CYSTADLEUAETH CREU POSTER AR DDATRYSIADAU NEWID HINSAWDD
Fel rhan o’r Wyl Ymchwil, mae’r Brifysgol wedi trefnu cystadleuaeth posteri ar newid hinsawdd ar gyfer blynyddoedd 5-6 a 7-8.
GWOBR 1AF – *Taith i’r enillwyr ar gwch ymchwil y brifysgol!

- Mi fydd cyfle i ddisgyblion greu poster ar ddatrysiadau newid hinsawdd ac yna ei gyflwyno yn ystod wythnos y gynhadledd (18ain – 25ain o Hydref 2021).
- Mae’r gystadleuaeth yn agored i ddisgyblion yn mlynyddoedd 5 a 6 (cynradd) a 7a 8 (uwchradd) ac mi fydd gwobr ar wahân i’r ddau gategori.*
- Mae dolenni i fideos sydd wedi eu creu gan arbenigwyr yn y brifysgol wedi ei atodi er mwyn eich cynorthwyo i greu eich posteri.
SYLWER: Dyddiad cau newydd – 14 Hydref 2021.
*(Mae terfyn niferoedd o 5 disgybl ar y cwch ar hyn o bryd, oherwydd rheolau COVID).
Canllawiau ar Bosteri (MAINT A3):
- Bydd angen creu poster A3 ar gyfer cystadleuaeth poster yr ŵyl ymchwil ar newid hinsawdd. Dylai disgyblion ffocysu ar yr atebion/sut i ddatrys newid hinsawdd gan gyfeirio at datrysiadau sydd eisoes ar waith o amgylch yr ardal leol megis gwaith ynni dŵr Rheidol a’r tyrbinau gwynt lleol.
- Gellid dechrau gyda’r cwestiwn ‘Beth yw newid yn yr hinsawdd?’
- Cyflwyno ymchwil arbenigwyr neu disgyblion a/neu weithgareddau y maent wedi’u gwneud. Dylai ffeithiau yn seiliedig ar ymchwil h.y., siartiau cylch a gynhyrchwyd o ddata holiadur. Mi fydd angen peth testun ar y posteri (dim lluniau yn unig).
- Cynnwys yn chanolbwyntio ar atebion/datrysiadau i’r newid yn yr hinsawdd. Ystyriwch cysylltiadau i ‘r ardal leol :
- Beth mae Aberystwyth yn ei wneud?
- Allwn ni wneud mwy?
- Beth mae eich ysgol wedi’i wneud?
- Beth ydych chi’n mynd i’w wneud nawr?
- Bydd taith mewn cwch ar gael i’r enillwyr*!
- Mae gwybodaeth am sut i fynd ati i gynnal prosiect ymchwil bach ar newid hinsawdd eisoes wedi ei anfon allan ac mae cyfle i’r ysgol gymryd mantais o’r adnodd hyn hefyd.
- PWYSIG – Nid oes rhaid cwblhau’r prosiect er mwyn cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth. Felly ewch amdani!