Effeithiau

Bywyd Gwyllt

Rhagwelir y bydd 15-37% o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid cyfredol yn diflannu erbyn 2050 a 50% erbyn 2100.[1]

Rhywogaeth/Species: “a group of living organisms consisting of similar individuals capable of exchanging genes or interbreeding” – Geiriadur Rhydychen

Adar

Ffynhonnell: Yrjö Jyske

Mae newid yn yr hinsawdd yn cael effaith ar ymfudo ac atgenhedlu. Gyda argaeledd bwyd oedd yn cyd-fynd yn dymhorol gyda amseroedd mudo adar yn newid ac bwyd yn fwy prin[2]. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad o hyd at 13% yn y maint o boblogaethau adar sy’n teithio pellter hir wrth fudo[3].[4]

Credir y gallai adar llai ymdopi’n well â’r newid yn y gwres gan eu bod yn gallu colli gwres o’i corff yn gyflymach. Darganfu astudiaeth o 52 o rywogaethau fod adenydd adar yn cynyddu, a bod màs eu corff yn gostwng, sy’n awgrymu y gallai fod yn digwydd mewn ymateb i dymheredd cynyddol a achosir gan newid yn yr hinsawdd.[5]

Ymfudo/ Migration: “Seasonal movement of animals from one region to another” – Geiriadur Rhydychen

Pryfed

Ffynhonnell: Stéphane Gonzalez

Wrth i’r hinsawdd gynhesu bydd cyfradd atgenhedlu llyslau yn cynyddu gan gynyddu’r difrod y gwnâi llyslau i goed. Gall llyslau wanhau planhigion ac achosi i’w tyfiant gael ei grebachu. Gallent hefyd orchuddio dail a ffrwythau mewn mel melog a all ddenu morgrug a gwenyn mêl. Wrth i’r tymheredd gynyddu mae coed yn fwy tebygol o brofi straen sychder sy’n eu gwneud yn fwy agored i bla llyslau a difrod chwilod rhisgl. Gall rheoli coedwigoedd gyflwyno rhywogaethau coed newydd fel ymateb i gynhesu byd-eang a allai arwain at gyflwyno mwy o blâu.[6]

Ffynhonnell: Raffo Márk

Mae maint y rhywogaethau glöynnod byw ar dir a ffermdir rhwng 2000 a 2009 yn Lloegr hefyd wedi gostwng 58%. Credir bod hyn yn cael ei achosi gan ddefnydd plaladdwyr mewn ffermio. Mae llawer o’r plaladdwyr bellach wedi’u gwahardd.[7]

Sychder/Drought: “A prolonged period of abnormally low rainfall, leading to a shortage of water” – Geiriadur Rhydychen

Gwenyn

Ffynhonnell: Richard Towell

Mae cacwn yn ffafrio tywydd oer ac mae’r cynnydd mewn tymheredd a achosir gan newid yn yr hinsawdd yn arwain at ostyngiad yn y boblogaeth wrth i gyfraddau difodiant lleol gynyddu. Mae hyn yn effeithio ar yr amgylchedd gan mae gwenyn sy’n peillio llawer o rywogaethau o blanhigion blodeuol sy’n caniatáu i’r planhigion atgenhedlu a felly mi all ostyngiad yn y boblogaeth olygu gostyngiad mewn bioamrywiaeth.[8]

Bioamrywiaeth/Biodiversity: “The variety of life in the world or in a particular habitat” – Geiriadur Rhydychen

Eirth gwynion

Ffynhonnell: Christopher Michel

Mae newid yn yr hinsawdd yn achosi i rew yn Môr yr Artig doddi sy’n niweidiol i eirth gwyn sy’n dibynnu ar iâ’r môr ar gyfer paru, symud o gwmpas a hela morloi. Mae hyn wedi golygu fod eirth gwyn yn cael trafferth canfod digon o fwyd wrth i’w hoff gynefinoedd hela ddechrau diflannu. Mae hyn wedi arwain at ostyngiadau yn eu poblogaeth a gallai arwain at faterion pellach fel newynu a’i gallu i atgenhedlu os yw’r iâ yn parhau i ddiflannu. Mae mwy o wybodaeth am yr effeithiau ar y cryosffer i’w gweld ar y dudalen ymchwil.[9]

