ni eisiau hyrwyddo deialog gadarnhaol rhwng ein prifysgol, ein gwleidyddion a’r cyhoedd. Rwy’n siŵr y bydd y trafodaethau yn yr Ŵyl yn helpu i daflu goleuni ar y materion brys sydd o’n blaenau fel gwlad a phlaned, ac ysgogi trafodaeth drylwyr ar draws pob disgyblaeth.”
Yr Athro Rhys Jones, Cadeirydd Gŵyl Ymchwil, Prifysgol Aberystwyth
Yn unol â Strategaeth Ymchwil ac Arloesi’r Brifysgol, mae hwn yn ddigwyddiad blynyddol.
Ymchwil cnydau a phlanhigion yn IBERS, Gogerddan. Hawlfraint y llun: Vince Jones, Whole Picture