Cynefin/Habitat: “The natural home or environment of an animal” – Geiriadur Rhydychen

Planhigion Blodeuol

Ffynhonnell: Prifysgol Aberystwyth

Mae newid yn yr hinsawdd yn cael effaith ar yr amser mae planhigion yn blodeuo, ac fe all hyn gael effaith fawr ar eu cynhyrchiant o hadau a’u goroesiad yn y pen draw. Gall newidiadau i’w hamseroedd blodeuo effeithio’n fawr ar eu llwyddiant atgenhedlu oherwydd efallai na fydd peillwyr, fel gwenyn, yn hedfan yr adeg honno o’r flwyddyn mwyach.[10]

Peillwyr/Pollinator: “Something that carries pollen from one plant to another” – Geiriadur Caergrawnt

Cefnfor ac afonydd

Afonydd

Ffynhonnell: Paul Trafford

Wrth i’r tymheredd gynyddu, ni fydd modd i bysgod sydd yn byw mewn dwr oer boblogi afonydd a llynnoedd bach. Mewn llynnoedd dwfn gall haen uchaf gynnes greu parthau marw (ardaloedd nad ydyn nhw’n gallu cynnal bywyd gan nad oes ganddyn nhw ocsigen) gan fod y broses o gyfnewid aer sy’n ychwanegu ocsigen i’r dŵr yn llai effeithlon. Gall mwy o law effeithio ar atgenhedlu rhywogaethau[11]. Mae poblogaethau eogiaid wedi dirywio oherwydd bod wyau a ddodwyd ar welyau nentydd yn cael eu golchi i ffwrdd gan lifogydd yn y gwanwyn. Mae tymereddau cynhesach yn gallu effeithio ar lif nentydd isel wrth iddynt gychwyn yn gynharach a pharhau’n hirach, gan achosi straen ar anifeiliaid a phlanhigion dyfrol, gan fod cyfraddau goroesi yn llawer is pan fydd lefelau dŵr mewn afonydd a nentydd yn isel iawn.[12]

Mae llai o lif dŵr yn arwain at ardaloedd o lygredd crynodedig uchel gan fod llai o wanhau yn digwydd ac mae cynnydd yn lefelau maetholion mewn afonydd yn cynyddu’r algâu mewn afonydd gan ei gwneud hi’n ddrutach cynhyrchu dŵr yfed. Mae newid yn yr hinsawdd yn golygu bod glaw trwm yn debygol sy’n arwain at fwy o lifogydd. Mae hyn yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd afonydd yn cael eu llygru mewn gwledydd lle nad yw’r seilwaith glanweithdra yn ddigonol ac felly maent yn gallu arwain at achosion o glefydau. Gall hefyd arwain at siltio o fwy o waddod yn dod i mewn i afonydd a allai niweidio bywyd dyfrol.[13]

Glanweithdra/Sanitation: “Conditions relating to public health, especially the provision of clean drinking water and adequate sewage disposal” – Geiriadur Rhydychen

Cefnforoedd

Ffynhonnell: Prifysgol Aberystwyth

Wrth i gynhesu byd-eang gynyddu tymheredd y dŵr mae bywyd morol yn symud er mwyn dod o hyd i ddyfroedd oerach, ond mae hyn yn digwydd ar  gyflymder gwahanol sy’n gallu tarfu ar y gadwyn fwyd, gan ei gwneud hi’n bwysicach i beidio â gor-bysgota[14]. Mae siarcod Blacktip yn mudo ymhellach i’r gogledd yn yr haf i ddod o hyd i ddŵr oerach[15]. Mewn rhai ardaloedd nid yw crancod glas bellach yn gorfod tyllu yn y gaeaf i oroesi’r oerfel, gan beri i’w poblogaeth gynyddu a allai ddenu ysglyfaethwyr i ardaloedd newydd[16].

Dŵr asidig

Mae parthau marw (ardaloedd nad ydyn nhw’n gallu cynnal bywyd gan nad oes ganddyn nhw ocsigen) yn dod yn fwy cyffredin mewn cefnforoedd a moroedd oherwydd bod gweithgaredd dynol yn cynyddu nifer y llygryddion a’r tocsinau sy’n dod i mewn i’r dŵr[17]. Mae gweithgaredd dynol yn cynyddu’r canran o garbon deuocsid yn yr atmosffer pan gaiff ei amsugno i’r cefnfor gan newid ei pH (Asidiad cefnfor). Gall hyn gael effeithiau dinistriol fel diliwio cwrel a gall hefyd niweidio organebau calchaid gan fod yr asideiddio yn achosi iddynt hydoddi[18].

pH: “ A figure expressing the acidity or alkalinity of a solution on a logarithmic scale” – Geiriadur Rhydychen

Cynnydd yn lefel y môr

Mae cynhesu byd-eang yn cynhesu’r dŵr o amgylch y rhewlifoedd gan beri iddynt doddi, felly mae mwy o ddŵr o’r rhewlifoedd yn mynd i mewn i’r môr. Yna mae’r dŵr yn ymledu ac yn cynhesu gan godi lefel y môr[19]. Ar y Ddaear mae lefel y môr wedi cynyddu rhwng 10 ac 20 cm yn y ganrif ddiwethaf ar gyfartaledd. Gallai hyn olygu fod llawer o ardaloedd arfordirol neu ardaloedd ar lefel y môr neu’n is na hynny mewn perygl o lifogydd.[20]

Dynoliaeth

Ffynhonnell: Amy West

Rydym yn profi newid yn yr hinsawdd ar hyn o bryd. Roedd y tymheredd yn 0.8°C yn gynhesach yn y 2010au i’w cymharu a’r tymheredd rhwng 1961 a 1990[21]. Roedd llai na 100 o danau coedwig rhwng 201 a 2017, ond 137 yn 2019 yn unig[22]. Cofnodwyd tymheredd uchel uchaf erioed o 38.7°C ym mis Gorffennaf 2019 a’r tywydd poeth hiraf erioed ym mis Awst 2020[23]. Torrwyd pedwar cofnod tymheredd misol arall yn ystod y deng mlynedd diwethaf ond ni dorrwyd y record ar gyfer tymereddau isel ers 1995[24]. Mae diwrnodau eira yn mynd yn llai cyffredin, gan haneru mewn rhai rhannau o Ewrop ers 1970, ac maent yn debygol o ddiflannu ym mron pob un rhan o Brydain erbyn 2070. Bydd y newidiadau hyn yn parhau nes i ni gyrraedd allyriadau sero net[25].

Effaith cynnydd yn y tymheredd

Mae gwres gormodol yn gallu achosi materion iechyd fel trawiad gwres a dadhydradiad. Mae rhai pobl yn fwy agored i broblemau iechyd sy’n gysylltiedig â gwres oherwydd eu hoedran, amgylchiad a chyflyrau meddygol. Yn ôl astudiaeth credir y bydd cynnydd mewn tymheredd yn effeithio ar boblogaethau ar ledredau uwch gan nad ydynt wedi arfer gyda gwres eithafol. Rhagwelir hefyd, wrth i’r tymheredd barhau i godi, y bydd ardaloedd tlotach yn cael eu heffeithio’n fwy gan eu bod yn llai tebygol o gael mynediad at gyfleusterau fel aerdymheru.[26]

Mae tonnau gwres yn effeithio mwy ar boblogaethau trefol, gan achosi cyfraddau marwolaeth uwch yn yr ardaloedd hyn. Mae rhai tonnau gwres hefyd yn achosi cyfnodau o aer llonydd sy’n cynyddu llygredd aer ac effeithiau iechyd sy’n gysylltiedig â llygredd aer.[27]

Effaith ansawdd aer

Ffynhonnell: sama093

Gall tywydd amrywiol a achosir gan newid yn yr hinsawdd gynyddu amlder lefelau uchel o fwg a thanau gwyllt sy’n rhyddhau mwg a gronynnau i’r awyr. Mae hyn yn rhoi pobl â phroblemau anadlu, fel asthma, mewn mwy o berygl ac yn fwy tebygol o fynd i’r ysbyty. Gan y rhagwelir y bydd nifer y dyddiau ag ansawdd aer gwael yn cynyddu rhagwelir y bydd mwy o bobl yn datblygu problemau anadlu.[28]

Alergeddau

Ffynhonnell: Prifysgol Aberystwyth

Gan fod blodau’n peillio yn gynharach ac am gyfnod hirach gallai pobl â chlefyd y gwair gael eu heffeithio’n fwy.[29]

Digwyddiadau tywydd eithafol

Ffynhonnell: Project LM
Ffynhonnell: Cheltenham Borough Council

Gallai digwyddiadau tywydd eithafol achosi ystod o broblemau fel:

  • Cynyddu pa mor gyflym y mae rhai afiechydon yn ymledu.[30]
  • Lleihau argaeledd dŵr yfed diogel yn ystod sychder.
  • Atal teithio oherwydd ffyrdd sydd wedi’u difrodi a allai hefyd effeithio ar fynediad i ysbytai.
  • Achosi toriadau pŵer, rhwystro trafnidiaeth, ysbytai a bywyd bob dydd.
  • Effaith cynhyrchu cnydau gan arwain at brinder bwyd a diffyg maeth, yn enwedig mewn gwledydd sy’n datblygu.

Gallai’r problemau hyn gael sgil-effaith ar fasnach, ymfudo ac iechyd meddwl poblogaeth y byd. Efallai y bydd angen gadael ar frys mewn argyfyngau lle ceir tywydd eithafol ac mi fydd hyn yn anoddach i unigolion o rai oedrannau neu â chyflyrau meddygol penodol.[31] Mae Stephen Tooth yn ddarlithydd sy’n cynal ymchwil ar faterion amgylcheddol yn yr adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ac mae gwybodaeth am fflach-lifogydd i’w gweld ganddo ar y dudalen ymchwil.

Camfaethiad/Malnutrition: “lack of proper nutrition, caused by not having enough to eat, not eating enough of the right things, or being unable to use the food that one does eat” – Geiriadur Rhydychen

Amaethyddiaeth

Yn y DU mae amaethyddiaeth yn darparu 50% o’r bwyd sy’n cael ei fwyta[32] ac mae’n cymryd 75% o arwynebedd y tir[33]. Disgwylir i newid yn yr hinsawdd gael effaith fawr ar amaethyddiaeth gan ei fod yn ddiwydiant sydd wedi’i siapio’n fawr gan yr hinsawdd a’r tywydd[34]. Gallai newid yn yr hinsawdd effeithio ar gynhyrchiant y diwydiant hwn a rôl y DU mewn amaethyddiaeth yn rhyngwladol[35].

Cnydau

Ffynhonnell: Kinshuk Sunil

Gall cynnydd yn y tymheredd a chrynodiad carbon deuocsid effeithio ar atgenhedlu a thwf planhigion ac maent eisoes wedi cael effaith ar gynnyrch cnydau sydd wedi dirywio yn ystod yr 50 mlynedd diwethaf. Er bod carbon deuocsid yn cynorthwyo gyda twf planhigion, mae’r diffyg glaw yn ystod misoedd yr haf yn golygu nad yw lawer o gnydau yn tyfu’n ddigonol i gael eu hystyried ar gyfer defnydd masnachol. Mae tywydd eithafol hefyd wedi effeithio ar dwf a datblygiad llawer o gnydau[36] a gall gael effaith anuniongyrchol ar amaethyddiaeth gan y gallai tir gael ei golli gan lifogydd[37].

Da byw

Ffynhonnell: Prifysgol Aberystwyth

Yn y DU mae da byw werth mwy na chnydau[38]. Gall newid yn yr hinsawdd gael effaith negyddol ar dda byw oherwydd gallent brofi straen gwres a all effeithio ar gynhyrchu llaeth[39], ffrwythlondeb[40], a lles da byw[41]. Gall digwyddiadau tymheredd eithafol hefyd arwain at, mwy o ddefnydd o ddŵr, defnyddio ynni, a chynyddu’r risg o glefyd[42], a all achosi problemau o ran lles anifeiliaid a lledaeniad afiechyd wrth gludo da byw[43].

Aberystwyth

Ffynhonnell: Iwan Davies
Ffynhonnell: Stephanie. Burgess97

Gallwch weld rhai o’r effeithiau a achosir gan gynhesu byd-eang yn Aberystwyth. Er enghraifft, yn ystod haf 2021 achosodd y tywydd poeth i’r twyni tywod yn Borth fynd ar dân[44] a gwelwyd walrws arctig ar arfordir Sir Benfro. Mae rhai yn dweud fod hyn yn olygfa anghyffredin ac a allai fod yn gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd[45]. Yn ddiweddar, mae newyddion y BBC hefyd wedi rhyddhau erthygl yn tynnu sylw at y pryderon ynghylch lefelau’r môr yn codi a pha effaith y gallai hynny ei chael ar aber Aberystwyth a Dyfi[46].

Ffynonellau

  1. Carey C. The impacts of climate change on the annual cycles of birds. Philos Trans R Soc Lond B Biol Sci. 2009;364(1534):3321-3330. doi:10.1098/rstb.2009.0182. Dyddiad cyrchu: 25/08/2021
  2. Carey C. The impacts of climate change on the annual cycles of birds. Philos Trans R Soc Lond B Biol Sci. 2009;364(1534):3321-3330. doi:10.1098/rstb.2009.0182. Dyddiad cyrchu: 25/08/2021
  3. Franks, S. E., Pearce-Higgins, J. W., Atkinson, S., Bell, J. R., Botham, M. S., Brereton, T., … Leech, D. (2018). The sensitivity of breeding songbirds to changes in seasonal timing linked to population change but cannot be directly attributed to the effects of trophic asynchrony on productivity. Global Change Biology, 24, 957-971. https://doi.org/10.1111/gcb.13960. Dyddiad cyrchu: 25/08/2021
  4. Bowler, D.E., Heldbjerg, H., Fox, A.D., de Jong, M. and Böhning-Gaese, K. (2019), Long-term declines of European insectivorous bird populations and potential causes. Conservation Biology, 33: 1120-1130. https://doi.org/10.1111/cobi.13307. Dyddiad cyrchu: 25/08/2021
  5. Weeks, B.C., Willard, D.E., Zimova, M., Ellis, A.A., Witynski, M.L., Hennen, M. and Winger, B.M. (2020), Shared morphological consequences of global warming in North American migratory birds. Ecol Lett, 23: 316-325. https://doi.org/10.1111/ele.13434. Dyddiad cyrchu: 25/08/2021
  6. Wainhouse D.2016. The influence of climate change on forest insect pests in Britain. Forestry Commission. Forest Research. https://www.forestresearch.gov.uk/research/the-influence-of-climate-change-on-forest-insect-pests-in-britain/ Dyddiad cyrchu: 25/08/2021
  7. Gilburn AS, Bunnefeld N, Wilson JM, Botham MS, Brereton TM, Fox R, Goulson D. 2015. Are neonicotinoid insecticides driving declines of widespread butterflies? PeerJ 3:e1402 https://doi.org/10.7717/peerj.1402. Dyddiad cyrchu: 25/08/21
  8. Soroye, P., Newbold, T., Kerr, J. (2020), Climate change contributes to widespread declines among bumble bees across continents. Science, Vol 367, issue 6478, pp. 685-688. https://doi.org/10.1126/science.aax8591. Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  9. Regehr, E.V., Hunter, C.M., Caswell, H., Amstrup, S.C. and Stirling, I. (2010), Survival and breeding of polar bears in the southern Beaufort Sea in relation to sea ice. Journal of Animal Ecology, 79: 117-127. https://doi.org/10.1111/j.1365-2656.2009.01603.x Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  10. Gezon, Z., Inouye, D. & Irwin, R. (2016). Phenological change in a spring ephemeral: implications for pollination and plant reproduction. Global Change Biology, 22(5): 1779–1793. DOI: 10.1111/gcb.13209. Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  11. Bindoff, N.L., J. Willebrand, V. Artale, A, Cazenave, J. Gregory, S. Gulev, K. Hanawa, C. Le Qu&eaute;r&eaute, S. Levitus, Y. Nojiri, C.K. Shum, L.D. Talley, and A. Unnikrishnan. 2007. Observations: Oceanic climate change and sea level. In: Climate change 2007: The physical science basis. Contribution of Working Group I to the Fourth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change. Edited by S. Solomon, D. Qin, M. Manning, Z. Chen, M. Marquis, K.B. Averyt, M. Tignor, and H.L. Miller. Cambridge University Press.
  12. 4.4.8 Freshwater wetland, lakes, and rivers in IPCC Climate Change 2007: Working Group II: Impacts, Adaptation and Vulnerability. https://archive.ipcc.ch/publications_and_data/ar4/wg2/en/ch4s4-4-8.html Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  13. P. Whitehead, D. Butterfield, and A. Wade. Potential impacts of climate change on river water quality. Environment Agency Science Report – SC070043/SR1. ISBN: 978-1-84432-906-9. Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  14. National Oceanic and Atmospheric Administration. (2013, September). Two Takes on Climate Change in the Ocean? National Ocean Service: The United States Department of Commerce. Adalwyd o: http://web.archive.org/web/20161211043243/http://www.nmfs.noaa.gov/stories/2013/09/9_30_13two_takes_on_climate_change
    _in_ocean.html. Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  15. Whitcomb, I. (2019, August 12). Droves of Blacktip Sharks Are Summering in Long Island for the First Time. LiveScience. Adalwyd o: livescience.com/sharks-vacation-in-hamptons.html. Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  16. Glandon HL, Kilbourne KH, Miller TJ (2019) Winter is (not) coming: Warming temperatures will affect the overwinter behaviour and survival of blue crab. PLOS ONE 14(7):e0219555. https://doi.org/10.1371/journal.pone.0219555. Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  17. National Oceanic and Atmospheric Administration. (2019, May 24). What is a Dead Zone? National Ocean Service: The United States Department of Commerce. Adalwyd o: oceanservice.noaa.gov/facts/deadzone.html. Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  18. Herr, D., K. Isensee, E. Harrould-Kolieb, and C. Turley (2014). Ocean Acidification: International Policy and Governance Options. Gland, Switzerland. International Union for Conservation of Nature. ISBN: 978-2-8317-1665-7. Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  19. Gramling, C. (2015, November 13). How Warming Oceans Unleashed an Ice Stream. Science, 350(6262), 728. Adalwyd o: DOI: 10.1126/science.350.6262.728. Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  20. Church, J.A., P.U. Clark, A. Cazenave, J.M. Gregory, S. Jevrejeva, A. Levermann, M.A. Merrifield, G.A. Milne, R.S. Nerem, P.D. Nunn, A.J. Payne, W.T. Pfeffer, D. Stammer and A.S. Unnikrishnan, 2013: Sea Level Change. In: Climate Change 2013: The Physical Science Basis. Contribution of Working Group I to the Fifth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change [Stocker, T.F., D. Qin, G.-K. Plattner, M. Tignor, S.K. Allen, J. Boschung, A. Nauels, Y. Xia, V. Bex and P.M. Midgley (eds.)]. Cambridge University Press, Cambridge, United Kingdom and New York, NY, USA. Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  21. Kendon et al. 2018. State of the UK Climate 2017, International Journal of Climatology. https://doi.org/10.1002/joc.5798. Dyddiad cyrchu: 27/08/2021
  22. Gazzard, R., Moffat, A. Forestry Commission UK, Forest Research UK, 2020. Country report for the United Kingdom, in San-Miguel-Ayanz et al (Eds), Forest Fires in Europe, middle East and North Africa 2019, EUR 30402 EN, Publications Office of the European Union, Luxembourg, 2020, ISBN 978-92-76-23209-4, doi:10.2760/468688, JRC122115. Dyddiad cyrchu: 27/08/2021
  23. Gazzard, R., Moffat, A. Forestry Commission UK, Forest Research UK, 2020. Country report for the United Kingdom, in San-Miguel-Ayanz et al (Eds), Forest Fires in Europe, middle East and North Africa 2019, EUR 30402 EN, Publications Office of the European Union, Luxembourg, 2020, ISBN 978-92-76-23209-4, doi:10.2760/468688, JRC122115. Dyddiad cyrchu: 27/08/2021
  24. UK Climate extremes, Met Office, UK Government: https://www.metoffice.gov.uk/research/climate/maps-and-data/uk-climate-extremes. Dyddiad cyrchu: 27/08/2021
  25. The Met Office report ‘Too hot, too cold, too wet, too dry: Drivers and impacts of seasonal weather in the UK’ explains from a UK perspective how seasonal and annual variability in our weather might be affected by changes to the climate. Dyddiad cyrchu: 27/08/2021
  26. USGCRP (2016). Impacts of Climate Change on Human Health in the United States: A Scientific Assessment. Crimmins, A., J. Balbus, J.L. Gamble, C.B. Beard, J.E. Bell, D. Dodgen, R.J. Eisen, N.Fann, M.D. Hawkins, S.C. Herring, L. Jantarasami, D.M. Mills, S. Saha, M.C. Sarofim, J.Trtanj, and L.Ziska, Eds. U.S. Global Change Research Program, Washington, DC. 312 pp. dx.doi.org/10.7930/J0R49NQX. Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  27. Luber, G., K. Knowlton, J. Balbus, H. Frumkin, M. Hayden, J. Hess, M. McGeehin, N. Sheats, L. Backer, C. B. Beard, K. L. Ebi, E. Maibach, R. S. Ostfeld, C. Wiedinmyer, E. Zielinski-Gutiérrez, and L. Ziska, .USGCRP (2016). 2014: Ch. 9: Human Health. Climate Change Impacts in the United States: The Third National Climate Assessment, J. M. Melillo, Terese (T.C.) Richmond, and G. W. Yohe, Eds., U.S. Global Change Research Program, 220-256. doi:10.7930/J0PN93H5. Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  28. A., J. Balbus, J.L. Gamble, C.B. Beard, J.E. Bell, D. Dodgen, R.J. Eisen, N.Fann, M.D. Hawkins, S.C. Herring, L. Jantarasami, D.M. Mills, S. Saha, M.C. Sarofim, J.Trtanj, and L.Ziska, Eds.USGCRP (2016). Impacts of Climate Change on Human Health in the United States: A Scientific Assessment. Crimmins U.S. Global Change Research Program, Washington, DC. 312 pp. dx.doi.org/10.7930/J0R49NQX. Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  29. A., J. Balbus, J.L. Gamble, C.B. Beard, J.E. Bell, D. Dodgen, R.J. Eisen, N.Fann, M.D. Hawkins, S.C. Herring, L. Jantarasami, D.M. Mills, S. Saha, M.C. Sarofim, J.Trtanj, and L.Ziska, Eds.USGCRP (2016). Impacts of Climate Change on Human Health in the United States: A Scientific Assessment. Crimmins U.S. Global Change Research Program, Washington, DC. 312 pp. dx.doi.org/10.7930/J0R49NQX. Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  30. Core Writing Team, R.K. Pachauri and L.A. Meyer (eds.) IPCC (2014). Climate Change 2014: Synthesis Report. Contribution of Working Groups I, II and III to the Fifth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change. IPCC, Geneva, Switzerland, 151 p. (PDF, 80 pp, 4.6MB). Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  31. Gamble, J.L. (ed.), K.L. Ebi, F.G. Sussman, T.J. Wilbanks, (Authors).CCSP (2008). Analyses of the effects of global change on human health and welfare and human systems. A Report by the U.S. Climate Change Science Program and the Subcommittee on Global Change Research. U.S. Environmental Protection Agency, Washington, DC, USA. Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  32. Angus, A., Burgess, P. J., Morris, J., Lingard, J. (2009), ‘Agriculture and land use: Demand for and supply of agricultural commodities, characteristics of farming and food industries and implications for land use’, Land Use Policy, Vol 26, No 1001, pp S230–S242. Dyddiad cyrchu: 01/09/2021
  33. Defra (2010a), UK Food Security Assessment: Detailed Analysis, Defra, London. Dyddiad cyrchu: 01/09/2021
  34. Gornall, G., Betts, R., Burke, E., Clark, R., Camp, J., Willett, K., Wiltshire, A. 2010 Implications of climate change for agricultural productivity in the early twenty-first century. Phil. Trans. R. Soc. B3652973–2989 http://doi.org/10.1098/rstb.2010.0158. Dyddiad cyrchu: 01/09/2021
  35. Knox J, Morris J, Hess T. Identifying Future Risks to UK Agricultural Crop Production: Putting Climate Change in Context. Outlook on Agriculture. 2010;39(4):249-256. doi:10.5367/oa.2010.0016. Dyddiad cyrchu: 01/09/2021
  36. Eisenach, C. (2019), How plants respond to climate change: A new Virtual Special Issue of Plant, Cell & Environment. Plant Cell Environ, 42: 2537-2539. https://doi.org/10.1111/pce.13604. Dyddiad cyrchu: 26/08/2021
  37. IPCC (2007), ‘Climate change 2007: Synthesis report’, in Pachauri, R. K., Reisinger, A., eds, Contribution of Working Groups I, II and III to the Fourth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change, IPCC, Geneva. Dyddiad cyrchu: 01/09/2021
  38. Defra, DARD, The Scottish Government, & The Welsh Assembly Government (2017), Agriculture in 36 the United Kingdom, 2016, 37 https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/629226/AUK38 2016-17jul17.pdf. Dyddiad cyrchu: 01/09/2021
  39. Hill, D. L., & Wall, E. (2017). Weather influences feed intake and feed efficiency in a temperate 18 climate. Journal of Dairy Science, 100(3), 2240–2257. Dyddiad cyrchu: 01/09/2021
  40. Amundson, J.L., Mader, T.L., Rasby, R.J., Hu, Q.S (2006) Environmental effects of pregnancy rate in 32 beef cattle. Journal of Agricultural Science, 84, 3415 – 3420. Dyddiad cyrchu: 01/09/2021
  41. Van laer, E., Moons, C. P. H., Sonck, B., & Tuyttens, F. A. M. (2014). Importance of outdoor shelter for 45 cattle in temperate climates. Livestock Science, 159(1), 87–101. Dyddiad cyrchu: 01/09/2021
  42. Skuce, P. J., Morgan, E. R., van Dijk, J., & Mitchell, M. (2013). Animal health aspects of adaptation to 25 climate change: beating the heat and parasites in a warming Europe. Animal, 7(s2), 333–345. Dyddiad cyrchu: 01/09/2021
  43. Villorroel, M., Barreiro, P., Kettlewell, P., Farish, M., Mitchell, M. (2011) Time derivatives in air 5 temperature and enthalpy as non-invasive welfare indicators during long distance animal transport. 6 Biosystems Engineering, 110, 253-260. Dyddiad cyrchu: 01/09/2021
  44. https://www.independent.co.uk/tv/news/sand-dunes-fire-wales-heatwave-vef1d1d03. Dyddiad cyrchu: 25/06/2021
  45. https://www.thenational.wales/news/19189855.juvenile-walrus-goes-swimabout-wally/ Dyddiad cyrchu:26/08/2021
  46. https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-49753740 Dyddiad cyrchu: 25/08/2021